鶹Լ

Effeithlonrwydd canrannol trosglwyddo egni

Cyfrifo effeithlonrwydd trosglwyddiadau egni

Mae egni’n cael ei drosglwyddo ar hyd cadwynau bwyd, ond mae swm yr egni sydd ar gael yn lleihau o un lefel droffig i’r nesaf. Y rheswm dros hyn yw mai dim ond tua 10 y cant o’r egni sy’n cael ei drosglwyddo i’r lefel droffig nesaf.

Mae gweddill yr egni yn gadael y gadwyn fwyd mewn sawl ffordd:

  • mae’n cael ei ryddhau fel egni gwres wrth resbiradu
  • mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesau bywyd (ee symudiad)
  • mae’n cael ei garthu mewn ymgarthion a gweddillion organebau marw sy’n cael eu trosglwyddo i

Mae llai o egni yn cael ei drosglwyddo ar bob lefel o’r gadwyn fwyd, felly mae’r yn lleihau.

Mae modd cyfrifo effeithlonrwydd canrannol trosglwyddo egni rhwng lefelau troffig gan ddefnyddio’r hafaliad hwn.

\(\text{effeithlonrwydd} = \frac{\text{egni sy'n cael ei drosglwyddo i'r lefel nesaf}}{\text{cyfanswm yr egni i mewn}} \times 100\)

Question

Trosglwyddo egni rhwng cynhyrchwyr, ysyddion cynradd, ysyddion eilaidd ac ysyddion trydyddol
  1. Faint o egni sydd gan A ar ddechrau’r gadwyn?
  2. Faint o egni a drosglwyddir o A i B?
  3. Cyfrifa effeithlonrwydd y trosglwyddiad hwn gan ddefnyddio’r hafaliad.