鶹Լ

Arwynebedd sector

Arwynebedd siâp yw’r gofod sydd wedi ei gynnwys y tu mewn iddo. Gallwn ganfod arwynebedd sector gan ddefnyddio’r fformiwla:

\(\frac{\texttheta}{360} × \pi~\text{r}^{2}\)

\(\texttheta\) yw ongl y sector ac \(\text{r}\) yw radiws y cylch.

Enghraifft

Sector gydag ongl o 45° a radiws o 11 cm.

Yma, mae \(\text{r}\) = 11 a \(\texttheta\) = 45⁰.

Drwy amnewid y rhain yn y fformiwla, cawn:

\(\text{Arwynebedd =}~\frac{45}{360} × \pi × {11}^{2}\)

\(\text{= 47.51...}\)

\(\text{= 47.5 cm}^{2}~\text{(i un lle degol)}\)

Question

Canfydda arwynebedd y sector hwn:

Sector gydag ongl o 110° a radiws o 32 cm.