Dyddiadur
Pwrpas dyddiadur yw nodi digwyddiadau sydd wedi digwydd. Hefyd, mae modd i ti nodi dy deimladau neu dy farn am rywbeth. Mae dyddiadur yn rhywbeth personol iawn.
Iaith ac arddull dyddiadur
- Defnyddio person cyntaf y ferf i nodi teimladau personol a digwyddiadau personol.
- Defnyddio鈥檙 trydydd person i gyfeirio at weithredoedd rhywun arall.
- Mae modd defnyddio cyfuniad o amser y gorffennol (beth sydd wedi digwydd), presennol (teimladau wrth ysgrifennu鈥檙 dyddiadur) a鈥檙 dyfodol (dymuniadau ar gyfer y dyfodol).
- Iaith anffurfiol bob dydd.
Dylet ti gynnwys ansoddeiriau, cymariaethau, personoli neu drosiadau diddorol.
Enghraifft
Larwm am chwech? Be鈥?
鈥淢i fyddi di鈥檔 hwyr, ma鈥 dy frecwast di鈥檔 oeri!鈥 Dad - mae angen is-deitlau arno fe weithiau. Mae鈥檔 union fel un o鈥檙 sarjants yn yr hen ffilmiau du a gwyn yna am yr Ail Ryfel Byd! Myn diawl, fe neith e鈥檔 lladd i os neith e fyth ddarllen hwn! Wps.
Ie, ie, codi鈥檔 gynnar amdani. Ro鈥檔 i ar bigau鈥檙 drain yn meddwl ei fod wedi bod wrthi鈥檔 coginio rhyw frecwast ysblennydd 脿 la Jamie Oliver i mi ar gyfer fy niwrnod mawr. Blincin cornffl锚cs a llaeth oer! Ac ar ben hynny, siafins y cornffl锚cs oedden nhw 芒 diferyn llipa o laeth. Brecwast llwm ar y naw. Mae鈥檔 si诺r yr oedd Oliver Twist yn bwyta mwy i frecwast na beth gefais i'r bore 鈥檓a. Dw i wirioneddol yn gobeithio bod y ff诺l dwl wedi bod i siopa neu dw i鈥檔 mynd i lwgu bore fory! Brecwast oer, diwrnod oer. Doedd hi ddim yn argoeli鈥檔 dda, ond mi gafodd e fi allan o鈥檙 gwely a lawr staer. Da iawn Dad.
Tasg
Ysgrifenna baragraff agoriadol dyddiadur yn adrodd hanes dy ddiwrnod. Rhaid i ti geisio dal sylw鈥檙 darllenydd yn syth:
- dechrau gydag ebychiad
- nodi digwyddiad
- nodi sut wyt ti鈥檔 teimlo
- nodi dy obeithion ar gyfer y dyfodol
- fflach - cynnwys nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, ailadrodd, cymariaethau