Â鶹ԼÅÄ

Prinder PPE yn achosi 'gofid anferth' i nyrsys Cymru

  • Cyhoeddwyd
Person meddygol mewn dillad PPEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prinder offer diogelwch personol yn achosi "gofid anferth ac yn dwysau pryder" i nyrsys Cymru yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys.

Fe wnaeth yr undeb gynnal arolwg gyda'u haelodau yng Nghymru a darganfod bod 54% o'r rhai wnaeth ateb yn "teimlo dan bwysau" i ofalu am gleifion "heb yr offer digonol i'w hamddiffyn."

875 o aelodau wnaeth ymateb gyda 49% yn dweud eu bod wedi cael gofyn i ail ddefnyddio eitemau PPE a 67% yn dweud nad oedd ganddyn nhw fynediad i gyfleusterau ymolchi.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi dosbarthu "mwy na 16.2m o eitemau PPE ychwanegol i weithwyr y rheng flaen a gofalwyr".

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr yr undeb: "Mae'r canlyniadau yn glir. Mae staff nyrsio sydd yn gweithio yn y byd iechyd ar draws Cymru yn delio gyda phrinder ofnadwy o offer."

"Mae nyrsys a gofalwyr mewn cartrefi gofal, y rhai yn y gymuned ac yn ein hysbytai yn gweithio oriau hir, o dan bwysau mawr ac yn peryglu eu hiechyd eu hunain er mwyn amddiffyn eraill.

"Mae'r diffyg PPE yn achosi gofid anferth ac yn dwysau pryder ein haelodau nyrsio a'r cleifion maent yn gofalu ar eu holau."

"Mae'r diffyg PPE yn y byd iechyd hefyd, yn ddiamau, yn cael effaith ar ledaeniad a throsglwyddiad COVID-19."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr arolwg yn dangos bod rhai nyrsys heb gael hyfforddiant sut i wisgo'r dillad a'r offer PPE

Dywedodd yr arolwg hefyd bod 49% o nyrsys sydd yn trin cleifion gyda'r feirws oedd ddim ar beiriant anadlu heb dderbyn unrhyw hyfforddiant ynglŷn â pha ddillad PPE y dylen nhw fod yn gwisgo a sut i'w gwisgo.

Cafodd yr arolwg ei gynnal yn ystod penwythnos y Pasg.

Yn Lloegr mae gweithwyr iechyd wedi cael canllawiau ynglŷn â sut i ddelio gyda phrinder disgwyliedig mewn offer PPE.

Ymhlith y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr mae ail ddefnyddio gwisgoedd neu ddefnyddio dillad gwahanol.

Dim dilyn Lloegr

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad oes angen cymryd camau tebyg yma gan ddweud: "Nid ydym yn disgwyl i unrhywbeth amharu ar ein cyflenwad.

"Dydyn ni felly ddim yn disgwyl rhybudd fel hyn yng Nghymru ar hyn o bryd."

Pan ofynnwyd i'r llywodraeth ynglÅ·n ag arolwg Coleg Brenhinol y Nyrsys dywedodd llefarydd bod mwy na "16.2m o eitemau ychwanegol o PPE wedi eu rhoi i weithwyr y rheng flaen a gofalwyr.."

"Mae'r pedair cenedl sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn cydweithio er mwyn cael gafael mewn PPE ac rydyn ni yn gweithio gyda'r diwydiant yng Nghymru i gynhyrchu offer ychwanegol."