Â鶹ԼÅÄ

'Angen gwneud mwy i baratoi am ail don coronafeirws'

  • Cyhoeddwyd
Nyrsys yn gwisgo PPE

Mae cyflenwad Cymru o offer diogelwch personol ar gyfer nyrsys a meddygon yn "sefydlog ond yn fregus", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y dirprwy weinidog sy'n gyfrifol am gyflenwadau PPE, Lee Waters fod "digon ar gyfer y tri mis nesaf" ond "na allwn ni fforddio tynnu ein llygad oddi ar y bêl".

Yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys (CBN), mae angen gwneud mwy o waith i baratoi am ail don posib o achosion Covid-19.

Dywedodd Nicky Hughes, cyfarwyddwr cysylltiol nyrsio CBN Cymru bod angen dysgu o beth aeth o'i le ar ddechrau'r pandemig.

Ar anterth y don gyntaf o achosion coronafeirws, dywedodd CBN Cymru fod staff nyrsio yn "delio â phrinder arswydus o gyfarpar diogelwch".

Dywedodd Ms Hughes fod diffyg "proses ganolog" wedi golygu nad oedd cyflenwadau'n cyrraedd "y rheng flaen".

Gyda thua 90% o gyflenwad PPE Cymru yn dod o dramor, mae Mr Waters yn gobeithio y bydd mwy yn cael eu cynhyrchu yn lleol.

"Rydyn ni wedi cael rhai trafferthion ar hyd y ffordd o ran cael y cyflenwadau allan yn effeithlon," meddai.

"Rydyn ni wedi datrys hynny ac mae yna system ddosbarthu effeithlon bellach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lee Waters bod 'na adeg pan mai dim ond dyddiau'n unig o PPE oedd ar ôl

O ran problemau blaenorol wrth gael PPE i weithwyr gofal iechyd, ychwanegodd: "Mae'n sefyllfa gymhleth iawn ac, wrth gwrs, mewn argyfwng mae yna banig, mae yna ddryswch.

"Felly, pan feddyliwch am y peth, mae gennym stoc ganolog ac mae'n rhaid i ni gael cyflenwadau i bob meddygfa, pob cartref gofal, pob ysbyty yng Nghymru, ac mae gwneud hynny'n ddi-dor wedi bod yn anodd."

Ychwanegodd Mr Waters fod rhai "amseroedd anodd" pan "dim ond diwrnodau" o gyflenwadau oedd ar ôl ond nad oedd Cymru "wedi rhedeg allan ar unrhyw adeg".

Ar ddechrau'r pandemig, roedd tua 13 miliwn o eitemau PPE yn cael eu defnyddio bob wythnos, gydag 8 miliwn o ddarnau'n cael eu defnyddio yr wythnos ddiwethaf.

Ers dechrau mis Mawrth, mae mwy na 126 miliwn o eitemau PPE wedi cael eu defnyddio yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Pan ofynnwyd a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus bod ganddi ddigon o gyflenwad a chadwyni cyflenwi cadarn os oes ail don o achosion, dywedodd Mr Waters: "Mae gennym ni ddigon ar gyfer y tri mis nesaf.

"Mae'r system yn sefydlog ond mae'n fregus a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn cadw ein negeseuon 'Arhoswch Adref' a'r rheoliadau oherwydd na allwn fforddio tynnu ein llygad oddi ar y bêl yma."

Mae 'na 50 o gyflenwyr PPE yng Nghymru erbyn hyn, wedi i'r Prif Weinidog wneud apêl ddechrau mis Ebrill.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod Cymru bellach yn "hunangynhaliol" o ran cynhyrchu dillad swyddogol ar gyfer gweithwyr meddygol.

Mae cwmni o Gaerffili wedi dechrau cynhyrchu tariannau wyneb - Transcend Packaging - ac mae prif swyddog gweithredol y cwmni, Lorenzo Angelucci yn gobeithio parhau i'w cynhyrchu yn y tymor hir.

Yng Nglyn Ebwy, mae menter gymdeithasol ELITE Clothing Solutions yn cynhyrchu dillad swyddogol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ar ôl gorfod cau ar ddechrau'r argyfwng, mae prif swyddog gweithredol ELITE, Andrea Wayman yn dweud bod cynhyrchu PPE wedi bod yn achubiaeth.

"Fe gafodd Covid effaith arnon ni i ddechrau drwy ein cau gan fod diffyg deunydd a dillad yn y diwydiant. Ond o ganlyniad i Covid mae pob un o'n staff cynhyrchu yn ôl yn y gwaith," meddai.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd gweithgynhyrchu yn aros yng Nghymru ac nid yn dibynnu ar fewnforion fel y gwelon ni o'r blaen.

"Bydd angen hyn arnom i adfywio swyddi yn ein heconomi."