Â鶹ԼÅÄ

Llunio cylchoedd

Er mwyn llunio cylch, bydd arnat ti angen cwmpas, pensil a phren mesur. Mae angen i ti wybod radiws neu ddiamedr y cylch rwyt ti eisiau ei lunio.

Agora dy gwmpas at bellter sy’n hafal i radiws y cylch (neu hanner y diamedr). Gosoda bwynt y cwmpas yng nghanol y cylch a llunia’r siâp yn ysgafn.

Cylch gyda’r diamedr a’r radiws wedi eu marcio. Mae’r radiws wedi ei labelu’n 7 cm. O dan y cylch mae cwmpas gyda phensil, a phren mesur. Mae’r cwmpas wedi ei agor at 7 cm.