鶹Լ

Perimedr sector

Y perimedr yw’r pellter yr holl ffordd o amgylch y tu allan i siâp. Gallwn ganfod perimedr sector drwy ddefnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod am ganfod hyd arc.

Ffurfir sector rhwng dau radiws ac arc. I ganfod y perimedr, mae angen i ni adio’r gwerthoedd hyn at ei gilydd.

\(\text{Perimedr = Hyd yr arc + 2r}\)

Sector gyda radiws o 45 cm a hyd yr arc yn 27.5 cm.

Yma, rydyn ni’n cael hyd yr arc a’r radiws.

Drwy amnewid y gwerthoedd hyn, cawn:

\(\text{Perimedr = 27.5 + (2 × 45)}\)

\(\text{= 27.5 + 90}\)

\(\text{= 117.5 cm}\)

Question

Canfydda berimedr y sector hwn.

Sector gyda radiws o 10 cm a hyd yr arc yn 15 cm.