鶹Լ

Hyd arc

Gallwn ganfod hyd arc drwy ddefnyddio’r fformiwla:

\(\frac{\texttheta}{360} × \pi~\text{d}\)

\(\texttheta\) yw ongl y sector a \(\text{d}\) yw diamedr y cylch.

Enghraifft

Sector gydag ongl o 80° a radiws o 12 cm.

Mae gan y sector hwn arc leiaf, gan fod yr ongl yn llai na 180⁰.

Rydyn ni’n gwybod radiws y sector felly mae angen i ni ddyblu hwn er mwyn canfod y diamedr.

Yma, mae \(\text{d}\) = 24 a \(\texttheta\) = 80⁰.

Drwy amnewid y gwerthoedd hyn yn y fformiwla, cawn:

\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{80}{360} × \pi × {24}\)

\(\text{= 16.755...}\)

\(\text{= 16.8 cm (i un lle degol)}\)

Question

Canfydda hyd arc leiaf AB.

Sector gydag ongl o 60° a radiws o 7.3 cm.

Enghraifft

Sector gydag ongl o 210° a radiws o 60 mm.

Mae’r sector hwn yn cynnwys arc fwyaf, gan fod yr ongl yn fwy na 180⁰.

Rydyn ni’n dal i ddilyn yr un broses ar gyfer y cwestiwn hwn. Paid ag anghofio dyblu’r radiws i gael y diamedr.

\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{210}{360} × \pi × {120}\)

\(\text{= 219.91...}\)

\(\text{= 219.9 mm (i un lle degol)}\)

Question

Canfydda hyd arc fwyaf AB.

Sector gydag ongl o 330° a radiws o 4.60 cm.