Â鶹ԼÅÄ

Pam bod coronafeirws yn lledu mewn ffatrïoedd cig?

  • Cyhoeddwyd
Llun stoc o brosesu cig ieirFfynhonnell y llun, Getty Images

Nid dim ond gweithwyr prosesu cig ar Ynys Môn sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws.

Mae nifer o weithwyr prosesu cig mewn ffatrioedd ym Merthyr a Wrecsam a Gorllewin Efrog wedi cael eu heintio a Covid-19.

Dramor, mae clystyrau o'r feirws wedi lledu'n gyflym mewn safleoedd tebyg yn yr Almaen, Ffrainc, Sbaen ac America.

Mae pob un o'r 560 o weithwyr safle prosesu cig 2 Sisters yn Llangefni yn hunan ynysu am bythefnos wedi cynifer o achosion o'r feirws yn eu plith.

Pam bod yr haint yn lledu mewn ffatrïoedd cig?

Yn ôl Bev Clarkson o undeb Unite, "Mae Unite wedi rhybuddio sawl gwaith bod 'na debygolrwydd cryf y byddai coronafeirws yn ymledu mewn ffatrïoedd prosesu cig led led Prydain."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynifer o achosion o Covid-19 wedi bod yn 2 Sisters nes bod yr awdurdodau yn ystyried cyflwyno cyfnod clo arall ar Ynys Môn

Mae pobl yn cael eu heintio â'r coronafeirws drwy ddiferion bach sy'n cael eu peswch, tisian neu eu hanadlu o berson arall sydd wedi'u heintio.

Gallai'r haint gael ei drosglwyddo drwy gyswllt agos a'r person, neu drwy gyffwrdd arwynebedd sydd wedi'u heintio.

"Mae ffatrïoedd, yn enwedig llefydd tu fewn sy'n oer a llaith yn amgylchedd perffaith i'r feirws ledu," meddai Lawrence Young, Athro mewn Oncoleg Moleciwlar ym Mhrifysgol Warwick.

"Mae diferion sy'n cynnwys y feirws yn fwy tebygol o ledu, setlo ac aros yn fyw."

Beth am amodau gwaith?

Un theori arall yw bod gweithfeydd lle mae peiriannau oeri swnllyd yn golygu bod rhaid i weithwyr weiddi'n uwch i gael eu clywed, a hyn yn cynyddu ymlediad y diferion peryglus.

Mae arbenigwyr hefyd yn damcaniaethu ei bod hi'n anodd cadw pellter o ddau fetr ar linell gynhyrchu, a bod diffyg golau dydd naturiol yn helpu'r feirws oroesi.

Does dim tystiolaeth bod cynnyrch cig yn gallu bod yn ffynhonnell haint Covid-19 yn y safleoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un awgrym yw y dylai gweithwyr mewn ffatrïoedd cig wisgo offer PPE

Sut mae modd gwarchod staff ?

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau am sut i weithio'n ddiogel wrth brosesu bwyd - yn cynnwys cadw gweithwyr o leiaf ddau fetr ar wahân lle bo modd.

Mae'r BMPA - Cymdeithas Brosesu Cig Prydain - hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n cynnwys glanhau ffatrïoedd yn fwy aml nag arfer, ynysu aelodau o staff sy'n datblygu symptomau a chyflwyno oriau dechrau a gorffen gwaith ar adegau gwahanol.

Mae 'na awgrym hefyd y dylai gweithwyr wisgo offer gwarchod personol, PPE, ychwanegol os oes peth ar gael.

Mae staff mewn safleoedd prosesu cig yn aml yn gwisgo PPE, ond dydi mwgwd ddim fel arfer yn rhan o'r wisg arferol.

Mesurau gwledydd eraill

Damcaniaeth dan sylw yn yr Almaen yw bod nifer o weithwyr mewn ffatrïoedd cig o Ddwyrain Ewrop heb sgiliau iaith ddigonol na hyfforddiant i ddeall y canllawiau am sut i atal y feirws rhag lledu.

Mae adroddiad o'r Ganolfan Atal Afiechydon yn America wedi argymell arafu'r broses gynhyrchu a chyflwyno rhwystrau corfforol rhwng staff, sicrhau bod pawb yn gwisgo mygydau a sicrhau nad oes unrhyw un ar eu colled yn ariannol wrth hunan ynysu.

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie wedi galw am archwiliad annibynnol o'r safle yn Llangefni cyn i'r ffatri ailagor.