Â鶹ԼÅÄ

Hanes Bermo

top
Cychod yn Abermaw

Hanes tref Abermaw ar arfordir Ardudwy gan Mair Jones o Epworth Terrace yn y Bermo.

Wyddech chi mai darn o dir uwchben y Bermo oedd eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mai oddi yma y daeth un o arwyr mawr y Titanic?

Er mai un o Lanbedr yw Mair Jones yn wreiddiol, mae wedi bod yn aelod o gymuned Abermaw ers dros 50 mlynedd. Hi oedd y ddynes gyntaf i'w hethol yn faer ar y dref lan môr ac, fel cyn-gynghorydd, mae hi wedi cymryd diddordeb mawr ym mywyd y Bermo dros y blynyddoedd. Dyma gip ganddi ar hanes y dref:

Abermaw

Sefydlwyd tref Abermaw lle mae arfordir Ardudwy yn cyfyngu tua'r de. Gyda'r traeth ar Fae Ceredigion, aber bendigedig yr afon Mawddach a'r mynyddoedd y tu cefn wedi eu ffurfio gan weithred llosgfynydd, y mae'n dirlun hynafol iawn.

Mae'n cynnal cynefin amrywiol o blanhigion ac adar, a phob man o fewn taith gerdded.

Mae olion ac enwau llefydd yn yr ardal yn tystiolaethau i bell amser yn ôl. Yn adeg y Tuduriaid ychydig o dai oedd o gwmpas man croesi'r afon gyda chwch, ond fel yr oedd pysgota a masnach yn tyfu, daeth prysurdeb i'r harbwr ac yn yr 18fed ganrif yr oedd llongau yn cael eu hadeiladu wrth yr afon. Bu i rai o'r trigolion fuddsoddi yn y masnach (gweler llyfrau Dr Lewis Lloyd).

Daeth oes Victoria â llawer o ymwelwyr oedd yn gwerthfawrogi yr ardal iach, ac o 1867 yr oedd eu rhif yn cynyddu gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Adeiladwyd gwestai hardd, ond mae aml i hen adeilad yn dal mewn bod, ac yn ddiddorol iawn.

Bythynnod Talbot (Llun: John Pugh)Yn 1895 rhoddodd Mrs Fanny Talbot ddarn o dir uwchben y dref yn Dinas Olau i grŵp o ffrindiau ac felly y dechreuwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn 1898 bu i'r cyngor lleol fuddsoddi yng ngwaith dŵr Bodlyn - cam dewr iawn ac yn pwysleisio fod dynion eisiau iechyd a gorffwys oddi wrth pwysau'r byd.

Cam dewr arall oedd adeiladu'r morglawdd yn 1933, a'r parc i gofio'r rhai a gollwyd yn yr rhyfel. Codwyd Pont Epworth gydag arian gan y cyhoedd ac yn awr mae Theatr y Ddraig a Sefydliad y Morwyr yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr egnïol. Mae'r traeth yn lân ac yn hedfan baner Las Ewrop, ac mae Canolfan Hamdden fodern gerllaw.

Bu i ymsuddwyr lleol ddarganfod llongddrylliad yn y bae a oedd wedi bod yn cario marmor o Carrara yn yr Eidal, i godi eglwys mae'n debyg. Codwyd un o'r darnau marmor ac mae Frank Cocksey wedi cerflunio pysgotwyr o'r darn a'i osod ar y cei. Mae'n debyg fod Michaelangelo wedi defnyddio marmor o'r un chwarel.

Mae cerfluniau ar Theatr y Ddraig gan yr arlunydd Maggie Humphrey ac mae'r cledres o gwmpas gerddi'r harbwr gan Ann Catrin. Mae adeilad hardd y Bad Achub hefyd ar y prom.

Rhai o enwogion lleol yr ardal oedd HW Tilman y mynyddwr a'r awdur, y beirdd Robert Owen a WD Williams; Harold Lowe, swyddog ar y Titanic, y gohebwr John Griffith a'r arloeswr dringo, Owen Glynne Jones.

Cawsom lawer ymwelwr enwog hefyd a edmygai'r dref - Gerallt Gymro, Shelley, Wordsworth, Tennyson, Darwin, John Ruskin, Canon Rawnsley, un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, W. Gladstone a Frances Power Cobbe. Mae Auguste Guyard, ffrind i Victor Hugo, wedi ei gladdu ar Dinas Olau.

Mair Jones, Abermaw


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.