麻豆约拍

Hanes Llangefni a'r cylch

top
Llangefni

Canfyddwch hanes Hwfa M么n, Christmas Evans a'r G诺r o Baradwys gydag Eryl Wyn Rowlands.

Disgrifiwyd tref Llangefni fwy nag unwaith fel 'both yr olwyn'. Enw ar ganol olwyn yw both ac mae Llangefni wrth gwrs yng nghanol M么n Mam Cymru, chwedl Gerallt Gymro.

Tref gymharol ifanc yw Llangefni er bod marchnad yn cael ei chynnal yma ers 1785. Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd yn ganolfan amaethyddol gyda'r arwerthiant anifeiliaid yn rhan annatod o'r economi. Bellach mae'r fasnach amaethyddol wedi darfod, ac nid gormod yw dweud fod economi'r dref wedi dioddef o'r herwydd.

Mae'r fro yn ymestyn o Lannerch-y-Medd i'r Gaerwen, ac o D欧 Mawr i Falltraeth a Niwbwrch gan gynnwys pentrefi fel Llangaffo, Pentre Berw, Rhostrehwfa, Bodffordd, Llangwyllog, Aberffraw, Llangristiolus, Bethel, Bodorgan a Gwalchmai. Clamp o ardal sy'n cynnwys cymdogaethau amaethyddol cl貌s.

Ardal sydd yn frith o draddodiadau. Canwyd am y boen a ddigwyddai 'Os torrith Cob Malltraeth' ac o fewn yr un ardal mae olion pyllau glo maes glo M么n. Ac nid yn unig glo, ond hefyd olion diwydiant carreg galch. Daeth Thomas Telford heibio a chodi cobiau gan sythu llwybr yr afon Cefni pan yn adeiladu'r A5.

Eglwys LlangristiolusWrth nesu at y dref ar hyd yr A5 neu'r A55 mi welwch Eglwys Llangristiolus ar y chwith. Rydym yn ymylu ar fro Ifan Gruffydd, Y G诺r o Baradwys. Ac yn eglwys Cerrigceinwen mae cofeb i Morris Lloyd, Lledwigan a laddodd nifer o filwyr Cromwell gyda ffust ddyrnu ym 1646.

Nepell mae Llangristiolus, a'r hen ysgol, lle'r bu'r darlledwr a'r naturiaethwr cynnar, T.G. Walker yn brifathro.

Saif plasdy Henblas wrth ymyl, y diogelwyd cymaint o'i lawysgrifau yn archifdy'r Brifysgol ym Mangor, ac sydd yn rhoi darlun mor glir i ni o fywyd ym M么n yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif.

Beirdd M么n

Yn 么l Robert Williams Parry, Hwfa M么n oedd y creadur tebycaf i fardd a fagwyd erioed yng Nghymru. Ac yn fardd ar ben hynny na ellir byth ei gael yn euog o ysgrifennu yr un llinell o farddoniaeth. Rhostrehwfa oedd ardal ei fagwraeth, ac un tro pan oedd yn brentis o saer fe ddododd arch wag i nofio ar yr afon Cefni a'i thywys yr holl ffordd i Falltraeth yn lle ei chario ar ei gefn!

Rhostrehwfa hefyd oedd milltir sgw芒r y clocmecar a'r englynydd gwlad Llwydfryn Hwfa a'r bardd-gyfreithiwr Rolant o F么n a enillodd y gadair genedlaethol ddwy waith.

Yn Llangefni ei hun Morwyllt oedd ail orsaf feistr y dref a chyfaill i William Davies o'r Rhos, cyfansoddwr Yr Ornest. 'Y dewr Owain Tudur gadd glod y dydd hwnnw....' yn 么l Morwyllt, ond ar y ffordd am Benmynydd fe saif adfeilion Tregarnedd, un o gartrefi Ednyfed Fychan, Distain Gwynedd yn oes Llywelyn Fawr.

Plac ar gartref Christmas EvansBu Llangefni hefyd yn gartref i ddau o utgyrn arian mawr Anghydffurfiaeth Cymru. Christmas Evans, y Bedyddiwr, y gwelir ei gapel ar y ffordd allan o Langefni am Fodffordd a John Elias y Calfin a ddaeth yma i fyw ar ei briodas efo Ledi Ann Bulkeley ym 1829. Codwyd capel coffa i'r ddau ganol y 1890'au.

Yn nyddiau cynnar darlledu y 麻豆约拍 ac o Athlone yn Iwerddon, roedd Gwen Price yn un o unawdwyr cynnar a mwyaf poblogaidd technoleg newydd y radio a chofir o hyd y digrifwr T.C. Simpson ar Noson Lawen Sam Jones o Neuadd y Penrhyn. Ac wrth gwrs fe gysylltir enw Bodffordd am byth efo enw Charles.

Perthyn eglwys Cyngar Sant fel sefydliad yn 么l i'r chweched ganrif a cheir digon o stor茂au amdano ef a'i berthnasau. Ni ellir yn llwyr adael teulu'r Morrisiaid allan er bod y Tyddyn Melys ar ffin eithaf y fro a chylch Yr Arwydd.

Ond mae Gwalchmai yn ddiogel yn y ffr芒m. Gwalchmai, y pentref oedd yn enwog am y dair 'p'. Pregethwyr, potsiars a phorthmyn. Ond yn bentref oedd hefyd yn nythle i feirdd gwlad prysur ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yma bu naturiaethwr cynnar radio arall, R.D. Parry yn brifathro.

Rhwng Llangefni a Gwalchmai mae Maes Awyr Mona a agorwyd ar gyfer llongau awyr y llynges yn ystod Rhyfel 1914-18. Cymerodd ei enw o'r hen westy newid ceffylau a godwyd gan Telford ar ochr yr A5 newydd. Rhyw 12 milltir allai'r goits fawr deithio cyn bod rhaid newid ceffylau cofiwch. A thros y ffordd i'r hen faes awyr mae maes Primin Amaethyddol M么n, sy'n dal i brofi fod amaethyddiaeth, er gwaethaf y caledi, yn rhan bwysig iawn o economi Bro Cefni a'r ynys i gyd.

Tynnwyd coes yn aml am ganu coch Sir F么n er nad oes fawr neb yn sicr o ble mae'n hanu. Ta waeth, ni ellir anghofio fod bandiau pres a bandiau llinynnol wedi bod yn Llangefni, Llannerch-y-medd a Llangristiolus, a bod William Hughes o Langristiolus wedi ei benodi yn brif denor eglwys Gadeiriol Caerliwelydd yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ie Llannerch-y-medd, prifddinas y cryddion a'r gwneuthurwyr snishin, prif ganolfan farchnad M么n cyn i Langefni ei disodli. Llannerch-y-medd cartref y delyna phyncio cerdd dant, cartref y canu cylch yn Nhafarn y Britannia ar y sgw芒r, ac Athen M么n yn ei dydd.

Beth sydd i ddod?

A beth am Fro Cefni ar drothwy yr unfed ganrif ar hugain? Oes mae diwylliant yn dal i flaguro yma. Mae Llangefni o hyd yn dref hynod Gymreig ei naws ond gofaler beidio gorffwys ar y rhwyfau. Un rheswm fod Llangefni yn dal mor Gymreigaidd yw fod cynifer wedi ymddeol i'r dref i fyw o gefn gwlad.

Mae newid yn digwydd ym mhatrwm bywyd y dref. Ond mae newid wedi digwydd mewn cymdeithas erioed. Mae datblygu yn digwydd yma. A charreg sylweddol ym mur amddiffyn Cymreictod y cylch yw'r Glorian. Deil apelio at bobl drwy eu cael i ddarllen Cymraeg, a dyna swm amhrisiadwy ei werth.

Eryl Wyn Rowlands


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.