Â鶹ԼÅÄ

Sâl? Mae'r GIG 'dal ar agor' er gwaethaf y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Dr Ash Basu, ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Maelor, WrecsamFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Dr Ash Basu, ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

Ewch i gael cymorth meddygol os ydych chi'n sâl - dyna gyngor gweithwyr iechyd proffesiynol wrth i lai o bobl ofyn am help yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae gostyngiad o 50% wedi bod yn nifer y bobl sy'n mynd i adrannau brys Cymru ers dechrau'r pandemig.

Dywed gweithwyr iechyd proffesiynol eu bod yn poeni fwyfwy bod pobl yn methu â cheisio triniaeth frys rhag ofn dal y feirws.

Yn ôl Dr Ash Basu, ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, mae "cwymp sylweddol yn nifer y cleifion sy'n cyflwyno argyfyngau dilys fel poenau yn y frest a allai fod yn symptomau trawiad ar y galon, argyfyngau diabetig a strôc".

GIG 'dal ar agor'

"Mae hyn yn peri pryder i ni sy'n gweithio yn yr adrannau brys," meddai, "mae unrhyw un sy'n oedi cyn ceisio triniaeth yn peryglu eu hiechyd tymor hir, felly rydyn ni am dynnu sylw'r cyhoedd ein bod ni'n dal ar agor ar gyfer argyfyngau.

"Hoffem sicrhau ein cymunedau bod yr holl gleifion sy'n bresennol yn yr adran achosion brys yn cael eu sgrinio'n briodol ac mae gennym feysydd penodol ar gyfer cleifion â materion sydd ddim yn gysylltiedig â Covid.

"Hoffwn bwysleisio i unrhyw un sy'n teimlo bod angen triniaeth frys arnyn nhw i ddod i'r adran achosion brys neu fel arall, os nad yw eich salwch yn argyfwng, gallwch ymweld â'ch meddyg teulu neu fferyllydd, yn ogystal â'ch uned mân anafiadau agosaf."

Ffynhonnell y llun, BMA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Phil White yn annog ymgynghoriadau ar-lein a ffôn, i leihau'r risg o drosglwyddo heintiau

Dywed Dr Phil White, o Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) Cymru, fod meddygon teulu yn dal i roi gwasanaeth, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu drwy fideo. Mae hynny yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

"Er bod byrddau iechyd yn cyhoeddi arweiniad, mae amrywiadau rhwng sut mae meddygfeydd ledled Cymru yn rheoli cleifion sy'n mynd i feddygfeydd," meddai Dr White.

Annog codi'r ffôn

"Efallai y bydd cleifion yn dal i gael eu gweld mewn rhai meddygfeydd trwy apwyntiad, gydag asesiad gofalus. Lle mae apwyntiadau wedi'u gwneud, mae pellter cymdeithasol hefyd wedi'i gynghori mewn meysydd eraill o'r practis

"Byddem yn annog cleifion yn gryf i ddefnyddio ymgynghoriadau ar-lein a ffôn, i leihau'r risg o drosglwyddo heintiau."

Yn y cyfamser mae elusen Diabetes UK yn annog pobl gyda'r clefyd i ofalu am eu traed yn ystod y 'lockdown' ac i ofyn am gymorth meddygol brys os ydyn nhw'n sylwi ar rywbeth anarferol.

Mae pobl â diabetes mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau â'u traed oherwydd gall lefelau siwgr gwaed uchel niweidio pibellau gwaed, gan effeithio ar sut mae gwaed yn llifo i'r traed a'r coesau.

Mae Galw Iechyd Cymru ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Gallwch eu ffonio ar 0845 46 47 os ydych chi'n teimlo'n sâl neu'n ansicr beth i'w wneud, neu i gael gwybodaeth iechyd am amrywiaeth eang o gyflyrau, triniaethau a gwasanaethau iechyd lleol.