Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Dyffryn Aeron Crwydro dyffryn Aeron
Ebrill 2007
Ar ddydd Sadwrn, yr 17eg o Chwefror 'roedd Ieuan Roberts o Lambed wedi trefnu taith gerdded i Gymdeithas Edward Llwyd yn ardal Dyffryn Aeron.

Gyda chaniatâd caredig Mrs. Davies a Rhydian, fferm Ty Newydd Brynog oedd y man cyfarfod, ond deallaf nad oedd Rhydian wedi atgoffa Kay o'r dyddiad a chafodd eithaf fraw pan ddychwelodd ddiwedd y prynhawn i weld 22 o geir wedi ei parcio ar y clôs! 'Roeddwn innau hefyd wedi cael eithaf syndod i gael 40 o aelodau wedi troi lan o gyn belled â'r Drenewydd, Hwlffordd a Phontardawe ond gyda rhagolygon y tywydd yn dda 'roedd pawb yn edrych ymlaen am ddiwrnod dymunol.

Wrth gyflwyno'r ardal soniodd Ieuan am darddiad Brynog sef Brainog, neu fryn y brain a nodwyd gyntaf yn nogfennau LlanllÅ·r yn 1667 gyda theulu Lloyd yn denantiaid. Daeth yn eiddo Vaughans Trawscoed yn 1769 ac erbyn 1873 'roedd yn ystad o 3,500 erw pan ei torrwyd i fyny gyda theulu'r Davies's yn prynu'r Plasdy a fferm TÅ· Newydd.

Anelwyd am Tychrug trwy gerdded i fyny gyda Nant Bwlch y Wernen a charped o eirlysiau ger glan yr afon yn disgleirio yn haul y bore, golygfa i godi gobeithion am y gwanwyn. Penderfynodd un o gŵn labrador Ty Newydd y byddai'n braf cael cwmni gan ein harwain y rhan fwyaf o'r ffordd.

Ychydig uwch Gwrthwynt Isaf, ar ôl cerdded drwy'r pwdel, gorffwyswyd i weld y rhan hyn o ddyffryn Aeron ar ei orau a dangoswyd allan adeiladau fel y Ffatrioedd a Theatr Felin-fach.

Ar dir Gwrthwynt Uchaf trist oedd gweld gweddillion aradr ceffyl yn cael ei orchuddio gan y llysdyfiant a rhwdu'n araf. Ychydig yn uwch ar hyd y llwybr croeswyd i mewn i dir y Comisiwn Coedwigaeth ac yna ymlaen i'r copa gyda'i thair carp o oes yr efydd.

Y criw ar y daithBraf oedd cael edrych i bob cyfeiriad gyda'r coed wedi eu torri i lawr a gweld cylch mynyddoedd Cambria a'r môr. Ar ôl gadael y goedwig i gyfeiriad Castell Cilcennin, yr hen gaer o oes yr haearn, arhoswyd ym môn y clawdd i gael cinio.

Ymlaen heibio Pen Graig Fach, Blaenberllan a Charnau ar hyd yr hen lôn werdd ond troi i lawr cyn cyrraedd Ty Mawr ac anelu am lawr dyffryn Aeron. Dilyn y llwybr drwy'r goedwig yn ôl yr holl ffordd i Dy Newydd ac ar y ffordd dangos ffwng 'cacennau'r brenin Alfred' yn tyfu ar frigau onnen oedd wedi marw. 'Roedd pawb wedi mwynhau diwrnod pleserus yng nghyffiniau dyffryn Aeron.

  • Mwy o deithiau cerdded yn yr ardal

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý