Â鶹ԼÅÄ

Llunio trionglau

Gallwn lunio trionglau a siapiau eraill yn gywir drwy ddefnyddio onglydd, pâr o gwmpasau a phren mesur.

Llunio trionglau gan wybod Ochr Ongl Ochr (SAS)

Mae arnon ni angen hyd dwy ochr a maint yr ongl sydd rhyngddyn nhw.

Enghraifft

Gwna luniad cywir o driongl sydd â hyd ei ochrau’n 4 cm a 6 cm ac ongl o 40° rhyngddyn nhw.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Llinell lorweddol wedi ei labelu 6 cm, Llunia ochr hiraf y triongl gan ddefnyddio pren mesur

Llunio trionglau gan wybod Ongl Ochr Ongl (ASA)

Mae arnon ni angen maint dwy ongl a hyd yr ochr sydd rhyngddyn nhw.

Enghraifft

Gwna luniad cywir o driongl gyda’r onglau 40° a 70°, ac ochr sy’n 8 cm o hyd rhyngddyn nhw.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 5, Llinell lorweddol wedi ei labelu 8 cm, Llunia’r ochr gan ddefnyddio pren mesur

Llunio trionglau gan wybod Ochr Ochr Ochr (SSS)

Mae arnon ni angen hyd y tair ochr.

Enghraifft

Gwna luniad cywir o driongl a hyd ei ochrau’n 3 cm, 5 cm a 6 cm.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Llinell lorweddol wedi ei labelu 6 cm, Llunia’r ochr hiraf gan ddefnyddio pren mesur

Fel gyda phob lluniad, gwna’n siŵr nad wyt yn cael gwared â’r llinellau llunio. Mae’r rhain yn dangos bod y trionglau wedi eu llunio’n gywir.