Â鶹ԼÅÄ

'Dwy ran o dair' o gleifion Covid-19 yn fenywod

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Reuters

Mae bron i ddwy ran o dair o bobl sydd wedi eu heintio â coronafeirws yn fenywod, yn ôl ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywed TUC Cymru y dylai'r wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn cydnabod nad yw menywod sydd yn gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd yn cael eu talu ddigon na'i gwerthfawrogi yn ddigonol.

Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae pedwar o bob pump person sydd yn gweithio ym meysydd iechyd neu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fenywod.

Mae ffigyrau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn nodi bod 64% o'r holl achosion coronafeirws sydd wedi cael diagnosis yn fenywod.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leilani Medel wedi gweithio fel nyrs mewn nifer o gartrefi gofal yn y de

Dywedodd y nyrs Navit Kaur gafodd brawf bositif am coronafeirws, bod mwy o fenywod yn nyrsio yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ddal y feirws.

Cafodd Mrs Kaur sy'n 40 oed o'r Barri ddiagnosis ar yr un diwrnod ac y gwnaeth ei chydweithiwr Leilani Medel farw o Covid-19. Roedd hi hefyd yn nyrs.

Mae'n dweud ei bod hi'n amhosib i gadw pellter cymdeithasol wrth ofalu am rhywun, yn enwedig pan fydd pobl gyda dementia wedi cynhyrfu.

Dywedodd: "Dwi'n nyrs, ac mae gen i reddf naturiol i fynd i ddal eu dwylo er mwyn cysuro."

Fe wnaeth Mrs Kaur hunan-ynysu yn ei hystafell wely, wrth i'w merch wyth oed siarad gyda hi o'r ystafell drws nesaf.

"Roeddwn i mor bryderus am fy nheulu, sut y bydden nhw'n ymdopi hebdda'i pe bai rhywbeth yn digwydd," meddai Mrs Kaur, sydd bellach wedi gwella o'r feirws.

"Mae'r pryder dal yna er fy mod wedi gwella."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, mae ansawdd gwael cyfarpar amddiffyn personol PPE hefyd wedi effeithio ar fenywod.

"Dyw llawer o'r PPE yn dal ddim yn ffitio menywod yn iawn, ac mae yna ddiffyg yn y gwaith cynhyrchu o gwmpas y meintiau priodol ar gyfer PPE."

Mae'r arbenigwr polisi iechyd Dr Clare Wenham o'r London School of Economics yn awgrymu y gallai'r gwahaniaeth ddeillio o'r ffaith bod profion ar y cychwyn yn cael eu cynnal ar weithwyr iechyd yn bennaf, a bod y mwyafrif o'r rheini yn fenywod.

Ychwanegodd bod menywod yn fwy agored i'r feirws oherwydd eu bod yn ofalwyr yn y cartref, a hefyd yn fwy tebygol na dynion o chwilio am help meddygol os ydyn nhw yn mynd yn sâl.

Yn y cyfamser, dynion oedd i gyfrif am 56% o'r marwolaethau gofnodwyd yng Nghymru rhwng Mawrth a Ebrill yn ôl swyddfa yr ONS, er nad oes esboniad am hynny hyd yma.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, canolbwyntio ar amddiffyn y mwyaf bregus rhag y feirws oedd y ffordd yr aeth Cymru ati yn gyntaf i gynnal profion - fel y rhai oedd yn gweithio mewn ysbytai a chartrefi gofal yn ogystal a rhai oedd yn darparu gwasanaethau rheng flaen.

Ychwanegodd: "Ym mis Ebrill a Mai fel ei gilydd, fe wnaethon ni ymestyn y profion i gynnwys gweithwyr allweddol, ac yna i'r cyhoedd oedd yn dangos symptomau, a hynny er mwyn cefnogi y strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn."

Mae adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Llun gan grŵp ymgynghori ar ledu y feirws ymysg cymunedau BAME i Lywodraeth Cymru wedi darganfod y gallai hiliaeth systemig fod wedi cyfrannu at beryglon Covid-19 ymysg cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.