Â鶹ԼÅÄ

Hanes Caernarfon

top
Merched yn eistedd yn y Maes yng Nghaernarfon

A ellwch chi ateb cwestiynau T Meirion Hughes am Gaernarfon? Taith hanesyddol o amgylch tref Caernarfon.

Beth wyddoch chi am Gaernarfon? Faint ohonom ni, bobol Caernarfon, all ddweud ein bod yn adnabod ein tref? Bron pawb? Tybed?

Mentraf ateb fy nghwestiwn fy hun trwy ddweud canran fechan iawn o'r boblogaeth. Dychmygaf weld llawer ohonoch yn ffieiddio a'ch clywed yn anghytuno'n groch. Gawn ni weld!

Beth wyddoch chi am "Gloch yr Uwd?" Beth oedd ystyr "Tai Clapars?" Lle roedd "Gardd-yr-Afon?" "Stryd Star Bach?" "Stryd y Priciau Saethu?" Lle roedd "Y Batri?" Pa weithgareddau oedd yn mynd ymlaen yno a beth sydd yno heddiw?

Roedd Caernarfon yn enwog am ddau beth yn oes Fictoria ac yn cael ei galw yn "Tref y ....... tafarn" ar y naill law ac yn "Brifddinas yr ..." ar y llall. Fedrwch chi lenwi'r bylchau? 10 cwestiwn. Faint gawsoch chi yn iawn? Cewch weld yn nes ymlaen!

Gobeithio y bydd yr ymarfer hwn yn ysgogiad ichi i geisio gwybod mwy am hanes y dre, ac fel man cychwyn awgrymaf eich bod yn astudio map gan John Speede, dyddiedig 1610, ac fe welwch gyn lleied mae'r dref gaerog wedi newid ers 400 mlynedd.

Hogiau'r Wal

Tuag at Y Stryd Fawr o gyfeiriad 'Stryd Star Bach' a Stryd Twll yn y Wal yn y cefndir Fe'm breintiwyd i trwy imi gael fy ngeni o fewn y muriau yn rhif 9, Y Stryd Fawr, ac oherwydd hynny rwyf yn un o "Hogiau'r Wal", sef y Cofis go iawn. I hawlio'r anrhydedd hwn, mae'n rhaid i'r person fod wedi ei eni a'i fagu yn un o'r strydoedd canlynol sydd oddi mewn i'r muriau: Y Stryd Fawr, Stryd y Jêl, Stryd yr Eglwys, Stryd y Castell, Stryd y Farchnad, Stryd y Plas, Stryd Pedwar a Chwech, Stryd Twll yn y Wal, Stryd Star Bach a Phendeitsh.

Yr enw Saesneg ar Stryd Star Bach yw Pepper Lane, ond ar fap John Speede, gwelir mai un stryd o'r enw Pepper Lane, oedd y ddwy ochr i'r Porth Mawr, hynny yw Stryd Twll yn y Wal, fel y mae heddiw i'r dde o'r Porth, a Stryd Star Bach i'r chwith ohono. Yno mae Tŷ Cwrdd Tystion Jehofa ar hyn o bryd. Naw stryd, felly, nid deg oedd cynnwys yr hen dref gaerog, ac yn ôl traddodiad, y bobl a aned ac a drigai yno oedd y gwir Gofis.

Cloch yr Uwd a Phorth yr Aur

Yn y Canol Oesoedd, Y Porth Mawr (East Gate) oedd y brif fynedfa i'r dre ac roedd yn rhaid i bawb a fynnai fynediad wneud hynny cyn wyth o'r gloch y nos, pryd y cenid cloch. Pont Godi oedd yno, a byddai'n rhaid i'r sawl na chyrhaeddai mewn pryd aros tan chwech o'r gloch fore trannoeth cyn cael mynediad ar ganiad y gloch foreol.

Porth yr AurEr i'r arferiad o gau ac agor y bont ddarfod ganrifoedd yn ôl, daliwyd i ganu'r gloch am wyth y nos a chwech y bore tan ganol y ganrif ddiwethaf, a chofiaf yn dda glywed y "Gloch Wyth" yn rheolaidd. Cwynai rhai bod y gloch foreol yn eu deffro yn llawer rhy gynnar, a'r enw a roddid arni am resymau amlwg oedd "Cloch yr Uwd".

Yn ogystal â'r fynedfa drwy'r Porth Mawr, roedd yn bosib dod i mewn drwy borth arall (West Gate), neu Porth yr Aur fel y'i gelwid (uchod). Mae dau esboniad ar yr enw hwn, a'r cyntaf yw mai trwy'r Porth hwn y deuai smyglwyr â'u nwyddau gwerthfawr, a pha ddefnydd bynnag oeddynt troesant yn aur o'u gwerthu.

Mae'r ail esboniad yn debycach o fod yn gywir, sef mai disgrifiad yw'r aur o'r olygfa y tu mewn i'r porth pan fo'r haul yn machlud dros draethau Môn, fel y canodd Y Cyn-Archdderwydd William Morris yn ei englyn "Heol yr Hwyr":

Hardd yw tân hwyr o Wanwyn - daw o Fôn
Hyd Fenai fel cadwyn;
Haul a dyr dros li o dwyn
Heol wendeg i Landwyn.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.