Â鶹ԼÅÄ

Onglau mewnol ac allanol

Yn syml, siâp gyda thair neu fwy o ochrau ac onglau yw polygon. Siâp 2D gyda phedair ochr ac ongl yw pedrochr.

Mae yna chwech pedrochr arbennig sydd â phriodweddau gwahanol.

³§²µ·Éâ°ù

³§²µ·Éâ°ù gyda llinellau toredig o gornel i gornel, sy’n dangos ongl sgwâr lle mae’r llinellau’n croesi.
  • Mae gan y sgwâr bedair ochr sydd yr un hyd.
  • Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
  • Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
  • Mae'r ei gilydd ar ongl sgwâr.
  • Mae pob un o onglau allanol y sgwâr yn 270°.

Petryal

Petryal gyda llinellau toredig o gornel i gornel, sy’n dangos ongl sgwâr ym mhob cornel.
  • Mae gan y petryal ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
  • Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
  • Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
  • Mae’r ³¦°ù´Ç±ð²õ±ô¾±²Ô¾±²¹³Ü‵µ haneru ei gilydd.
  • Mae pob un o onglau allanol y petryal yn 90°.

Paralelogram

Paralelogram gyda llinellau toredig o gornel i gornel. Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal, wedi eu lliwio’n felyn a gwyrdd.
  • Mae gan y paralelogram ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
  • Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
  • Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
  • Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
  • Mae’r ³¦°ù´Ç±ð²õ±ô¾±²Ô¾±²¹³Ü‵µ haneru ei gilydd.

Rhombws

Rhombws gyda llinellau toredig o gornel i gornel, sy’n dangos ongl sgwâr lle mae’r llinellau’n croesi. Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal, wedi eu lliwio’n felyn a gwyrdd.
  • Mae gan y rhombws bedair ochr sydd yr un hyd.
  • Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
  • Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
  • Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
  • Mae’r ³¦°ù´Ç±ð²õ±ô¾±²Ô¾±²¹³Ü‵µ haneru ei gilydd ar ongl sgwâr.

Trapesiwm

Trapesiwm gydag un pâr o ochrau paralel
  • Mae gan y trapesiwm un pâr o ochrau paralel.

Barcut

Barcut gyda llinellau toredig o gornel i gornel, sy’n dangos ongl sgwâr lle mae’r llinellau’n croesi. Mae ganddo un pâr o onglau hafal, wedi eu lliwio’n wyrdd.
  • Mae gan y barcut ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
  • Mae ganddo un pâr o onglau hafal.
  • Mae un groeslin yn cael ei haneru gan y llall ar ongl sgwâr.