Hanes Dyffryn Conwy
topGareth Pritchard o Landudno sy'n ein tywys ar daith hanesyddol drwy Ddyffryn Conwy ac i dref wyliau Llandudno a chastell Conwy.
Mae'r ardal yma, ardal papur bro'r Pentan, yn ymestyn o Lanrwst yn y de i Landudno yn y gogledd, ac o Lanfairfechan yn y gorllewin i Hen Golwyn yn y dwyrain.
Fe ddechreuwn ein taith yn Llanrwst sy'n dref farchnad ers canrifoedd. Mae pobl wedi heidio yno ar ddiwrnod ffair a marchnad o'r pentrefi cyfagos i werthu eu cynnyrch a'u hanifeiliaid. Yma mae cartref Gwasg Carreg Gwalch a sefydlwyd gan Myrddin ap Dafydd, bardd y gadair yn Nhyddewi a Chwm Rhymni.
Ond pam Carreg Gwalch? Roedd yr herwr, Dafydd ap Siencyn a'i ddynion, cefnogwyr brwd Harri Tudur, yn cuddio yn Ogof Carreg Gwalch.
Bu Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr clociau fel John Owen (yn y ddeunawfed ganrif) ac yna ei fab, Watkin Owen. Cydnabyddir bod eu clociau wyth niwrnod yn rhai o safon. Rhaid peidio chwaith ag anghofio'r diwydiant telynau fu mewn bri yma dros genedlaethau. Mae'n debyg mai'r enwocaf oedd John Richards a'i delyn deires yn y ddeunawfed ganrif.
Wrth sefyll ar lan Afon Conwy, fe welwch y Bont Fawr a gynlluniwyd gan Indigo Jones. Yr ochr arall i'r afon, draw yn y coed, mae Castell Gwydir, fu'n gartref i deulu'r Wynniaid. Honnir bod y teulu wedi talu am addysg i William Morgan, cyfieithydd y Beibl.
Pentref tawel yw Trefriw heddiw, er daw llawer i ymweld â'r ffatri wlân a'r ffynhonnau yr honnir bod eu dŵr yn iachusol. Yma roedd llys Llywelyn Fawr a honnir i Llywelyn adeiladu Eglwys Trefriw yn arbennig er mwyn ei wraig Siwan, rhag iddi orfod teithio i Lanrhychwyn yn y bryniau uwchben y pentref i addoli.
Erstalwm, roedd yn bosibl i 'stemars' deithio i fyny'r afon o Gonwy a Deganwy gan gario ymwelwyr a nwyddau. Fel y dywed yr hen rigwm;
Stemar bach ar Afon Conwy
Mynd o Drefriw i Ddeganwy
Oedi peth wrth Bont Dolgarrog,
Mynd dan Bont Tal Cafn yn frysiog
Mae'n werth crwydro i fyny'r bryniau i weld y llynnoedd Geirionydd, Crafnant, Eigiau a Chowlyd y canodd Gwilym Cowlyd iddynt;
Y llynnau gwyrddion llonydd - a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd.
A thynn heulwen ysblennydd
Ar len y dŵr, lun y dydd.
Uwchben pentref Dolgarrog, yn Nhachwedd 1925, torrodd argae Llyn Eigiau oedd wedi ei adeiladu i gynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith, a boddwyd rhan helaeth o'r pentref a chollwyd un ar bymtheg o fywydau.
Taith y Rhufeiniaid
Ar draws yr afon i gyfeiriad Maenan, ar safle Gwesty Abaty Maenan, cododd Edward 1af abaty, ar ôl symud y mynachod o Gonwy pan oedd yn adeiladu'r castell. Pan gaewyd yr abaty yn ystod teyrnasiad Harri'r Wythfed, symudwyd garreg Llywelyn Fawr oddi yno i Lanrwst.
Mae tafarn 'Y Bedol' yn Nhal-y-bont yn ein hatgoffa am brysurdeb y dyddiau a fu pan heidiai pobl i'r pentref a Llanbedr-y-cennin i 'Ffair Llanbad' ble gwerthid, ymysg pethau eraill, ferlod ar gyfer pyllau glo De Cymru. Uwchben y pentref mae Pen y Gaer ac olion y 'chevaux de fris' unigryw i warchod y gaer rhag ymosodiad gan farchogion.
Yng Nghaerhun, mae Eglwys Santes Fair, sydd wedi ei hadeiladu ar safle hen gaer Rufeinig 'Kanovium'. Yno, nid nepell o Dal-y-Cafn, oedd y man gorau i groesi Afon Conwy, ac mae'n bosibl gweld rhywfaint o olion y gaer.
Teithiai'r Rhufeiniaid wedyn heibio Ro Wen, sydd bellach, yn anffodus â nifer fawr o dai haf, i fyny'r bryniau, heibio cromlech Maen y Bardd, dros Fwlch y Ddeufaen, ar eu ffordd i Segontium (Caernarfon.)
Ar draws yr Afon Conwy, heibio Tal-y-cafn, mae pentref prysur Eglwysbach. Yno y magwyd Owen Williams, a gyfansoddodd nifer o donau adnabyddus, yn cynnwys 'Hiraethlyn' a enwyd ar ôl yr afon sy'n rhedeg drwy'r pentref. Pwy na chlywodd sôn am Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n gyfrifol am eu cadw.
Yn is i lawr y Dyffryn mae Glan Conwy, neu Llansantffraid i roi eu hen enw, a fu'n ganolfan brysur i adeiladu llongau erstalwm. Roedd nifer o felinau yma ac mae Melin Isaf, sy'n agored i ymwelwyr yn dal i droi.
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.