Â鶹ԼÅÄ

Loci a llunio loci

Locws yw llwybr sy’n cael ei ffurfio gan bwynt sy’n symud yn ôl rheol benodol. Y lluosog yw loci.

Infograffeg yn dangos rhedwr ar drac athletau a’i lwybr wedi ei labelu "Locws"

Mae’r rhedwr yn dilyn llwybr. Mae’r llwybr hwn yn locws.

Locws o amgylch pwynt

Mae bysedd y cloc yn symud o amgylch y cloc ac yn creu locws.

Mae blaen y ddau fys bob amser yr un pellter – yn gytbell – o ganol y cloc.

Cylch yw’r locws mae’r bysedd yn ei greu.

Infograffeg yn dangos cloc gyda dau fys a’r llwybr cylchol mae’r bysedd yn ei ddilyn wedi ei labelu "Locws"

Rhaid i ti ddefnyddio pâr o gwmpasau i greu locws o amgylch pwynt.

Locws o linell

Nid oes yn rhaid i locws fod yn llinell – gall hefyd fod yn ardal.

Enghraifft

Mae gwely blodau’n rhedeg ar hyd y glaswellt rhwng A a B. Mae ymyl y gwely blodau 1 m oddi wrth y llinell AB. Sut byddet ti’n llunio diagram cywir i ddangos y gwely blodau, gan ddefnyddio graddfa o 1 cm : 1 m?

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Gwely blodau petryal gyda’r ddwy gornel ar y chwith wedi eu labelu ag "A" a "B", Llunia linell yn baralel i AB sydd 1 cm oddi wrth AB. Tywylla’r rhan sydd rhwng y llinell hon a’r llinell AB

Question

Rhaid i ymwelwyr sefyll o leiaf 2 m oddi wrth y waliau lle mae’r mwncïod yn byw mewn sŵ. Sut byddet ti’n llunio diagram cywir i ddangos lle na ddylai’r ymwelwyr sefyll, gan ddefnyddio graddfa o 1 cm : 1 m?

Petryal gyda’r corneli wedi eu labelu DEFG, a dau fwnci y tu mewn iddo

Er mwyn llunio locws o amgylch pwynt, yn gyntaf bydd angen i ti lunio’r llinell ac yna tywyllu’r ardal briodol, gan ddibynnu ar y cwestiwn.

Question

Mae ci ar dennyn sy’n mesur 3 m. Mae’r pen arall wedi ei glymu wrth bostyn yng nghanol yr ardd.

Gan ddefnyddio graddfa o 1 cm = 1 m, tywylla’r ardal y gall y ci ei chyrraedd.

Ci yn sefyll ar laswellt gyda llinell yn mesur 3 m yn pwyntio tuag ato