Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberaeron gyda'r Prifardd Mererid Hopwood. Baled Ianto Glan yr Afon
Gorffennaf 2007
Yn ddiweddar, mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberaeron wedi cael y fraint o gael help neb llai na'r Prifardd Mererid Hopwood i gyfansoddi baled.

Gan ddechrau o ddim, creodd y plant stori am grwt yn gadael ei gartref clyd yn Aberaeron ac yn hwylio'r moroedd mawr i wneud ei ffortiwn. Ond, fel gymaint o fechgyn ifanc y dre a'i chyffiniau, dychwelyd i Aberaeron (ac at ei gariad) yw ei fri.

Perfformiwyd y faled yn sioe'r ysgol yn Neuadd Goffa'r dre (Gorffennaf 4 a 5) fel cyfraniad yr ysgol at ddathliadau Aberaeron 2007. Mae'r faled yn tynnu ar wybodaeth a gasglwyd gan Brosiect Hanes Llafar Aberaeron 2007, a oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu ymweliad Mererid â'r ysgol.

O fewn yr un prosiect cynhaliwyd gweithdai dawns gan Catherine Young - yn seiliedig ar hanes y Mwrthwl Mawr, sef yr hyn a ddefnyddiau 'Dafis y Gof' i greu rhaw enwog Aberaeron.

Baled Ianto Glan yr Afon
Mae'n fore oer o wanwyn
a Ianto'n dechrau ar ei daith
i chwilio am ei ffortiwn
ym mhen draw'r milltiroedd maith.

Mae calon Mari'n crio
a mam yn ddagrau i gyd
mae Ianto wedi dechrau
ar ei daith i ben draw'r byd.

Ffarwel i ti 'Snowdonia'
ffarwel i ti 'Madras'
Mae Ianto'n gadael cartref
A'r wawr yn torri'n las.

Mynd heibio ar yr heol
I 'Gambia' a 'Denver' draw
Mynd heibio i 'Fanceinion'
Mae Ianto'n codi llaw.

Mae'n cyrraedd glan yr harbwr
a'r hwyliau yn llawn haul,
ond ar y coed bach tawel
mae dagrau yn y dail.

Mae pawb yn chwifio hances
a phawb yn gwisgo gwên;
mae antur Ianto'n newydd,
ond mae'r stori hon yn hen.

Un bachgen bach yn gadael
Y fferm ar ben y bryn,
A chwilio am freuddwyd fory
a'r fory hwnnw'n wyn.

Mae'r môr fel llyn yn llonydd
A mas mae'r Aeron Belle,
yn galw ar Ianto i frysio,
ac mae Ianto'n sibrwd 'ffarwel'.

Mae'r llong yn dechrau llifo
yn araf ar wyneb y lli
a Mari fach yn gwylio
diflaniad ei chariad hi.

Mae'r tonau'n llyncu Ianto
Tua'r gorwel yn ei dynnu 'mhell
gan adael Aberaeron
i chwilio am fory gwell.

Ond ar ôl pedwar niwrnod
Mae'r glaw yn dyrnu'n drwm
a storm yn stori arswyd -
yn lleidr sy'n dwgyd Twm.

Twm oedd ffrind bach Ianto
Twm y morwr cryf
Twm yn cysgu'n dawel
ar wely oer y llif.

Ac yna un bore distaw
mae Ianto yn gweld y tir
ac yn ei galon mae cwestiwn
a ddaw fy mreuddwyd yn wir?

A gâf i wlad o ffortiwn?
A gâf i le i fyw?
A gâf i Mari'n gwmni
ryw ddydd, rwy'n gofyn, O Dduw?

Er peintio'r stryd yn lliwgar
er enwi'r dre'n Gymraeg
mae hiraeth yng nghalon Ianto
hiraeth am gael Mari'n wraig.

Ac ildio a wnaeth Ianto
ildio yn fachgen tlawd
ildio am nad oedd ganddo
na mam na chwaer na brawd.

Ac yn leinin dwfn ei wasgod
mae darn o arian mân
a gyda hwn mae'n prynu
tocyn i fynd adre bob cam.

Ac adre'n Aberaeron
mae Mari'n sâl ei gwedd;
mae Mari bron a marw
o hiraeth lond y bedd.

Ac yna, yn diwrnod
Daw cnoc ar ddrws ei thÅ·^,
A Ianto yna'n sefyll -
Ianto ei chariad hi.

Ianto heb un geiniog,
Ianto heb eiddo'n y byd,
Ianto ym mreichiau Mari
Ianto yn gyfoeth i gyd.

  • Mwy o Aberaeron

  • Aberaeron yn dathlu 200


  • Cyfrannwch

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý