鶹Լ

Ewtroffigedd

Mae rhai llygryddion yn effeithio ar yr amgylchedd drwy darfu ar y cydbwysedd mewn cadwynau bwyd.

Carthion

Os aiff carthion heb eu trin i afonydd, bydd micro-organebau'n eu dadelfennu nhw. Mae niferoedd y micro-organebau’n cynyddu'n ddramatig ac maen nhw'n defnyddio ocsigen o'r dŵr i gyflawni . O ganlyniad, mae llai o ocsigen wedi hydoddi yn y dŵr, felly efallai na fydd organebau dyfrol fel pysgod a phryfed yn gallu goroesi.

Gwrteithiau nitrad

Mae'r rhain yn hydawdd, ac os cânt eu chwistrellu ar gnydau maen nhw'n golchi i mewn i afonydd a llynnoedd yn hawdd, sef . Gallwn ni amlinellu'r broses fel hyn.

  1. Mae mwy o nitradau yn y dŵr yn cynyddu twf algâu a phlanhigion.
  2. Mae'r algâu'n ffurfio blŵm dros arwyneb y dŵr, gan atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill yn y dŵr.
  3. Mae'r planhigion hyn yn marw oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cyflawni heb olau.
  4. Mae niferoedd microbau fel bacteria yn cynyddu wrth iddyn nhw y planhigion marw, gan ddefnyddio ocsigen o'r dŵr i resbiradu wrth wneud hynny.
  5. Mae'r lefelau ocsigen yn isel ar ôl hyn, sy'n gallu achosi i bryfed dyfrol a physgod fygu, ac yn y pen draw mae'r llyn yn gallu mynd yn gwbl ddifywyd.

Question

Mae ffermwr yn chwistrellu gwrtaith nitrad ar ei dir o gwmpas llyn. Alli di roi'r camau hyn yn eu trefn i ddisgrifio sut gallai’r pysgod a'r organebau eraill yn y llyn farw o ganlyniad i hyn?

Darlun yn dangos ewtroffigedd mewn dŵr wedi'i achosi gan gynnydd mewn nitradau a ffosffadau o wrteithiau.
  • Mae planhigion marw yn cael eu dadelfennu gan facteria, sy’n ddefnyddio ocsigen yn y dŵr yn ystod resbiradu.
  • Mae blŵm algâu'n atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill. Mae'r planhigion yn dechrau marw.
  • Mae gormodedd o faetholion (nitradau) o wrteithiau'n cael eu golchi o'r tir i mewn i afonydd gan ddŵr glaw.
  • Mae lefelau ocsigen yn mynd mor isel mae pysgod ac organebau eraill yn mygu.
  • Mae'r maetholion hyn yn achosi twf planhigion dyfrol o algâu a phlanhigion eraill.

Rhywogaeth ddangosol

Rhywogaeth ddangosol yw organeb mae ei phresenoldeb neu ei habsenoldeb yn dangos i wyddonwyr os oes llygredd mewn ardal.

Llygredd aer

Cennau ar foncyff coeden
Figure caption,
Cennau ar foncyff coeden

Rydyn ni'n aml yn defnyddio i ganfod llygredd aer, oherwydd mae llawer o rywogaethau sydd ddim yn tyfu mewn ardaloedd â llygryddion aer, fel y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan draffig.

Llygredd dŵr

Rydyn ni'n defnyddio dŵr croyw i ganfod lefelau llygredd mewn dŵr croyw. Mae rhai organebau'n gallu goddef lefelau llygredd uchel, ond fydd eraill ddim i'w cael mewn mannau llygredig.

Mae asidig neu ddiffyg ocsigen mewn dŵr hefyd yn dynodi llygredd.