Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond
bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau. Yn y cyfnod hwn y duedd
oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg
oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd ΓΆ'r Fyddin. Ar Γ΄l iddo
gwblhau ei awdl yn Ffrainc, ar y ffordd i Fflandrys, cafodd fymryn bach o
drafferth i gael y gerdd heibio i sensoriaid y Fyddin, a ofnai fod perygl i
Gymry Cymraeg ddatguddio cyfrinachau yn eu llythyrau Cymraeg.
Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r
bardd buddugol, ni safodd neb. 'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt.
'Roedd y Rhyfel a'r Brifwyl, llwyfan a chyflafan, yn un. Yn awdl 'Yr Arwr' mae elfen o
adlewyrchu'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas
Wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y
ganrif. Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r
ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o
afael hualau gormesol y gorffennol. Credai T. Gwynn Jones mai'r ferch, a
swffragetiaeth, a gynrychiolid gan 'Merch y Drycinoedd' yn yr awdl.
Bu llawer o ddadlau ynghylch ystyr awdl Hedd Wyn, a llawer o anghytuno. Bu
llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr
ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn. Yr oedd dylanwad
dwy o gerddi hir Shelley, Prometheus Unbound a The Revolt of Islam, ar awdl Hedd
Wyn, a cheir creadigaethau debyg i Arwr Hedd Wyn a 'Merch y Drycinoedd' yn y
ddwy gerdd hyn. Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd,
gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y
Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y
celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf
creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol. Yr awdl
hon, ar lawer ystyr, oedd cerdd fawr olaf y mudiad Rhamantaidd, er i'r mudiad
hwnnw lusgo ymlaen, yn adlais egwan, i'r dauddegau.
Y Goron
Testun. Pryddest: ' Pwyll Pendefig Dyfed'
Enillydd: Wil Ifan
Beirniaid: Cadfan, Elfed, Gwili
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest anarbennig yn y traddodiad
chwedlonol-ramantaidd.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|