Â鶹ԼÅÄ

Llunio pedrochrau

Wrth lunio pedrochrau, rydyn ni fel arfer yn eu ffurfio allan o ddau driongl. Er mwyn llunio ein trionglau, mae angen i ni wybod naill ai:

  • hyd y tair ochr (SSS)
  • un ochr a dwy ongl (ASA) neu
  • ddwy ochr ac un ongl (SAS)

Wrth lunio pedrochrau, mae arnat ti angen o leiaf bum darn o wybodaeth. Gelli naill ai gael gwybodaeth am hyd yr ochrau (S), onglau (A) neu hyd y croesliniau (D).

Gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gen ti, edrycha i weld pa drionglau y gelli di eu llunio. Dim ond tair o ochrau’r pedrochr sydd angen i ti eu llunio’n gywir, gan y gelli gwblhau’r siâp drwy gysylltu corneli’r ochrau eraill.

Enghraifft un

Infograffeg yn dangos sut y gallwn lunio pedrochr allan o ddau driongl. Rydyn ni’n gwybod hyd pob ochr ac maen nhw wedi eu labelu.

Enghraifft dau

Infograffeg yn dangos sut y gallwn lunio pedrochr allan o ddau driongl. Rydyn ni’n gwybod hyd rhai o’r ochrau a maint rhai o’r onglau ac maen nhw wedi eu labelu.