Â鶹ԼÅÄ

Llunio ongl

Llunio ongl 60°

Er mwyn llunio ongl 60°, yn gyntaf, rydyn ni’n llunio llinell o unrhyw hyd. Yna gan ddefnyddio cwmpas, rydyn ni’n defnyddio hon fel sail i lunio triongl hafalochrog.

Dwy linell yn ffurfio ongl RPQ sydd wedi ei labelu’n 60° gradd. Mae yna arc ym mhwynt R.

Er mwyn llunio’r triongl hafalochrog, rydyn ni’n:

  • agor y cwmpas at yr un dimensiynau â’n llinell wreiddiol
  • gosod pwynt y cwmpas wrth un pen o’r llinell a llunio arc
  • ailadrodd hyn wrth y pen arall, a dylai’r arcau groestorri lle dylen ni weld pigyn y triongl

Cysyllta bigyn y triongl at un pen o’r sail, ac yna bydd gen ti ongl 60°.

Llunio ongl 30°

Er mwyn llunio ongl 30°, rhaid i ti’n gyntaf lunio ongl 60° fel uchod ac yna haneru’r ongl.

Ongl RPQ wedi ei haneru i ffurfio dwy ongl wedi eu labelu 30 gradd

Llunio ongl 90°

Er mwyn llunio ongl 90°, rwyt yn llunio llinell sail ac yna’n llunio hanerydd perpendicwlar i adael ongl o 90°.

Ongl 90 gradd wedi ei ffurfio gan linell sail a hanerydd perpendicwlar

Llunio ongl 45°

Er mwyn llunio ongl 45°, yn gyntaf, llunia hanerydd perpendicwlar llinell, i adael ongl o 90°. Yn ail, gan ddilyn y camau uchod, hanera’r ongl. Dylai hyn dy adael gydag ongl o 45°.

Ongl 90 gradd wedi ei haneru i ffurfio dwy ongl wedi eu labelu’n 45 gradd