Dau gan mlynedd yn ôl cafodd un o gymwynaswyr pennaf Aberaeron - y Parchedig Alban Thomas Jones Gwynne, Arglwydd y Faenor Aberaeron, (oedd yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn), Ddeddf Seneddol Breifat a'i alluogodd i adeiladu'r Harbwr, ac felly sefydlu tref Aberaeron. Mae sgwâr y dref - Sgwâr Alban wedi ei enwi ar ei ôl.
Diolch i ddyfodiad yr harbwr, tyfodd y dref o'i gwmpas yn ganolfan fasnachol a newidodd beth oedd unwaith yn bentref pysgota bach i fod yn un o brif borthladdoedd bae Ceredigion. Roedd perchnogion llawer o dai o gwmpas yr harbwr yn gapteiniaid llong.
Erbyn heddiw, un o brif ddiwydiannau Aberaeron yw twristiaeth. Caiff pobl eu denu gan yr awyrgylch hamddenol yno, y tai lliwgar sy'n tynnu sylw wrth yrru i mewn i'r dref ac wrth gwrs yr harbwr a'r glan môr hefyd.
Nodi'r 200 mlynedd
Eleni, i nodi'r ddeucanmlwyddiant ers sefydlu'r dref, mae trigolion Aberaeron yn dathlu gyda digwyddiadau cymdeithasol ac arddangosfeydd fydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, gan arwain at y prif ddathliadau rhwng 28 Gorffennaf a 4 Awst, 2007.
Lona M. Brierley yn ysgrifennu am y paratoadau
Lluniau'r dathlu
Manylion Gŵyl Deucanmlwyddiant Aberaeron
Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol
|