Â鶹ԼÅÄ

Rhif R: Beth ydy o a pham ei fod yn bwysig?

  • Cyhoeddwyd
Graffeg trosglwyddo haintFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r raddfa mae'r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned wedi disgyn yn sylweddol o'i gymharu â sut yr oedd ar ei anterth yn ôl GIG Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Andrew Goodall, fod y rhif R o dan un ond ei fod "dwy neu deirgwaith" hynny yn gynharach yn ystod y pandemig.

Mae'r rhif yn allweddol wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau at y dyfodol am lacio cyfyngiadau ar symudiadau pobl, a bydd diweddariad am hynny'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Ond beth yw graddfa R?

Dyma'r nifer o bobl ar gyfartaledd y gall person sydd yn sâl basio'r feirws ymlaen atyn nhw.

Felly os yw'r rhif R yn 1, ar gyfartaledd fe fyddai 10 person sy'n dioddef o Covid-19 yn heintio 10 person arall.

Ond os yw R yn 0.8 yna byddai 10 person sy'n sâl efo'r haint yn heintio wyth arall.

Ffynhonnell y llun, Orbon Alija/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhif R yn holl bwysig wrth benderfynu pryd i lacio cyfyngiadau

Gorau oll po isaf yw'r rhif a'r nod yw ei fod o dan un. Mae cynnydd yn y rhif yn cyfyngu ar allu gwleidyddion i godi'r cyfyngiadau ar y cyhoedd.

Hefyd mae'n golygu os yw'n uwch nag un y gallai yna fod cynnydd mawr ac ail frig mewn achosion.

Beth yw'r rhif R yng Nghymru?

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos mai dim ond o ychydig dan un yw'r rhif R yma.

Ar 22 Mai dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y rhif tua 0.8 ond y byddai ganddo ddiweddariad erbyn 28 Mai.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn ceisio deall yr "amrywiaeth rhanbarthol" o fewn y rhif yma ar draws Cymru.

Pam fod y rhif yn bwysig?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Goodall yn dweud bod y gwasanaeth iechyd yn barod am gynnydd eto yn y nifer o achosion

Dywed Dr Goodall fod y rhif yn ystyriaeth bwysig pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau. Mae unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o safbwynt y cyfyngiadau am gael effaith ar raddfa lledaeniad y feirws meddai.

Fe wnaeth Mr Drakeford gyhoeddi dogfen oedd yn darogan faint o bobl fyddai yn gorfod mynd i'r ysbyty, gan edrych ar bosibiliadau gwahanol o safbwynt y rhif R.

Byddai dim ond cynnydd bach yn y rhif R yn golygu miloedd yn fwy yn yr ysbyty a chymaint â 7,200 o farwolaethau.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething dyma'r ffactor mwyaf pwysig wrth benderfynu pryd fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.

"Mae'r ffigwr sydd yn dweud wrthon ni pa mor gyflym mae'n lledaenu, neu ddim yn lledaenu, ar draws Cymru neu y lefel mae'r feirws yn gostwng yn bwysig iawn i ni," meddai.