Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Mrs Leah Clifford Jones Merwerydd a'r Dr. Felix Aubel yn torri cacen y dathlu Dathliadau Capel Llwyncelyn
Mawrth 2006
Adroddiad am dDathliad canrif a hanner o fodolaeth Capel Annibynwyr Llwyncelyn yn 2005.

Ar ddydd Sul Rhagfyr 4ydd 2005 dathlwyd canrif a hanner o fodolaeth Capel Annibynwyr Llwyncelyn, 1855 - 2005. Cafwyd gwasanaeth y dathlu am 2.00 y.p. dan arweiniad y gweinidog, y Parchedig Ddr. Felix Aubel, gyda chyfraniadau gan blant yr Ysgol Sul a phobl ifanc y capel. 'Roedd y capel yn llawn gyda chefnogaeth gref iawn o eglwysi eraill yr ofalaeth, set, Neuaddlwyd, Peniel, Mydroilyn a Siloh.

Wedi gair o groeso gan y gweinidog a chanu'r emyn agoriadol a gyhoeddwyd gan Delme Davies, darllenodd Anwen James y Ganfed Salm a Carys Jones o Efengyl loan, Pennod 15. Cyhoeddwyd yr ail emyn ar ran eglwysi eraill yr ofalaeth gan Elizabeth Morgan, Neuaddlwyd. Gweddïodd y gweinidog a gwnaeth Anwen James, Delme Davies a Caryl Price y casgliad.

Yr eitem nesaf oedd cyfraniad plant yr Ysgol Sul i'r dathliadau. Cafwyd cyflwyniad rhagorol o hanes y capel gan y plant: er enghraifft soniwyd can mlynedd a hanner yn ôl fod tair oedfa pob Sul, Ysgol Sul i oedolion a phlant ac ar un adeg 'roedd dau ar bymtheg o athrawon Ysgol Sul yma, Cwrdd Gweddi ac Ysgol Gân - a'r capel yn llawn. Cafwyd portread difyr gan y plant o esgusodion heddiw am beidio dod i'r capel! Rhoddwyd cymeradwyaeth arbennig i'r plant am eu gwaith rhagorol ac i athrawon yr Ysgol Sul am eu hyfforddiant ardderchog.

Yn dilyn y drydydd emyn a gyhoeddwyd gan Euryd Jones, traddododd y gweinidog, y Parchedig Ddr. Felix Aubel ei araith yn olrhain hanes cant a hanner o flynyddoedd yr achos yn Llwyncelyn. Soniodd am rai o'i ragflaenwyr fel y Parchedigion Ifan Jones, John Howell, Dafydd Rhys Thomas ac Edwin Pryce Jones. Ar ben hyn rhoddodd dipyn o hanes Morgan Evans o Dderwen Gam, un o gefnogwyr selocaf y capel am flynyddoedd lawer.

Tynnodd y gweinidog sylw i'r ymadawedig ffyddlon ymhlith y deaconiaid oedd wedi bod yn gymaint o gefn iddo, fel John Davies, Tom Evans a Miss Hannah Jones. Tynnodd sylw i'r ffaith fod Jean Davies a John Jenkins yn dathlu tri deg o flynyddoedd fel athrawon Ysgol Sul ym mis lonawr 2006. Diweddodd Dr. Aubel ei anerchiad trwy ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch ar hyd bron dair-mlynedd-ar-ddeg o flynyddoedd hapus iawn fel gweinidog capel Llwyncelyn.

Yn dilyn yr araith, darllenodd Enidwen Jones eiriau o farddoniaeth gan Iori Evans oedd wedi cael ei gyfansoddi ar gyfer achlysur y dathlu. I ddiweddi'r oedfa rhoddodd y gweinidog y diolchiadau, cyhoeddodd Eryl Rees yr emyn olaf a thraddododd y gweinidog y fendith.

Wedi'r oedfa yn y capel cynhaliwyd te'r dathlu yn y wedi'i baratoi gan wragedd y capel. Torrodd Leah Clifford Jones y gacen oedd wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer yr oedfaon dathlu. Siaradodd hi hefyd am ei phrofiadau cynnar o eglwy Annibynnol Llwyncelyn.

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Fodern i ddathlu canrif a hanner o fodolaeth y capel am 7.30y.h. 'Roedd y capel yn llawn gyda chynrychiolwyr o bob un o eglwysi'r ofalaeth yn bresennol a chefnogaeth gref o'r pentref a'r ardaloedd cyfagos. Y cadeirydd oedd y gweinidog, arweinydd y gân oedd Tudor Thomas, yr artistiaid oedd Côr Cardi-gân o dan arweinyddiaeth Mrs. Heledd Williams, Llŷs y Gan, aelod ffyddlon o'r capel ag sy'n gefn mawr ar bob achlysur. Y cyfeilyddion oedd Catrin Jones (allweddellau) Dylan Jones (drymiau), Lia Jones (gitâr fâs), Dafydd Driver (gitâr) a Heledd Williams, (piano).

Arweiniodd Tudor Thomas gyda'i frwdfrydedd naturiol ac 'roedd yr artistiaid a'r cyfeilyddion yn benigamp. Llyviyddion y noson oedd David a Gwen Price, and oherwydd salwch siaradodd eu mab, Eryl Price mewn ffordd deimladwy iawn. Rhoddwyd y diolchiadau gan Elfed Howells, ble dymunodd yn dda i r gweinidog, y Parchg. Ddr. Felix Aubel yn ei ofalaeth newydd o eglwysi yng nghylch T'relech, Sir Gaerfyrddin. Dibennodd y noson gyda the i bawb yn festri'r capel.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý