麻豆约拍

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2007

Ffrindiau fel rhain (3)

Vaughan Roderick | 13:03, Dydd Sadwrn, 30 Mehefin 2007

Sylwadau (10)

"Ydych chi'n cofio addewidion etholiadaol Llafur? Ryn ni'n cofio.
Ryn ni'n gwybod fod Tony Blair wedi dweud celwydd am arfau dinistr torfol yn Irac. Ryn ni'n gwybod fod Llafur Newydd wedi dweud celwydd am ofal cartref rhad ac am ddim i'r henoed yn etholiadau'r Cynulliad, a nawr ryn ni'n gallu gweld faint o wirionedd oedd yn eu haddewidion etholiadau lleol yma yn y Porth.
FFAITH: Allwch chi ddim ymddiried yn Llafur."

Taflen Plaid Cymru yn y Rhondda

"The MP leading the charge against Tony Blair over the Mittal affair has been warned that Labour is planning a smear campaign against him. In an interview with The Telegraph, Adam Price said he had been told by a friend in the Labour Party that a team of researchers was compiling a 'dossier of dirt' about him." Daily Tegraph 9/3/2002

"Those sitting in the gutter should not be slinging mud. The most ludicrous, malicious and untrue allegation was made by the Plaid Cymru MP, Adam Price, who claimed that 'up to 20 staff at Labour's Millbank headquarters were employed to comb through every aspect of his private life'. This is total self-serving nonsense." Charles Clarke Times 12/6/2002

"Mae Cymru yn haeddu ail gyfle, peidiwch gadael i Llafur ei wastraffu! Ar y cychwyn roedd gweithredoedd y llywodraeth Llafur yma'n anghredadwy. Ond erbyn hyn rydyn ni'n gwybod sut rai ydyn nhw nawr." Jill Evans ASE
24/3/2005

"Our shared values and interests are now under threat as never before from an opportunistic coalition of myopic Tories and the narrow separatists of Plaid Cymru" Peter Hain 15/01/07

Yr ornest nesaf

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Sadwrn, 30 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Dyw is-etholiadau seneddol ddim yr hyn oedden nhw. Roedd na gyfnod pan oedd y digwyddiadau rhyfedd yma'n cael eu trin a'r pwys mwyaf. Fe fyddai na erthyglau ac eitemau teledu dirifedi yn croniclo'r ymgyrchoedd a 鈥淣ewsnight Special鈥 yn darlledu am oriau lawer nes cael y canlyniad.

Roedd teledu Cymraeg yr un fath. Roedd hyd yn oed yr is-etholiad mwyaf dibwys Gwyr, dyweder, neu Castell Nedd yn haeddu ei adroddiadau dyddiol a'i raglen ganlyniadau.

Dw i ddim yn cofio faint o is-etholiadau dw i wedi gohebu arnyn nhw ar hyd y blynyddoedd ond mae rhai yn aros yn y cof yn fwy na'i gilydd. Roedd Govan (ddwy waith) , Newbury a Christchurch yn lot o sbort. Dw i'n cofio fawr ddim am Langbaurgh, Epping na Walton.

Dyw is-etholiadau ddim yn cael yr un sylw heddiw. Ar y cyfan mae'r arolygon yn rhoi gwell pictiwr o'r hyn sy'n digwydd. Yn aml iawn mae is-etholiadau yn eithriad yn hytrach nac enghraifft.

Cymerwch fel esiampl y ddau is etholiad a gynhaliwyd ym Mehefin y llynedd. Doedd saga ryfedd Blaenau Gwent yn dweud fawr ddim am y sefyllfa wleidyddol fwy eang ac yn Bromley a Chiselhurst fe ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o fewn y dim i gipio sedd geidwadol yn gwbwl groes i'r patrwm a gafwyd mewn etholiadau eraill y flwyddyn honno.

Roedd y rheswm am ganlyniad Bromley yn ddigon amlwg. Fe heidiodd cannoedd o Ddemocratiaid Rhyddfrydol o bedwar ban byd i'r etholaeth gan ddosbarthu dros filiwn o daflenni yn y mis cyn y bleidlais.

Mae is-etholiadau llawer yn bwysicach i'r Democratiaid Rhyddfrydol na'r pleidiau eraill. Mae nifer o'u cadarnleoedd yn seddi a enillwyd yn gyntaf mewn is-etholiadau ac mae buddugoliaethau o'r fath yn fodd i'r Blaid ennill cyhoeddusrwydd a momentwm gwerthfawr.

Mae Llafur wedi symud yn rhyfeddol o gyflym wrth alw'r ddau is etholiad yn Ealing Southall a Sedgefield. Gyda llai na thair wythnos i fynd dyw Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim hyn yn oed wedi dewis ymgeiswyr eto. Yn wir y Tor茂aid, o bawb, oedd y cyntaf i adael y marc yn Southall trwy ddewis (nad oedd hyd yn oed yn aelod o'r blaid) fel ymgeisydd.

Mewn cyfnod anodd a stormus i'r blaid mae'n hynod bwysig i'r Democratiaid Rhyddfrydol llwyddo yn o leiaf un o'r ddwy ornest. Eisoes mae eu peiriant etholiadol wedi dechrau tanio.

Southall dybiwn i yw'r gobaith gorau. Trwy gyd-ddigwyddiad roeddwn yno ychydig wythnosau yn 么l ac mae'n etholaeth unigryw.

Mae dros hanner yr etholwyr yn aelodau o leiafrifoedd ethnig. Dyw hynny ddim mor anarferol a hynny. Yr hyn sydd yn anarferol yw bod y mwyafrif llethol yn perthyn i'r un lleiafrif ethnig sef pobol o dras De Asiaidd. Mae'r canran uchel o drigolion Southall yn a'u gwreiddiau yn y Punjab ac mae'n anodd proffwydo cyfeiriad eu pleidlais.

Gallai Kashmir, er engraifft, brofi'n bwysicach na Rhyfel Irac yn Southall ac fe fydd dewis ymgeisydd addas yn hynod bwysig.

S4C2

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Gwener, 29 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Dyma drefn darlledu gwasanaeth 麻豆约拍 Cymru o'r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2 yr wythnos nesaf:

Mawrth 3ydd o Orffennaf

1230-1330 Sesiwn Gwestiynau i'r Prif Weinidog gafodd ei chynnal 26.6.07 (wedi'i harwyddo)

13:45 - 17:30 Sesiwn Lawn
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau'r Prif Weinidog
Datganiad Busnes
Datganiad ar Newid yn yr Hinsawdd
Datganiad deddfwriaethol i gyflwyno'r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG

Mercher 4ydd o Orffennaf

1059-1215 Pwyllgor Deisebau

1229-1730 Sesiwn Lawn
Busnes y llywodraeth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu y dylid argymell i鈥檞 Mawrhydi bod Gorchymym Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Gwyrio Swyddogaethau) yn cael ei wneud.
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth/
Dadl Plaid Cymru: swyddfeydd gwasanaethau cyhoeddus
Dadl y Ceidwadwyr: Gwasanaethau Eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl ifanc
Y Ddadl fer: Pobl, Gwleidyddiaeth ac Ysbytai Lleol (Gareth Jones)

Iau 5ed o Orffennaf
0930-1130 Pwyllgor Cyllid (Cafodd ei gynnal ar y 4/7/07)

Pwyllgorau Eraill
Mercher
Comisiwn y Cynulliad (Cyfarfod Preifat)
Cyfarfod Menter, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Cyfarfod Preifat)
Iau
Datblygu Cynaladwy (Rhan fwyaf y cyfarfod yn breifat)
Cyfle Cyfartal (Ethol Cadeirydd yn unig)

Cyffro cyfansoddiadol

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Gwener, 29 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Mae'n ddiddorol gweld bod Gordon Brown yn rhoi blaenoriaeth i gwestiynau cyfansoddiadol yn ei ddyddiau cynnar fel prif weinidog.

Dyw e hi ddim yn gyd-ddigwyddiad, yn fy marn i, bod adroddiad pwysig yngl欧n 芒'r union bwnc newydd ei gyhoeddi. Gyda phopeth arall oedd yn digwydd cafodd yr adroddiad gan y "" fawr o sylw ond mae'n bosib ei fod yn rhoi awgrym o'r mathau o bethau sydd ar feddwl y prif Weinidog newydd.

Yr uned hon yng Ngholeg Prifysgol Llundain yw'r unig adran academaidd sy'n bodoli'n unswydd i astudio newid cyfansoddiadol ac mae ei gyngor yn cynnwys mawrion megis yr Arglwyddi Hurd, Steel, Wolf ac Elis-Thomas yn ogystal ag academyddion, newyddiadurwyr a gwleidyddion.

Mae'r adroddiad cyfan werth ei ddarllen. Gellir gwneud hynny yn . Mae rhannau sy'n ymwneud a Chymru yn esbonio pam efallai y mae aelodau seneddol Llafur Cymru mewn cymaint o sbin. Dyma un o'r argymhellion.

"One partial solution Gordon Brown could consider is to harmonise the electoral quotas of the four UK territories, ending English under-representation, or even to reduce the representation of Scotland, Wales and Northern Ireland to two-thirds that of England. At the least, Welsh over-representation should come to an end in the next parliamentary boundary review after the Welsh Assembly has been granted full legislative powers, just as Scottish over-representation was ended in 2005."

Pe bai Gordon yn mabwysiadu'r argymhelliad mwyaf radical fe fyddai o leiaf deg o aelodau seneddol Cymru mas o waith. Fe fyddai hynny wrth reswm yn golled enfawr nid yn unig i Gymru ond i San Steffan. Gellir gweld maint eu dylanwad a'r parch tuag atynt o'r nifer sydd wedi penodi yn aelodau cabinet gan eu pleidiau. Mae 'na ddau; Peter Hain a Lembit Opik.

Ffrindiau fel rhain (2)

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Iau, 28 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

"Mae Llafur wedi dinistrio ffydd y cyhoedd yn y broses wleidyddol" Ieuan Wyn Jones 26/3/07

"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?

Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."

Hansard 1/3/07

Lincs

Vaughan Roderick | 11:35, Dydd Iau, 28 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Dyma sut mae fel cyflwynydd newyddion. Ni i gyd yn teimlo fel 'na weithiau!

Mae nifer o flogs Saesneg yn cystadlu i wisgo mantell y diweddar Blammerbell. Yn eu plith mae "" ond mae'n ymddangos i mi (a barnu o'r sylwadau sy'n cael eu gadael) bod nifer o ffans Ciaran wedi mudo i .

Dw i hefyd yn hoff iawn o flog "" sy'n cynnwys erthyglau dadansoddol hwy na'r arfer yngl欧n 芒 gwleidyddiaeth Cymru. Mae ei bost diweddara "Blair by numbers" yn hynod ddifyr.

Mae yn cynnali ddewis y blogs Cymraeg gorau. Diolch i bawb sydd wed fy enwebu. Os ydych chi'n newydd i fyd y blogs mae'n werth gwybod bod hi'n bosib darllen y blogs Cymraeg i gyd ar y .

Y frwydr nesaf

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Iau, 28 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Mae'r cytundeb coch-gwyrdd wedi ei arwyddo yng Nghaerdydd. Y frwydr nesaf yw honna rhwng gr诺p Llafur y cynulliad a thrwch aelodau seneddol y Blaid Gymreig yngl欧n 芒'r cynllun. "Pistols at dawn" yn Membury neu Leigh Delemare o bosib!

Mae mwyafrif yr aelodau seneddol yn amheus yngl欧n 芒 neu yn gwrthwynebu rhannau allweddol o'r cytundeb yn eu plith, y refferendwm, yr adolygiad o fformiwla Barnett a'r awgrym y dylid datganoli agweddau o'r gyfraith droseddol i Gaerdydd.

Mae rhan o wrthwynebiad yr aelodau seneddol wedi ei seilio ar egwyddor ond peidied neb a meddwl nad yw'r ffaith y gallai datganoli pellach arwain at dorri nifer yr aelodau o Gymru yn San Steffan yn ffactor hefyd. Tyrcwn...Nadolig ayb.

Heddiw mae Rhodri yn cwrdd ag arweinwyr cyngor Llafur i werthu'r cytundeb ac mae'n debyg y bydd rhannau helaeth ohono yn enwedig y pwyslais ar y sector gyhoeddus yn apelio atynt. Fe fydd agweddau megis ymwrthod a PFI hefyd yn fel ar fysedd rhai o'r undebau. Serch hynny peidied neb a meddwl bod cynhadledd arbennig y blaid yn y CIA yn sicr o gefnogi'r cytundeb.

Ydy Neil Kinnock yn paratoi i arwain y gwrthwynebiad? Dyna yw'r si. Ai 79 neu 97 fydd y refferendwm nesaf?

Diweddariad;Mae Peter Hain wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ac mae'n cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru. Dyw Peter ddim wedi lleisio ei farn yngl欧n 芒'r cytundeb eto gallai ei safrbwynt fod yn allweddol.

Asgwrn y gynnen

Vaughan Roderick | 20:29, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Dw i wedi treulio rhan helaeth o'r dydd heddiw yn ceisio darganfod y rhesymau y tu cefn i benderfyniad Plaid Cymru. Beth oedd y ffactorau a sbardunodd y tir canol yn gr诺p y cynulliad i droi at Lafur gan sicrhau pleidlais gyffyrddus (10-5 mae'n debyg) o blaid y cynllun coch-gwyrdd.

Yr hyn dw i'n clywed dro ar 么l tro yw nad rhaglen 鈥淐ymru Gyfan鈥 na'r Blaid Geidwadol oedd y broblem. Pryderon yngl欧n 芒 sefydlogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol oedd wrth wraidd methiant yr enfys. Mae Llafur yn rhannu y pryderon hynny ac o'r herwydd fydd na ddim ymateb i gynnig diweddaraf Mike German.

Mae'r rhai y bues i'n siarad 芒 nhw'n pwysleisio nad ydynt yn ceisio taflu sen ar Mike German na'i gyhuddo o unrhyw dwyll na chamymddwyn yn ystod y broses o drafod. Yn hytrach yr ofn oedd y gallai rhaniadau o fewn y blaid amlygu eu hun eto os ydy hi'n gwneud yn wael yn yr etholiadau cyngor flwyddyn nesaf neu'r etholiad cyffredinol nesaf. Y gwir plaen oedd bod Plaid Cymru yn ofni byw ar fympwy y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd hi'n amlwg o sylwadau Ieuan a Nick Bourne heddiw bod y ddau arweinydd o hyd ar delerau da ac yn mynd allan o'i ffordd i gadw drysau'n agored. Talodd y ddau deyrngedau i'w gilydd ac aeth Nick mor bell a dymuno 鈥減ob lwc鈥 i Blaid Cymru. Roedd ymateb Mike yn wahanol iawn gan broffwydo pob math o erchyllterau yn sgil penderfyniad Plaid Cymru.

Roedd na un rheswm arall a fynegwyd i mi yngl欧n 芒 phenderfyniad y Blaid sef bod clymbleidio a Llafur yn ei galluogi i gwblhau'r broses o drawsnewid o fod yn 鈥済r诺p gwthio鈥 i fod yn blaid lywodraethol. Yng ngeiriau un aelod Plaid Cymru 鈥渕ae angen fod yn brentis cyn bod yn feistr.鈥

Y peryg yw, wrth gwrs, y gallai'r Blaid ei chael ei hun yn ddi-waith os ydy pethau'n mynd o le!

Ffrindiau fel rhain

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Sylwadau (4)


"Os ydyn ni'n mynd mewn i Glymblaid a Llafur mae 'na beryg i ni gael ein beio am eu methiannau"

Rhodri Glyn Thomas (8/5/07)

"Pwy all fyth anghofio ymosodiad bwriadol enwog Saunders Lewis i losgi gwersyll hyfforddiant milwrol Pwllheli y noson cyn dechrau鈥檙 ail ryfel byd? Mae un arall o arweinwyr Plaid Cymru, Dafydd Iwan, y llywydd, wedi galw am ddiwedd i holl weithgarwch y fyddin, gan gynnwys hyfforddiant, yng Nghymru.

Pwy all anghofio鈥檙 llefarwraig ar gyfiawnder cymdeithasol, Leanne Wood yn galw am wahardd cynrychiolwyr y lluoedd arfog o ysgolion Cymru? Pe byddem wedi dilyn polisi Plaid, ni fyddem wedi bod yn sefyll dros Gymru; byddem wedi bod yn codi鈥檙 faner wen dros Gymru. Ble fyddem o ran y gwasanaeth awyr o鈥檙 gogledd i鈥檙 de o Gaerdydd i RAF y Fali y mae鈥檙 Llywodraeth yn ei gyflwyno? Mae鈥檔 debyg na ddylai Plaid Cymru, mewn gwirionedd, ei gefnogi gan ei fod wedi鈥檌 leoli ar safle amddiffyn."

Andrew Davies 1/2/07

"Mae'n bwysig wrth fynd mewn i'r etholiad bod neb yn meddwl "Os dw i'n pleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru dw i'n cael yr un peth."

Ieuan Wyn Jones (3/4/07)

Wyn yn ymddeol

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Mae'n ddiwrnod o ymadawiadau!

Mae'r Arglwydd (Wyn) Roberts o Gonwy wedi cyhoeddi ei fod am roi'r gorau i wasanaethu fel llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi. Fe fu Wyn yn llefarydd Cymreig i'w blaid am dros ddeng mlynedd ar hugain sy'n record seneddol. Ef oedd yr unig weinidog i wasanaethu yn yr un adran trwy gydol llywodraethau Margaret Thatcher a John Major.

Coch-Gwyrdd SWYDDOGOL

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Mae grwp Plaid Cymru wedi penderfynnu clymbleidio a Llafur.

Mae Mike German wedi ysgrifennu at Rhodri Morgan yn gofyn am drafodaethau.

Pen y Mwdwl

Vaughan Roderick | 07:54, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Sylwadau (6)

Mae hi wedi bod yn uchelgais gen i ers blynyddoedd i gyflwyno rhaglen o'r enw "Pen y Mwdwl". Does gen i ddim clem beth fyddai cynnwys y rhaglen ond dw i'n meddwl bod hi'n gythraul o enw da. Yn anffodus does neb yn cytuno a fi! Ta beth, fy mlog i yw hwn a dw i'n cael defnyddio'r teitl o'r diwedd!

Dyma ni felly. Diwedd cyfnod. Diwedd y stori. Mae Blammerbell wedi mynd ac mae'r "tumbleweed" yn chwythu trwy'r anialdir lle'r oedd Chanticleer ac Alun Pugh, Ian Titherington ac Arsembly yn rhannu eu syniadau neu yn yr achos olaf ei sbeit dibwrpas a di-stori.

Coch/gwyrdd amdani felly. Nid nawr yw'r amser i farnu pwy sydd wedi gwneud y penderfyniadau cywir ac mae'n bosib wrth gwrs y bydd na ambell i "dwist" arall yn y stori ryfedd hon. Serch hynny, dw i yn meddwl bod 'na ambell i gasgliad yn bosib.

Yn gyntaf mae rhan helaeth o'r llanast yn deillio o wrthodiad y Blaid Lafur i gyfaddef ei bod hi'n paratoi i glymbleidio yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Fe fydd rhai ohonoch yn cofio i Betsan a finnau ddioddef storm o ddirmyg ac atgasedd gan Lafur yn ystod yr ymgyrch pan awgrymais fod Llafur yn paratoi i siarad 芒 Phlaid Cymru.

Dyma ddywedodd Rhodri; 'This story is rubbish from start to finish. A formal complaint is being made to 麻豆约拍 Wales about their decision to run such a story at such a critical point in the election. We are certainly not going to be knocked off course by baseless media tittle-tattle". Fe wn芒i dy atgoffa di o hynny ar steps y cynulliad heddiw, Rhodri. Beth ddigwyddodd i'r gwyn swyddogol yna, gyda llaw?

Y tro nesaf, dw i'n gobeithio, fe fydd hi'n amhosib i unrhyw blaid gelu ei dewisiadau clymbleidiol o'r etholwyr yn ystod yr ymgyrch. Fe ddylai hynny olygu y bydd gwleidyddiaeth Cymru yn fwy aeddfed ac agored o hyn ymlaen. Efallai.

Pwy sydd ar eu hennill a phwy sydd ar eu colled? Wel yr enillwyr mawr,fe dybiwn i, yw'r Ceidwadwyr. Mae'r ffaith ei bod wedi dod mor agos at fod yn rhan o lywodraeth wedi eu hachub o genedlaethau o alltudiaeth wleidyddol . Ni all neb honni bellach fod y blaid yn "amherthnasol" i wleidyddiaeth Gymreig a Chymraeg.

Yn sicr y blaid sydd wedi colli fwyaf yw'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n wynebu dyfodol llwm iawn fel yr ail wrthblaid. Mae 'na gyfnod anodd iawn o'u blaenau a chwestiynau strategol a gwleidyddol anodd ei hateb.

Cyn belled ac mae Llafur a Phlaid Cymru yn y cwestiwn mae'r rheithgor allan. Chi, wrth gwrs, yw'r rheithgor.

Y Diweddara... a mwy

Vaughan Roderick | 20:20, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Sylwadau (6)

Ymddiheuriadau yn gyntaf bod na drafferthion technegol wedi bod heddiw yn enwedig wrth bostio sylwadau.

Dyma sut mae pethau ar hyn o bryd.

Mae cefnogwyr coch-gwyrdd o fewn Plaid Cymru yn hyderus bod ganddynt gefnogaeth wyth o'r pymtheg Aelod Cynulliad. Alun Ffred Jones oedd y bleidlais allweddol mae'n debyg. Mae'r aelodau hynny yn mynnu nad yw'r newid yng ngeiriad cymal cyntaf y cytundeb (yn ymwneud a refferendwm) yn glastwreiddio'r addewid Llafur i weithio dros Senedd.

Er eu bod yn optimistaidd mae clymbleidwyr y ddwy blaid yn poeni y gallai stori y mae disgwyl iddi ymddangos yn y 鈥淲estern Mail鈥 bore fory chwerwi pethau. Dydw i ddim yn gwybod beth yw cynnwys y stori honno. Cawn weld.

DIWEDDARIAD: Mae Pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cymeradwyo'r glymblaid. Dw i'n cael ar ddeall hefyd bod wedi darbwyllo'r aelodau nad oedd clymblaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bosib. Fe fydd Llafur yn gwrthod unrhyw ymgais gan y Democratiaid Rhyddfrydol i ail-agor trafodaethau.

Dewis Ieuan

Vaughan Roderick | 17:34, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Yfory yw dydd y dewis. Mae'n bosib mai cyfarfod gr诺p Plaid Cymru yw'r cyfarfod pwysicaf yn hanes y Blaid ac y bydd y penderfyniad er da neu er drwg yn gosod patrwm gwleidyddiaeth Cymru am genhedlaeth.

Pan ddwedais hynny wrth Ieuan Wyn Jones fe wnaeth e ymateb trwy ddweud "...no pressure then".

Beth sy'n debyg o ddigwydd yfory felly? Os nad aiff rhywbeth mawr o le dw i'n disgwyl i Blaid Cymru cefnogi coch-gwyrdd. Dyma'r rheswm. Dw i'n synhwyro bod Ieuan yn reddfol yn ddyn yr enfys. Ond dw i hefyd yn amau y bydd yn gweld undod y blaid yn ffactor allweddol.

Pe bai'n gwthio am yr enfys mae'n bosib y byddai'n colli'r bleidlais neu yn ei hennill o fwyafrif bychan. Pe bai e, ar y llaw arall, yn argymell delio a Llafur fe fyddai'r mwyafrif yn fwy sylweddol.

Fe fydd y ffaith bod cefnogwyr mwyaf pybyr yr enfys yn wleidyddion mwy aeddfed a disgybledig na rhai o gefnogwyr coch-gwyrdd hefyd yn ffactor. Fe fyddai pobol yr enfys yn derbyn penderfyniad y mwyafrif. Dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn wir am rai o aelodau'r garfan arall.

Yfory felly dw i'n amau y bydd Ieuan yn mynd yn groes i'w reddf ac yn aberthu ei uchelgais ei hun er mwyn ei blaid. Mae Ieuan wedi tyfu yn ystod hyn oll. Fe ddylai aelodau Plaid Cymru fod yn falch o'i harweinydd.

Melding yn myfyrio

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Un o aelodau mwyaf meddylgar y cynulliad yw'r Ceidwadwr David Melding. Dw i ddim yn meddwl bod hi'n annheg i'r naill ddyn na'r llall i'w ddisgrifio fel egin Gwynfor Evans y Ceidwadwyr. Fel Gwynfor mae David yn hoff o ddefnyddio hanes i liwio ei weledigaeth wleidyddol ac fel Gwynfor mae e wedi meddwl yn hir am natur cenedligrwydd a'r gwahaniaethau rhwng cenedl a gwladwriaeth.

Heddiw cyhoeddodd David lyfryn "Wales and the idea of Britain" sef arolwg o hanes Cymru rhwng cyfnod y Rhufeiniaid ac oes y Tuduriaid o bersbectif Ceidwadol ,Catholig. Craidd dadl David yw bod y "syniad o Brydain" yn rhan allweddol o hanes a chymeriad y Cymry. Mae'n dyfynnu hanesion yr hen Ogledd, y Mabinogi a chwedloniaeth Arthur fel prawf o hynny.

Yn 么l David mewn un ystyr dim ond y Cymry sy'n "wir-Brydeinwyr" gan fod y Saeson yn tueddu gweld Prydain fel "Lloegr fawr" a'r Albanwyr wedi priodi er mwyn cyfleustra. Mae'n dadlau bod y syniad o'r Cymry fel gwir etifedd y Brydain Rufeinig yn rhannol gyfrifol am wytnwch eu diwylliant a'u hiaith a dadeni cenedlaetholdeb diwylliannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nid bwriad David yw cyrraedd unrhyw gasgliadau mawr yngl欧n 芒 dyfodol cyfansoddiadol Cymru ond ceisio sicrh芒i bod y dyfodol hwnnw yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'n hanes a'n cymeriad cenedlaethol. Mae'n ymdrech nobl ac er y byddai Gwynfor yn anghytuno a dadansoddiad David dw i'n sicr y byddai'n edmygu'r ymdrech.

Y cytundeb coch-gwyrdd

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Sylwadau (6)

Mae'r gr诺p llafur wedi cymeradwyo cytundeb coch/gwyrdd o fwyafrif sylweddol. Mae'r 麻豆约拍 wedi gweld copi o gytundeb drafft rhwng y ddwy blaid (nid y cytundeb terfynol).

Dyma rai o'r uchafbwyntiau;

Llafur a Phlaid Cymru ar bob lefel i gydweithio i sicrh芒i senedd ddeddfwriaethol o fewn pedair blynedd.

Dim rhagor o gynlluniau PFI yn y gwasanaeth iechyd ac atal y cynllun ad-drefnu ysbytai.

Rhoi'r gorau i'r defnydd o gyfleusterau preifat gan y gwasanaeth iechyd.

Atal yr "hawl i brynu" mewn ardaloedd lle mae 'na brinder o dai fforddiadwy.

Codi 6,500 o dai fforddiadwy.

Grantiau i bobol sy'n prynu t欧 am y tro cyntaf.

Gwell gwasanaeth rheilffordd rhwng y De a'r Gogledd.

Gwella darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg.

Cluniaduron i blant ysgol (cynllun peilot)

Deddfwriaeth i roi statws swyddogol i'r Gymraeg a hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.


DIWEDDARIAD PWYSIG; Mae'r cymal cyntaf wedi ei newid yn y cytundeb terfynnol. Gallai hynny fod yn bwysig!

Guto Rhuanedd a Siambo

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Y naill ffordd neu'r llall mae dyddiau llywodraeth leiafrifol Rhodri Morgan wedi eu rhifo. Eto, yma yn y bae mae'r busnes o lywodraethu yn gorfod parhau gyda gweinidogion yn ymddwyn fel pe bai nhw'n sicr o'i swyddi.

Y bore 'ma mae'r gweinidog amaeth Jane Davidson wedi rhyddhau datganiad arall yngl欧n 芒 Siambo. Y bwriad yw difa'r anifail ond mae gan drigolion Skanda Vale wythnos arall i gyflwyno tystiolaeth i geisio newid meddyliau. A fydd Siambo yn goroesi gweinidogaeth Ms. Davidson? Fe gawn weld.

Mae'r gr诺p Llafur yn cwrdd ar hyn o bryd i drafod clymblaid coch/gwyrdd. Does dim dwywaith y bydd Llafur o blaid. Cyfarfod Plaid Cymru yfory yw'r un pwysig. Gallai hwnnw fynd y naill ffordd neu'r llall gyda rhai o fawrion y Blaid yn ceisio dwyn persw芒d munud olaf ar yr aelodau.

Diwrnod ar 么l yr etholiad fe gafodd Guto Thomas a Rhuanedd Richards bet ynghylch pwy fyddai'n ffurfio llywodraeth gyda Guto'n ffafrio'r enfys a Rhuanedd yn rhagweld rhiw fath o lywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur. Mae'r "tenner" wedi bod yn mynd nol a mlaen fe yo-yo. Ym mhwrs Rhuanedd mae e ar hyn o bryd ond mae Guto'n dawel hyderus.

AAAGGGHHH!

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Llun, 25 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Mae aelodau gr诺p Plaid Cymru wedi gohirio eu cyfarfod allweddol i drafod clymblaid tan Ddydd Mercher. Y rheswm fwyaf tebygol am hynny yw eu bod am sicrh芒i addewidion pellach gan gyfarfod pwyllgor gwaith Llafur nos yfory.

O edrych ar y fathemateg mae'n ymddangos i mi fod saith o aelodau'r Blaid yn gadarn o blaid coch/gwyrdd sef Helen Mary Jones, Bethan Jenkins, Nerys Evans, Leanne Wood, Dafydd Elis Thomas, Rhodri Glyn Thomas a Jocelyn Davies . Mae 'na bedwar o enfyswyr pybyr sef Gareth Jones, Chris Franks, Dai Lloyd, Janet Ryder.

Mae'r cyfan felly yn dibynnu ar Mohammed Ashgar, Alun Ffred Jones, Elin Jones ac wrth gwrs y dyn ei hun Ieuan Wyn Jones.

Manylion yr arolwg

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Llun, 25 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Mae nifer wedi gofyn am fanylion yr arolwg. Dyma nhw.

ICM (Sampl; 1001 19/06/07-22/06/07) Y ffigyrau mewn cromfachau yw canlyniadau arolwg a gynhaliwyd ar drothwy'r etholiad.

Ydy llywodraeth glymblaid yn beth da neu yn beth drwg i Gymru?

Da 57% (49%)
Drwg 27% (45%)
Ansicr 16% (6%)

A ddylid defnyddio cyfundrefn etholiadol y cynulliad (PR) ar gyfer etholiadau San Steffan/ etholiadau cyngor?

O blaid 54% / 64%
Yn erbyn 32% / 26%
Ansicr 15% / 11%


Pa glymblaid hoffech chi weld ym Mae Caerdydd?

Llafur/Plaid 28% (35%)
Llafur/Dem. Rhydd. 21% (22%)
Plaid/Ceid./Dem. Rhydd. 41% (32%)

Pwy fyddai'r Prif Weindog gorau?

Rhodri Morgan 48%
Ieuan Wyn Jones 34%
Ansicr 19%

Barn y bobol

Vaughan Roderick | 16:43, Dydd Sul, 24 Mehefin 2007

Sylwadau (7)

Mae'r sbeis sy gen i yn rhengoedd Plaid Cymru yn awgrymu mai clymblaid a Llafur yw'r syniad sy'n cael ei werthi i aelodau'r Blaid wrth i Ieuan Wyn Jones annerch cyfarfodydd o gwmpas Cymru.

Os felly, mae'n bosib bod Ieuan ar fin bacio'r ceffyl anghywir yng ngolwg y cyhoedd. Yn 么l arolwg gan ICM i 麻豆约拍 Cymru mae'r gefnogaeth i glymblaid o'r fath wedi gostwng yn sylweddol ers etholiadau'r cynulliad.

Yn yr arolwg cyffelyb adeg yr etholiad roedd 35% yn cefnogi llywodraeth coch-gwyrdd. Mae'r nifer yna nawr wedi gostwng i 28%. Yn ystod yr un cyfnod mae鈥檙 gefnogaeth i'r enfys wedi cynyddu o 32% i 41%. Mae'r nifer sy'n cefnogi clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi aros mwy neu lai yn yr unfan gyda 21% o blaid y posibilrwydd hwnnw.

Er mai'r enfys yw'r syniad mwyaf poblogaidd erbyn hyn mae'n wir, wrth gwrs, bod y mwyafrif o hyd yn cefnogi clymbleidiau sy'n cynnwys Llafur yn hytrach na chlymblaid sy'n cau'r blaid fwyaf allan. O 48% i 33% mae'r rhai a holwyd yn ffafrio Rhodri Morgan dros Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog.

Serch hynny fe allai'r ffaith bod pobol wedi cynhesu at yr enfys yn yr wythnosau ers yr etholiad pery i rai ail-feddwl ynghylch pa benderfyniad sydd orau i Blaid Cymru.

Holwyd 1,001 o bobol gan ICM rhwng 19/6/06 a 22/6/06.

笔么濒!!!

Vaughan Roderick | 12:01, Dydd Sul, 24 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Pa glymblaid y mae pobol Cymru'n ei ffafrio? Mae 'na arolwg barn ar y ffordd!

Dw i wrthi'n gwneud y gwaith dadansoddi ar hyn o bryd ac fe fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yfory.

Diwrnod Mawr Gordon

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Sul, 24 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Does 'na ddim llawer o gymysgu rhwng pobol newyddion 麻豆约拍 Cymru yn Llandaf a chriw'r adran ddrama yn Nhrefforest ond efallai y byddai o fantais i ni ofyn eu cyngor o bryd i gilydd. Yn sicr roedd stori Doctor Who neithiwr yn ryfeddol o amserol. Hwyrach bod 'na Tardis go iawn yn eu galluogi i baratoi stori am seicopath arallfydol yn cael ei ethol yn brif weinidog i'w darlledu ar y noson cyn i Lafur goroni Gordon Brown fel arweinydd!

Dydw i ddim yn nabod Gordon yn dda er i mi ei holi droeon ond mae'r rheiny sy'n agos ato yn mynnu bod y ddelwedd ohono fel dyn swrth, di-hiwmor yn annheg.

Mae hynny'n gallu digwydd mewn gwleidyddiaeth. Yn aml mae'r ddelwedd yn gwbwl groes i'r person. Mae pobol yn cael hwn yn anodd i gredu ond un o'r gwleidyddion mwyaf dymunol i mi gwrdd a fe erioed oedd Norman Tebbit, gwr a delwedd ffured a'r gynddaredd. Yn yr un modd roedd 鈥淪unny Jim鈥 Callaghan yn gallu bod yn ddyn blin iawn.

Am rai blynyddoedd bu'r cyn aelod cynulliad Delyth Evans yn ran o dim Gordon Brown ac mae'r darlun y mae hi'n cyfleu o ddyn meddylgar, cwrtais a charedig yn gwbwl groes i'r ddelwedd. Bues i'n holi Delyth amdano'r wythnos hon ar gyfer rhifyn arbennig o 鈥淧awb a'i Farn鈥 ac roedd hi'n amlwg ei bod yn ystyried yn berson hynod o hoffus yn ogystal a bod yn wleidydd craff.

Dw i ddim yn sicr a fydd delwedd Gordon yn newid yn y dyfodol ond mae'n bosib nad yw hi'n anfantais. Mae sylwadau Michael Portillo yn y Sunday Times y bore ma yn ddiddorol. Mae'n dweud hyn; 鈥 It is just possible that Britain will elect a candidate on the grounds that he is more charming despite being much weaker but the Tories shouldn't count on it鈥

Serch hynny fe fydd na ddau brawf yn wynebu Gordon yn yr wythnosau nesaf. Y cyntaf wrth gwrs yw cadw Llafur mewn grym yng Nghymru. Er bod y sefyllfa allan o'i ddwylo i raddau helaeth fe fyddai colli Cymru yn ergyd symbolaidd ar ddechrau ei gyfnod yn rhif deg.

Yr ail brawf yw'r is etholiad yn Southall sy'n debyg o gael ei gynnal cyn diwedd Gorffennaf. Mewn etholaeth lle mae trigain y cant o'r boblogaeth o dras Asiaidd mae'n etholiad sy'n anodd ei ddarllen. Fe fydd dewis yr ymgeisydd iawn yn holl bwysig, dybiwn i.

Barti Binc

Vaughan Roderick | 13:06, Dydd Sadwrn, 23 Mehefin 2007

Sylwadau (5)

Beth fyddai yn dweud?

Mae na ddau lyfr newydd yn ymddangos yn adrodd hanes Bartholemew Roberts, y morwr tal a'r chwerthiniad iach. Mae yn ymddangos yn weddol traddodiadol. Fe fydd y llall yn sicr o achosi cynnwrf yng Ngasnewy' bach.

Yn 么l Richard Sanders awdur 鈥淚f a pirate I must be...鈥 roedd Barti a'i f么r-ladron yn hoyw ac yn cydfyw fel parau priod. Gellir darllen adolygiad y Spectator o'r llyfr yn .

Cri o'r cwm

Vaughan Roderick | 12:00, Dydd Sadwrn, 23 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Mae llais Ken Hopkins yn un pwysig- ac mae fe'n gwybod hynny.

鈥淜en pwy?鈥 meddech chi. Wel, os nad ydych chi'n aelod o'r Blaid Lafur dydych chi ddim yn debyg o wybod ond ers degawdau Ken yw 鈥淢r Fix-it鈥 Llafur Cymru - y gwr sy'n ceisio sortio pethau allan os oes 'na broblem. Yn wir fel y gwr oedd yn gyfrifol am lunio polisi datganoli y gallai'r blaid gyfan ei gefnogi yn y nawdegau mae hawl gan Ken i fynnu mai ef, a nid Ron Davies, yw gwir bensaer y cynulliad.

Hyd y gwn i dyw Ken erioed wedi cael ei ethol i unrhyw swydd ac eithrio sedd ar bwyllgor gwaith ei blaid ac am ran helaeth o'i fywyd roedd yn gweithio ym myd addysg. Fel cyfarwyddwr addysg yr hen Forgannwg Ganol Ken oedd yn gyfrifol am lunio polisi 鈥渃wrdd a'r galw鈥 ynghylch addysg Gymraeg. O'r herwydd cafwyd ffrwydriaid mewn addysg Gymraeg yn y sir yn ystod oes y cyngor gyda degau o Ysgolion Cymraeg newydd yn agor. Yn ystod yr un cyfnod ni agorwyd yr un Ysgol Gymraeg yng Ngorllewin Morgannwg, sir a chanran llawer yn uwch o Gymry Cymraeg.

Nid bod Ken yn rhyw fath o 鈥渘ashi鈥. Fel aelod o blaid y Rhondda mae e wedi yfed droeon o'r ffynnon rhyfedd honno sy'n gwneud gwleidyddiaeth y ddau gwm mor chwerw a llwythol. Does na'r un man yng Nghymru lle mae Llafur a Phlaid Cymru yn casau ei gilydd cweit cymaint ac yn y Rhondda.

Pam s么n am Ken heddiw? Wel, yng ngholofn llythyrau'r Western Mail mae na lythyr byr gan Ken, llythyr a allai fod yn fawr ei ddylanwad. Ynddo mae'n dadlau'n gryf nid yn unig dros lywodraeth coch-gwyrdd ond, o ddarllen rhwng y llinellau, rhywbeth mwy na hynny. Dyma flas o'r hyn sydd ganddo i ddweud.

鈥淎 second sensible development... is a logical and radical left alliance between Labour and Plaid... such an alliance would be so appropriate to Wales given its recent history... delivering to the Welsh people an effective and caring administration whether you live in Wrexham or Anglesey the Vale of Glamorgan or Tonypandy鈥

I bob pwrpas mae Ken yn dweud mai dim ond Llafur a Phlaid Cymru sydd yn gallu ffurfio 鈥淟lywodraeth Cymru Gyfan鈥 go iawn. Ond os ydy hynny'n gywir onid yw rhesymeg ei ddadl yn awgrymu y dylai'r berthynas rhwng y ddwy blaid fod yn rhywbeth mwy na chytundeb llywodraethol yn y cynulliad? Ydy platiau tectonig ein pleidiau yn dechrau symud?

S4C2

Vaughan Roderick | 11:33, Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007

Sylwadau (1)


Dyma drefn darlledu gwasanaeth 麻豆约拍 Cymru o'r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2 yr wythnos nesaf:

Mawrth, 26ain o Fehefin

0929-1100 Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
1230-1320 Sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog gafodd ei chynnal ar yr 19 o Fehefin (wedi'i harwyddo)
1345-1730 Sesiwn Lawn
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad Busnes
Datganiad am lansio'r ymgynghoriad ar y Mesur Teithio i Blant a Phobl Ifanc mewn addysg

Mercher, 27ain o Fehefin
0929-1228 Does dim busnes ffurfiol wedi ei drefnu ar hyn o bryd ond mae'n bosib y bydd y pwyllgorau scriwtini yn cwrdd.
12.28-17.30 Sesiwn Lawn
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (Edwina Hart)
Cwestiynau Cyllid (Jane Hutt)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth
Dadl Plaid Cymru: Tai Fforddiadwy
Dadl y Ceidwadwyr: Cymru Ddwyieithog
Y Ddadl Fer: Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Dyled Myfyrwyr yng Nghymru

Iau, 28ain o Fehefin

Does dim busnes ffurfiol wedi ei drefnu ar hyn o bryd ond mae'n bosib y bydd y Pwyllgorau Scriwtini yn cwrdd heddiw

Dydd y farn

Vaughan Roderick | 10:09, Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Rhwng popeth dw i wedi bod yn eithaf esgeulus wrth flogio'r wythnos yma. Mae 'na nifer o resymau am hynny, galwadau eraill ar fy amser, yr angen i gadw'r traffig i lawr wrth fudo a'r teimlad ein bod yn dechrau troi mewn cylchoedd yn eu plith.

Ond y prif reswm am y mudandod cymharol yw pa mor ddisgybledig ac amharod i siarad yw'r rheiny sy'n agos at y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Gellid dadlau wrth gwrs bod "gwleidyddion yn gwrthod siarad" yn stori ynddi ei hun ac yn sicr ac mae "Plaid Cymru yn ymddwyn yn ddisgybledig" yn bennawd bron mor annisgwyl ac "Elvis yn fyw ac yn rhedeg siop chips yn y Bala".

Ta beth, mae dydd y farn yn agos a'r pwysau a'r Ieuan a Rhodri yn enfawr. O nabod y ddau dw i'n gwbwl sicr bod y trafodaethau rhyngddynt wedi bod yn rhai didwyll ac anrhydeddus ond dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn golygu y bydd na lywodraeth coch-gwyrdd.

Problem gyntaf Ieuan yw bod 'na nifer o fewn ei blaid gan gynnwys nifer o hen bennau a rhestr siopa uchelgeisiol iawn. Heb addewidion y mae Llafur yn annhebyg o roi fe fydd y bobol hynny yn brwydro dros yr enfys.

Problem Rhodri yw'r rhan hynny o'r blaid sy'n gobeithio ail-agor trafodaethau a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Mike German wedi gwneud hi'n eglur y byddai hynny ond yn digwydd ar 么l i Blaid Cymru gefni ar yr enfys, hynny yw ar 么l i Blaid Cymru cyrraedd cytundeb a Llafur. Dw i ddim yn meddwl y byddai hi'n wleidyddol realistig i Rhodri gyrraedd cytundeb ac un blaid ac yna torri ei air a throi at blaid arall. Dyna, mewn gwirionedd, y mae'r rhai sydd am gytundeb a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl iddo wneud.

Fe ddywedodd un aelod cynulliad Llafur wrtha鈥檌 ddoe bod hi'n anodd cael pobol i dderbyn bod y blaid yn wynebu dewis rhwng coch-gwyrdd a bod yn wrthblaid a thra bod y lleisiau hynny'n parhau'n uchel eu cloch fe fydd sicrwydd a diogelwch yr enfys yn demtasiwn cyson i Ieuan.

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 15:25, Dydd Iau, 21 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Tra yn San Steffan ddoe wnes i addo rhoi plyg i . Roedd safle gwreiddiol Paul yn un o'r goreuon yn nyddiau cynnar y we ac mae ei sgwennu'n hynod ddifyr. Dyma flas o'i safle newydd.

"With admiration, I salute Tony Blair the great actor and performer. He took Britain into an unnecessary war that has caused 150 British deaths, uncounted Iraqi deaths and increased the threat of terrorism throughout the planet... Who would not be crushed with the guilt of those deaths? He has the remarkable ability to convince himself of absurd conclusions. Blithely, he conflated Osama, Sunnis, Taliban and Shiites into one single group who threaten us. He would never surrender to terrorism and he is denial to atrocities that his actions have created.Next week, it鈥檒l be Goodbye Wonder Prime Minister Blair. You鈥檙e an impossible act to follow Tony. Thank goodness!"

O son am Tony Blair dw i newydd recordio sgwrs a'r haneswyr K.O Morgan a Deian Hopkin yngl欧n 芒'i ddegawd yn Downing Street ar gyfer "Manylu" nos Lun nesaf. Roedd K.O yn fwy hallt ei feirniadaeth na Deian. Yn 么l K.O fe fydd Irac yn gwmwl parhaol yn y llyfrau hanes tra bod Deian o'r farn y bydd haneswyr y dyfodol yn fwy caredig na chyhoedd heddiw.

Mae'r blog yn y broses o symud i gyfeiriad newydd parhaol. Mae'n bosib y bydd angen i chi newid eich ffefrynnau ond fe ddylai'r ail-gyfeirio gweithio'n awtomatig. Os oes 'na broblemau gadewch i mi wybod.

Codi Cwestiwn

Vaughan Roderick | 21:52, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2007

Sylwadau (9)

Dyma'r diweddariad o'r post diwethaf;

"Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen."

Nawr darllenwch hwn o flog ;

"The Welsh Liberal Democrat Group met last night and agreed to wait a bit longer so as to allow Plaid Cymru to make up their minds. We were united however in agreeing that Mike German should approach Rhodri Morgan if the so-called rainbow coalition ceased to be an option. An urgent National Executive meeting will be called to endorse this action if necessary."

Ydy Plaid Cymru yn wynebu dewis rhwng yr enfys a bod yn wrthblaid- ac ai dyna oedd bwriad Ieuan o'r cychwyn?

Y ddinas fawr ddrwg

Vaughan Roderick | 20:06, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

San Steffan heddiw, trip am ddiwrnod i'n prifddinas arall. Cant a deugain o bunnau am docyn rheilffordd. Oedd y tren yr oeddwn i eisiau yn rhedeg? Nac oedd. Nid yw geiriau yn gallu cyfleu maint fy nghariad tuag at Network Rail a First Great Western!

Mae'n rhatach ac yn haws y dyddiau hyn i deithio o Gaerdydd i Prague neu Barcelona nac yw hi i Lundain ac efallai bod hynny'n rannol esbonio'r ymbellhau rhwng y sefydliadau gwleidyddol yn y ddwy ddinas.

Ta beth, cafwyd dau ddatblygiad hynod ddiddorol heddiw. Yn gyntaf, wrth gwrs cafwyd pleidlais unfrydol annisgwyl yn y cynulliad i sefydlu comisiwn i edrych ar fformiwla Barnett a phwerau trethi i'r cynulliad. Roedd comisiwn o'r fath bron yn sicr o ddigwydd o ganlyniad i ba bynnag cytundeb clymblaid sy'n enill y dydd ond mae penderfynniad unfrydol ar yr union foment hon yn arwyddocaol.

Mae'n anodd i mi gyfleu i chi cymaint oedd y dirmyg gan rai yn San Steffan wrth ymateb i'r newyddion. 鈥淏lydi nonsens...does dim byd yn mynd i ddod o hwn鈥 oedd un o'r ymatebion mwy poleit. Wrth gwrs cafwyd ymatebion tebyg gan yr un bobol pan sefydlwyd Comisiwn Richard.

Wrth i mi adael San Steffan roedd Rhodri mewn cyfarfod o'r aelodau seneddol Llafur a phan drodd Arglwydd Kinnock i fyny roedd hi'n weddol amlwg ei fod yn wynebu dipyn o job i ddarbwyllo'r aelodau o rinweddau clymblaid coch/gwyrdd. Mae rhai aelodau yno'n deisyfu arno i fynd yn 么l i drafod da'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Rhodri'n amharod i wneud hynny gan synhwyro efallai y gallai'r cam hwnnw adfywio'r enfys.

Mewn un ystyr roedd heddiw yn fy atgoffa o wleidyddiaeth oes y Tuduriaid a'r Stiwardiaid ond y tro hwn yn lle 鈥淧laid y Senedd鈥 a 鈥淧hlaid y Brenin鈥 mae gennym 鈥淧laid y Senedd鈥 a 鈥淧hlaid y Cynulliad鈥. Mae Rhodri druan yn y canol.

DIWEDDARIAD: Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen.

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Profiad rhyfedd oedd gwrando cwestiynau鈥檙 Prif Weinidog y prynhawn yma. Gyda neb yn gwybod i bwy i fod yn wrthwynebus ac a phwy y maen nhw'n f锚ts roedd hi'n sesiwn ddigon tawel ond, o bosib, yn fwy aeddfed. Roeddwn i'n ceisio gweld oedd hi'n bosib darllen unrhyw beth o'r ymgiprys rhwng Ieuan a Rhodri. Yn anffodus roedd un o atebion Rhodri yn plesio Ieuan a'r llall ddim. Gem gyfartal felly.

Diddorol oedd gweld y ddau gymydog Gareth Jones (Aberconwy) a Darran Miller (Gorllewin Clwyd) yn cydweithio a'i gilydd yn y siambr heddiw i herio'r llywodraeth yngl欧n 芒 gohirio codi ei phencadlys gogleddol newydd yng Nghyffordd Llandudno. Mae Gareth, wrth gwrs, yn un o'r aelodau hynny sydd ag amheuon ynghylch clymblaid coch/gwyrdd. Oes 'na enfys fach yn ffurfio ar y Costa Geriatrica?

Cynhadleddau'r bore

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Ymddiheuriadau am beidio bostio dim ddoe- y tro cyntaf i fi fethu ers y cychwyn dw i'n meddwl. Roedd 'na reswm. Hwyrach wn芒i esbonio prynhawn 'ma. Mae'n fore Mawrth ac felly yn fore "briefings" Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y post yma yn ystod y bore.

10.15 Llafur; Doedd gan Lafur fawr ddim i ddweud am y trafodaethau clymblaid ac eithrio hyn "Rydym yn trafod a Phlaid Cymru a Phlaid Cymru'n unig. Mae'r trafodaethau hynny yn bositif ac yn parhau". Yn y cyfamser mae Llafur yn bwrw ymlaen a'i rhaglen ddeddfwriaethol gan flaenoriaethu mesurau lle mae 'na gonsensws yn y cynulliad.

11.00; Y Ceidwadwyr; Mae Nick Bourne yn gwneud ei orau glas i gadw'r enfys yn fyw. Mynnodd fod y glymblaid honno o hyd yn bosibilrwydd a'i fod yn parhau i drafod a Phlaid Cymru. Mae'r blaid wedi sicrh芒i dadl yfory yn galw am osod targedi ar gyfer y defnydd o ynni amgen - pwnc lle mae 'na anghytundeb rhwng pleidiau鈥檙 enfys a Llafur. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae aelodau Plaid Cymru'n pleidleisio.

12.00; Plaid Cymru; Roedd Ieuan yn hynod ofalus i beidio pechu unrhyw un o'r arweinwyr eraill gan gesio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y clymbleidiau posib. "Dw i ddim yn cymryd yn ganiataol y bydd cytundeb a Llafur yn bosib ond yr unig ffordd i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa yma yw trwy ddelio'n gwbwl onest a phawb"

Rhowch i mi hedd....

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Sul, 17 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r penwythnos yma yn rhoi terfyn ar y saga! Mae gen i lwyth o eitemau a rhaglenni i'w gwneud ynghylch ymadawiad Tony Blair a dyrchafiad Gordon Brown a fawr ddim wedi ei recordio hyd yma. Fe fydd yn rhaid i mi rwygo fy hun o'r bae yr wythnos yma a heglu hi am San Steffan.

Dw i 'n mwynhau mynd i Westminster ond dw i'n paratoi fy hun yn barod am y cwynion gan Aelodau Seneddol am "blwyfoldeb" newyddiduraeth wleidyddol Gymreig. Yr hyn sy'n eu gwenud yn anhapus, wrth gwrs, yw bod aelodau'r cynulliad yn tueddu cael llawer mwy o sylw na nhw. Mae na rhyw beth eitha eironig ynglyn a gwrando ar drigolion y "Westminster Village" yn cyhuddo eraill o "blwyfoldeb".

Serch hynny, mae'n ffaith wrth gwrs mai San Steffan sydd a'r gair olaf ar rhai o'r pynciau mwyaf sy'n effeithio'n bywydau- rhyfel a heddwch, trethi a chyllid, yr economi a phensiynnau i enwi ond ychydig. Ond cyn i'n haelodau seneddol gwyno gormod rhaid gofyn i ba raddau y mae'r penderfynniadau hynny yn benderfynniadau seneddol erbyn hyn ac i ba raddau mae'r dadleuon seneddol ond yn addurn mewn system sy'n gynyddol arlywyddol.

Unbennaeth etholedig oedd disgrifiad Quentin Hogg o system lywodraethol Prydain ac yn sicr mae hi wedi ymddangos felly ar adegau yn ystod cyfnod Tony Blair. Efallai y gwnaeth pethau newid o dan Gordon. Fe gawn weld.

Un peth fyddai'n sicr o drawsnewid pethau fyddai senedd grog ac mae'n ddigon posib mai dyna fydd yn bodoli wedi'r etholiad nesaf. Pe bai hynny'n digwydd mae'n debyg y byddai Gordon yn troi at "bartneriaid naturiol" Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna'r rheswm, mae'n bosib, am ddiddordeb cynyddol yr arweinyddiaeth yn y sefyllfa yng Nghaerdydd.

Fe fyddai "enfys" yn gosod cynsail peryglus gyda phlaid y canol yn clymbleidio a'r Ceidwadwyr yn hytrach na'u partneriaid "naturiol" ar y meinciau Llafur.

Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf mae seneddau crog yn debyg o fod yn gyffredin yn y dyfodol hyd yn oed o dan y drefn bleidleisio fel ac y mae hi. Mae'r canran sydd yn pleidleisio dros y ddwy blaid fawr wedi bod yn gostwng ers degawdau ac rydym yn agoshau at drothwy lle fydd hi'n anodd i naill ai'r Toriaid na Llafur sicrhai mwyafrif clir.

Yn 1966 enillodd y ddwy brif blaid 87% o'r bleidlais a 95% o'r seddi yn Nh欧'r Cyffredin. Erbyn 2005 roedd y canrannau wedi gostwng i 68% o'r bleidlais a 85% o'r seddi. Nid Bae Caerdydd yw'r unig le fydd y pleidiau yn gorfod dysgu sut mae cydweithio!

Gafael mewn enfys

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Sadwrn, 16 Mehefin 2007

Sylwadau (10)

Mae'n bryd i fi rhoi fy mhen ar y bloc. Mae mawrion Plaid Cymru yn cwrdd yn Aberystwyth i gymryd penderfynniad fydd yn gosod patrwm gwleidyddiaeth Cymru am flynyddoedd os nad degawdau i ddod. Nid gormodiaeth yw dweud mai hwn yw'r cyfarfod pwysicaf yn hanes Plaid Cymru.

Pedair awr ar hugain yn ol roeddwn yn teimlo mai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid oedd y penderfynniad mwyaf tebygol. Erbyn hyn dw i'n meddwl bod yr enfys yn dechrau disgleirio eto.

Mae na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf mae'n gymharol eglur erbyn hyn y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio sicrhai cytundeb a Llafur os ydy Plaid Cymru'n gwrthod yr enfys. Mae hyd yn oed y gwr wnaeth arwin y gwrthwynebiad i glymbleidio a Llafur bellach yn ail-feddwl. Mae'n dweud hyn "We have though now come too far for me to be able to revert to my original refusnik role." Does na ddim sicrwydd felly y byddai clymbalid coch/gwyrdd yn dod i fodolaeth.

Mae'r ail reswm am ffarfrio'r enfys yn deillio o'r Blaid Lafur. Dw i'n gwbwl sicr y byddai cynhadledd arbennig yn cefnogi clymblaid o fwyafrif sylweddol ond mae sicrhai y byddai'r peiriant Llafur yn gweithio am bleidlais "Ie" mewn refferendwm yn beth gwahanol. Heb addewid o'r fath beth yw pwynt bod yn ail mewn clymblaid yn lle bod yn brif blaid?

Mae'n ddigon posib fy mod yn gwbwl anghywir ond dw i'n disgwyl i Blaid Cymru estyn an yr enfys heddiw.

Diweddariad; Diwrnod cyfan o drafod a'r penderfynniad... i drafod ymhellach a Llafur ond gan gadw'r "enfys" wrth gefn. Beth fydd ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol tybed?

Pen yr enfys

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007

Sylwadau (9)

Wrth i bwyllgor gwaith y Blaid Lafur gwrdd i drafod y glymblaid bosib a Phlaid Cymru mae'n werth cofio nad ydym wedi gweld pen ar yr enfys eto. Wrth reswm ar drafodaethau Llafur a Phlaid mae'r sylw wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf gyda rhai'n awgrymu bod yr ansicrwydd yngl欧n 芒 symudiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwthio'r ddwy blaid yn agosach at ei gilydd.

Serch hynny, mae'r enfys o hyd yn hofran uwch ein pennau a dw i'n ddigon parod i gredu mai hi fydd dewis Plaid Cymru ar ddiwedd y dydd.

Mae 'na sawl reswm am hynny ond y pwysicaf yw hwn- tawlwch, mudandod hyd yn oed, y rheiny o fewn y blaid sy'n gwrthwynebu clymbleidio a Llafur. Mae'r gr诺p hwn yr un, os nad yn fwy, niferus na'r rheiny oedd gwrthwynebu'r "enfys" fel mater o egwyddor. Eto tra roedd Helen Mary a'i dilynwyr yn gweld yr angen i leisio ei hamheuon yn gyhoeddus mae'n amlwg bod y gwrth-lafurwyr yn gobeithio ennill y ddadl y fewnol.

Yn y b么n mae dadl gwrthwynebwyr llywodraeth coch/gwyrdd yn un syml. Dyma hi. "Yr unig beth y gall Llafur gynnig nad yw'n bosib ei sicrh芒i trwy'r enfys yw refferendwm. Ydych chi'n fodlon derbyn ei gair yngl欧n 芒 hynny?"

Rhowch i'm fy hyfryd got...

Vaughan Roderick | 07:46, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Mae'r gystadleuaeth i ddewis Joseff newydd Andrew Lloyd Webber wedi dod i ben ond mae'n anodd cael yr hen gan yna allan o'm mhen. "Pan af yn 么l at y dechreuad...".

Gadewch i ni gofio lle roedden ni chwe wythnos yn 么l. Roedd canlyniadau'r etholiad yn amwys a'r dyfodol yn ansicr. Y senario debycaf oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dw i ddim am ail adrodd popeth sydd wedi digwydd ers hynny ond dyma ni ar drothwy rhyw fath o gytundeb gyda Phlaid Cymru yn gorfod penderfynu rhwng yr enfys a llywodraeth coch/gwyrdd.

(Penderfyniad Plaid Cymru yw hwnnw, gyda llaw. Er cymaint y geiriau croes yn Westminster a'r Rhondda mae Rhodri a Gordon yn benderfynol o gadw grym yng Nghymru beth bynnag yw barn yr Aelodau Seneddol ac Ysgrifennydd Cymru. Mae penderfyniad Rhodri i gefnogi Harriet Harman yn y ras am ddirprwy arweinyddiaeth ei blaid yn adrodd cyfrolau am bwy sydd ar ben arall y ffon yn Llundain...ac nid Peter Hain yw hwnnw. Fe fyddai cynhadledd Lafur yn cefnogi clymblaid a Phlaid o fwyafrif llethol beth bynnag yw safbwyntiau trigolion swigen San Steffan.)

"Ond awn yn 么l hyd y dechreuad...". Ers i mi bostio, yn hanner gellweirus, ddoe yngl欧n 芒'r posibilrwydd y gallai Mike German godi'r ffon i Rhodri Morgan mae ambell i un yn y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi crybwyll y posibilrwydd o ail- agor trafodaethau rhwng y ddwy blaid.

Dw i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond er mwyn ei rhwystro dw i'n amau na fydd gr诺p cynulliad a phwyllgor gwaith Plaid Cymru yn chwalu'r enfys yfory. Y disgwyl oedd y byddai cyfarfodydd Plaid yfory yn dewis rhwng coch/gwyrdd a'r enfys. Dw i'n amau y gallai'r cyfarfodydd benderfynu cadw'r ddau bosibilrwydd yn fyw er mwyn cadw'r cadwynau ar Mike German.

Pell Pell i ffwrdd roedd rhai yn cysgu...

Diweddariad; Ers i mi sgwennu'r uchod mae cyfeillion o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymmu i mi na fyddai cadw'r ddau gynllun yn fyw yn llehai'r pwysau ar Mike German i siarad a Llafur. Fe ddaw'r pwysau hynny gan bobol sydd yn teimlo ei bod hi'n iawn i nhw siarad a phawb os ydy Plaid Cymru yn gwneud hynny.

Os felly (a dw i'n tueddu derbyn y ddadl) mae'n bosib y bydd yn rhai i Blaid Cymru neidio i'r naill gyfeiriad neu'r llall yfory neu wynebu dychwelyd i'r sefyllfa oedd yn bodoli ar Fai'r 6ed pan oedd yr opsiynnau i gyd yn agored. Yn ol at y dechreuad mewn geisiau eraill!

Meddwl am Mike

Vaughan Roderick | 15:33, Dydd Iau, 14 Mehefin 2007

Sylwadau (5)

Wrth grwydro'r senedd heddiw roedd hi'n rhyfeddol gweld cymaint o'n gwleidyddion mewn hwyliau da. Efallai bod gwybod y bydd na derfyn ar yr holl helynt cyn gwyliau'r haf yn donic i bawb ond mae na resymau eraill i aelodau tair o'r pedair plaid fod yn llon eu byd.

O safbwynt Llafur mae'n ymddangos bod dihangfa wyrthiol yn bosib, gall aelodau Plaid Cymru fod yn sicr y byddant mewn llywodraeth o fewn ychydig wythnosau tra bod y Tor茂aid yn saff o fod yn rhan o lywodraeth neu'n brif wrthblaid.

Mae hynny'n gadael y Democratiaid Rhyddfrydol. Beth sy'n wynebu nhw fel Plaid? Blynyddoedd yn yr oerfel o bosib, gyda thair o'u pedair sedd o dan fygythiad yn yr etholiad cyffredinol. Mae ei seren ifanc Kirsty Williams wedi pechu rhannau helaeth o'r blaid ac yn annhebyg o esgyn i'r arweinyddiaeth a mae ei harweinydd presennol yn y penawdau yn gyson am y rhesymau anghywir.

Fe fydd na fawr ddim cydymdeimlad gan y pleidiau eraill sy'n beio'r Democratiaid Rhyddfrydol am wneud llanast o'r broses o ffurfio llywodraeth ond oes 'na unrhyw beth y gall y blaid ei hun wneud i osgoi pedai blynedd arall fel gwrthblaid ymylol?

Does bosib. Na. Dw i'n gwrthod hyd yn oed meddwl am y peth. Byse hynny byth yn digwydd.

Ond beth os oedd Mike German yn codi'r ffon i Rhodri?

S4C2

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Iau, 14 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Dyma drefn darlledu gwasanaeth 麻豆约拍 Cymru o'r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2 yr wythnos nesaf:

Mawrth 19eg o Fehefin

1345-1730 Sesiwn Lawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad Busnes a Chyhoeddiad
Datganiad am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Newid Gwyrdd

Mercher 20fed o Fehefin

1229-1730 Sesiwn Lawn
Busnes y Llywodraeth 12.29 鈥 1400:
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd (Edwina Hart)
Cwestiynau i Weinidog yr Economi (Brian Gibbons)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth 1400 鈥 1730:
Dadl Plaid Cymru: Cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau
Dadl y Ceidwadwyr: Torri Allariadau Carbon ac Ynni Adnewyddol
Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol: Pwerau ariannol a chyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru
Y Ddadl Fer: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yr Angen am Ysbyty Llwynhelyg

Iau 21 Mehefin

Dim busnes ffurfiol

Poeni am bleidlais

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Iau, 14 Mehefin 2007

Sylwadau (7)

Cefais fy synnu y bore ma wrth gyrraedd y gwaith. Nid gan y datblygiadau gwleidyddol diweddara- dw i y tu hwnt i syndod cyn belled ac mae'r rheiny yn y cwestiwn- ond gan sylwadau dau o'm cydweithwyr yngl欧n 芒'r posibilrwydd o refferendwm.

Roedd y ddau yn gwbwl argyhoeddedig nad oedd modd yn y byd y byddai etholwyr Cymru yn cefnogi cynyddu pwerau'r cynulliad mewn pleidlais -hynny er gwaetha'r ffaith bod pob un arolwg barn yn awgrymu'r gwrthwyneb. Yr un yw'r gri gan nifer o aelodau seneddol ac mae Peter Hain wedi dweud hynny ar goedd droeon.

Beth yw'r sail i'r gred hon? Yn sicr mae profiadau 1979 a 1997 yn rhan ohoni. Yn y ddau refferendwm roedd y bleidlais negyddol llawer yn fwy na phroffwydoliaethau'r polau piniwn. Yn fwy cyffredinol mae'n deg i ddweud bod hi'n gythreulig o anodd i lywodraethau ennill pleidleisiau sydd yn aml yn cael eu defnyddio gan yr etholwyr i roi cic i ba bynnag plaid neu bleidiau sydd mewn grym.

Am y rheswm hynny byswn yn disgwyl y byddai unrhyw gytundeb rhwng Llafur a Phlaid yn cynnwys rhyw fath o "get out clause" i alluogi i lywodraeth Coch/Gwyrdd ohirio'r bleidlais os nad oedd hi'n bosib ei hennill.

Yn bersonol dw i ddim yn rhannu barn fy nghydweithwyr a'r aelodau seneddol. Yn gyntaf roedd cost cynulliad yn ffactor allweddol yn 1979 a 1997.

Arf fwyaf effeithiol Neil Kinnock yn '79 oedd y ddadl bod prynu peirannau arennau yn bwysicach na chreu "siop siarad" yng Nghaerdydd. Roedd yr un fath o ddadl yn thema gyson i Nick Bourne, Tim Williams a Betty Bowen yn '97. Ni fydd y ddadl honno'n berthnasol y tro nesaf gan fod y cynulliad eisoes yn bodoli. Y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yw pa set o wleidyddion ddylai deddfu yngl欧n ag ysbytai ac ysgolion Cymru- y trigain aelod Cymreig yn y cynulliad neu'r chwe chant o wleidyddion Prydeinig yn San Steffan?

Mewn cyfnod lle mae'r canran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ar gynnydd a'r diddordeb yn etholiadau San Steffan yn pylu dw i'n meddwl bod hi'n fwyfwy amlwg pa gorff etholedig sy fwyaf perthnasol i'w bywydau yng ngolwg etholwyr Cymru.

Cymhellion cymysg

Vaughan Roderick | 20:55, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Mae'r pwysau am gynhadledd arbennig gan aelodau Llafur Cymru yn hynod ddifyr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw pwy sydd y tu ol i'r galw.

Ar y naill ochor mae rhai o'r datganolwyr mwyaf pybur am weld cynhadledd i sicrhai nad yw'r blaid yn gallu cefnu ar yr addewid o refferendwm. Mae eraill yn gobeithio y byddai cynhadledd yn gwrthod clymblaid neu y byddai'r peryg o hynny yn darbwllo Plaid Cymru i gerdded i ffwrdd o'r trafodaethau. Rhain yw'r bobol (bach eu nifer) sy'n ystyried purdeb yn bwysicach na'r gallu i gyflawni ( mae 'na bobol felna ym mhob plaid!).

Ta beth mae'r posibilrwydd o "super-Saturday" wedi ail-ymddangos gyda'r Gynhadledd Lafur (mwy na thebyg) ar yr un diwrnod a Chyngor Cendlaethol Plaid Cymru.

Rhodri yn ffau'r llewod

Vaughan Roderick | 11:53, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Sylwadau (7)

Fe fydd Rhodri Morgan yn cwrdd ag Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan y prynhawn yma i geisio eu hargyhoeddi o'r angen am glymblaid a Phlaid Cymru. Mae'r dasg yn un anodd gyda'r nifer o aelodau'n gwrthwynebu unrhyw amserlen ar gyfer cynnal refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad. Mae agwedd yr aelodau yn hollbwysig gan fod Plaid Cymru ym mynnu cael addewid pendant y byddai'r Blaid lafur gyfan yn ymgyrchu dros bleidlais "Ie" mewn refferendwm- syniad sy'n wrthun i rai yn Llundain.

Mae rhai Aelodau Seneddol hefyd yn bwriadu mynnu bod unrhyw gytundeb a Phlaid Cymru yn derbyn s锚l bendith trwch y blaid er na ddigwyddodd hynny yn achos y cytundeb a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Y tu 么l i'r llenni y mae pethau'n digwydd heddiw cyfle i ni ddal i fyny ac ychydig o straeon eraill felly.

Gydag etholiadau'r cynulliad drosodd mae'r pleidiau wedi dechrau dewis ymgeiswyr seneddol. Draw yng Ngorllewin Abertawe mae 'na frwydr ffyrnig i olynu Alan Williams fel ymgeisydd Llafur. Mae pob math o yn cael eu gwneud ond yn sicr mae gan yr aelodau lleol ddigon o ddewis yn eu plith dwy o ymgeiswyr aflwyddiannus y cynulliad sef cyn aelod Preseli Tamsin Dunwoody ac ymgeisydd Gogledd Caerdydd Sophie Howe.

Parhau mae Martyn Jones AS yn erbyn y Mail on Sunday. Cewch wybod sut mae Martin yn clymu ei fow-tei yn.

O gwmpas y blogs. Mae yn herio agweddau'r Tor茂aid yngl欧n 芒'r iaith. Mae , , a blog "" i gyd yn trafod y sefyllfa wleidyddol ddiweddara.

Diwedd y gem

Vaughan Roderick | 08:15, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Mae Ieuan Wyn Jones newydd ddweud hyn ar Radio Cymru. "Dw i'n addo i bobol Cymru y bydd gan Gymru lywodraeth sefydlog erbyn yr haf."

Mae'r llinell derfyn o fewn cyrraedd felly er bod y canlyniad o hyd yn ansicr.

Ble nesa?

Vaughan Roderick | 07:30, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Sylwadau (5)

Mae'n saith y bore yn Llandaf a finnau ar fin dechrau bownsio n么l a malen rhwng stiwdios Post Cyntaf a Good Morning Wales i geisio esbonio'r datblygiadau diweddaraf. Cyfle i hel meddyliau felly ac edrych ar amserlen y dyddiau nesaf.

Mae 'na ddau beth sy'n amlwg. Yn gyntaf mae unrhyw syniad y gallai Llafur ymlwybro ymlaen trwy鈥檙 haf fel llywodraeth leiafrifol wedi diflannu. Yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg mae Helen Mary Jones yn dadlau dros rinweddau llywodraethau lleiafrifol ond mae'n rhaid dweud bod hi'n lleisio safbwynt eithaf unig wrth feddwl y gall rhiw fath o frawd neu chwaer-garwch Greenhamaidd reoli Cymru am bedair blynedd.

Yr ail beth sydd yn amlwg yw y bydd Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth Cymru ymhen ychydig wythnosau. Y cwestiwn nawr yw ai Coch/Gwyrdd fydd y llywodraeth honno ai'r "enfys". Yr unig blaid all ateb y cwestiwn hwnnw yw Plaid Cymru.

Fe fydd na fawr ddim yn digwydd ar ochor yr enfys yn ystod y dyddiau nesaf. Mae'r cytundeb hwnnw yn barod. Y dasg i swyddogion Llafur a Phlaid nawr yw llunio rhaglen waith cyffelyb i lywodraeth Coch/Gwyrdd. Os ydy hi'n bosib llunio'r cytundeb hwnnw fe fydd y dogfennau'n cael eu hystyried gan fawrion y blaid yn Aberystwyth Ddydd Sadwrn.

Dw i'n cael ar ddeall y bydd gr诺p Plaid Cymru yn penderfynu pa un o'r ddau lwybr i'w ddilyn yn y cyfarfodydd hynny. Does 'na ddim bwriad i ganiat谩u i Gyngor Cenedlaethol y Blaid ddewis rhwng y ddau gynllun. Dweud "Ie" neu "Na" i ddewis y gr诺p fydd tasg y corff hwnnw ar Orffennaf 7fed.

Fe fydd y dewis yn un eithaf eglur ond serch hynny yn un anodd. Arwain llywodraeth neu sicrh芒i senedd? Dyna fydd y cwestiwn.

Coch a Gwyrdd!!!!!!!!

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (7)

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o fewn y dim i gytuno ar Glymblaid. Dw i'n cael ar ddeall bod grwp Plaid Cymru bron yn sicr o gytuno i drafodaethau pellach a Llafur mewn cyfarfod heno.

Deallaf fod Llafur wedi cynnig o leiaf tair sedd cabinet i Blaid Cymru ac addewidion pendant o refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad, comisiwn ar fformiwla Barnett a mesur iaith.

DIWEDDARIAD; Mae ffynonellau o fewn Llafur a Phlaid Cymru yn gwadu bod nifer seddi cabinet Plaid Cymru wedi ei drafod ond dydyn nhw ddim yn gwadu byrdwn y stori.

Mae dwy blaid arall yr enfys yn disgwyl i aelodau gr诺p Blaid Cymru bleidleisio o blaid parhau a thrafodaethau a Llafur yn eu cyfarfod heno ond yn parhau'n obeithiol mai'r "enfys" fydd y dewis ar ddiwedd y dydd.

Llafur yn symud

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (1)


Mae cyfarfod o'r gr诺p Llafur wedi rhoi "rhyddid llwyr" i Rhodri Morgan wrth gynnal trafodaethau yngl欧n 芒 chytundeb neu glymblaid lawn a Phlaid Cymru. Hwn yw'r tro cyntaf i'r gr诺p arwyddo parodrwydd i gyrraedd trefniant clymblaid a'r cenedlaetholwyr.

Rant gan Richard

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (8)

Yn y rhifyn newydd o Barn (ar gael heddiw) mae Richard Wyn Jones yn tanio magnel i gyfeiriad rebeliaid Plaid Cymru. Dyma flas.

Cofiwch mai Maggie Thatcher a John Redwood oedd cri gynyddol ddespr锚t Llafur yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Ai dyma, yn y pen draw, garreg sylfaen safbwynt y pump hefyd? Hynny er gwaetha鈥檙 ffaith fod Thatcher wedi ymddiswyddo ers bron i ddwy flynedd ar bymtheg (sef, os mentra鈥檌 ddweud, cyn bod llawer o gof gwleidyddol gan ddwy o鈥檙 pump), a Redwood wedi peidio 芒 bod yn Ysgrifennydd Gwladol ers 1995? Os felly, ydi hyn mewn difrif yn sail ddigonol i benderfynu gwrthod clymbleidio 芒鈥檙 Tor茂aid, a hynny ar sail dogfen bolisi sydd heb os nac oni bai yn adlewyrchu llawer iawn o 鈥榳erthoedd ac amcanion sylfaenol鈥 Plaid Cymru?....

A yw Helen Mary Jones, Leanne Wood, Bethan Jenkins, Nerys Evans a Jill Evans mewn difrif am ddadlau nad oes 鈥榞wrthdaro gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol鈥 rhyngddynt a鈥檙 blaid a roddodd inni:
-y penderfyniad i lansio rhyfel anghyfreithlon a chyfan gwbl anghyfrifol yn erbyn Irac?
-y penderfyniad i wario o leiaf 拢20 biliwn yn llogi taflegrau Trident II gan yr Americanwyr, a hynny鈥檔 unig er mwyn i鈥檙 Deyrnas Gyfunol chwifio鈥檌 bidyn ar y cae chwarae rhyngwladol (a chodi dau fys ar y cytundeb non-proliferation yn y broses)?
-y penderfyniad i roi rhwydd hynt i gytundebau PFI rif y gwlith a fydd yn faen melin ar ysgwyddau cenedlaethau鈥檙 dyfodol?
-bolis茂au economaidd a chymdeithasol sydd wedi caniat谩u i鈥檙 gagendor rhwng y tlawd a鈥檙 cyfoethog dyfu鈥檔 fwy nag oedd dan y Tor茂aid, hyd yn oed?"

... a llawer mwy

I ddarllen y cyfan rhaid prynu'r cylchgrawn.

Shurmer yn gadael

Vaughan Roderick | 10:55, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Mae pennaeth cyfathrebu Plaid Cymru Alun Shurmer wedi ei bennodi i'r un swydd yn 麻豆约拍 Cymru. Fe fydd yn cychwyn yn y gwaith ym Mis Awst.

Briefings y bore

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

10.15 Rhodri Morgan; Dywedodd Rhodri ei fod wedi cynnal cyfarfod "adeiladol" y bore 'ma gyda Ieuan Wyn Jones a Jocelyn Davies. Am y tro cyntaf awgrymodd Rhodi fod clymblaid coch/gwyrdd yn bosib. "Mae popeth ar y bwrdd- does dim byd wedi ei gau allan". Ychwanegodd y byddai llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur yn gallu cyflawni llawer mwy o ddyheadau Plaid Cymru na llywodraeth "enfys" oherwydd ei pherthynas a llywodraeth San Steffan a'i niferoedd yn y siambr. Dywedodd ei fod yn fodlon trafod rhagor gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd one ei fod yn synhwyro bod y blaid honno wedi "cau ei hun allan- am y tro"

11.00 Nick Bourne; Mae Rhodri yn ymddwyn fel "Ceau艧escu ar y balconi" trwy fygwth y gallai Llafur San Steffan flocio mesurau llywodraeth "enfys". Mae'r ysgrifen ar y mur i Rhodri mae Llafur wedi profi nad ydynt yn gallu newid i ddygymod a bod mewn lleiafrif

12.00 Ieuan Wyn Jones; Fe fydd 'na gyfarfod arbennig o gr诺p Plaid Cymru heno i drafod y ffordd ymlaen. Doedd Ieuan ddim yn fodlon datgelu cynnwys ei drafodaethau'r bore 'ma ond dywedodd bod bygwth blocio mesurau llywodraeth enfys yn "gwbwl trahaus". "Os ydy Rhodri yn dweud mai'r unig ffordd y gall y drefn weithio yw trwy gael llywodraethau o'r un lliw yng Nghaerdydd a San Steffan nid trefn ddemocrataidd yw hi."

Cyffwrdd cap a chwis

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Penderfynais beidio blogio yngl欧n 芒 helynt Thomas Cook ddoe. Doedd gen i fawr ddim gwahanol na newydd i ddweud. Ond mae'n werth i mi gyffwrdd fy nghap i am ei r么l yn lledaenu'r stori ac am heddiw, a heddiw'n unig, fe wn芒i atgyfodi'r cwis.

Beth sy'n gyffredin rhwng Thomas Cook a thafarndai Caerliwelydd?

Bore Mawrth yn y Bae

Vaughan Roderick | 09:47, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol newydd gyhoeddi eu hymateb i lythyr Rhodri Morgan yn cynnig cydweithio a'r Blaid. Yr hyn fydd yn synnu ac yn pryderu Rhodri yw bod talpiau o'r llythyr yn agos at fod yn atgynhyrchiad gair am air o ymateb Ieuan Wyn Jones ddoe. I bob pwrpas mae'r llythyr yn datgan, yn ddigon cwrtais, nad yw cynigion Rhodri yn dod yn agos at ddiwallu'r hyn fyddai angen i sicrh芒i cefnogaeth y blaid.

Efallai mai'r frawddeg allweddol yw hon "I would hope that you might seek to get broader agreement on the matters you raise across all the parties who currently sit in opposition". Mewn geiriau eraill peidiwch geisio hollti'r enfys. Os ydych chi eisiau siarad 芒 ni mae'n rhaid siarad 芒'r Ceidwadwyr hefyd.

Mae gan y llywodraeth, Plaid Cymru a'r Tor茂aid gynadleddau newyddion y bore 'ma. Fe fydd hi'n ddiddorol clywed beth sy'n cael ei ddweud.

Trafferth yn y teulu

Vaughan Roderick | 20:08, Dydd Llun, 11 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Ar flog ceir yr ymateb yma i'r neywddion ei fod am sefyll yn erbyn Lembit ym Maldwyn.

"Hooray! Big Sister would kill me for saying so because, as she has recently made it clear, she thinks Tories are a kind of smallpox virus to be avoided at all costs but I am quite brave so I will say hooray again. No more carpetbaggers for Montgomeryshire, please. Best wishes Myfanwy"

Pwy yw Myfanwy? Go brin y byddai Myfanwy Alexander mor anheyrngar i'w chwaer Helen Mary Jones!

Dilema'r Democratiaid

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Llun, 11 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Dyw penderfyniad i herio Lembit Opik ym Maldwyn ddim yn annisgwyl. Mae pawb wedi bod yn tynnu ei goes am y peth byth ers etholiadau'r cynulliad. Ddydd Gwener ar "Dau o'r Bae", er enghraifft, roedd Roger Roberts yn ceisio ei demtio i Dy'r Arglwyddi gan synhwyro efallai faint o broblemau y gallai fe achosi i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.

Yn dechnegol, wrth gwrs, mae'n rhaid i Glyn dderbyn s锚l bendith Tor茂aid Maldwyn ond go brin y bydd Ceidwadwyr y sir yn gwrthod eu cyfle gorau ers dyddiau Delwyn Williams i gipio'r sedd.

Tipyn o ffliwc oedd buddugoliaeth Delwyn yn 1979 mewn gwirionedd. Roedd Rhyddfrydwyr Maldwyn mor fisi yn trefnu digwyddiadau i ddathlu canrif o gynrychiolaeth Ryddfrydol yn y senedd nes eu bod yn rhu prysur i ymgyrchu!

Dychwelwyd i'r drefn arferol yn 1983 ar 么l pedair blynedd o'r gynrychiolaeth ryfedda a welodd unrhyw etholaeth Gymreig erioed. Cyrhaeddodd ei phenllanw gydag erthygl yn y Daily Mail lle hawliodd Delwyn bod ganddo ffensys uchel a ch诺n i amddiffyn ei dy rhag "nationalist extremists". Dywedodd ei fod yn ofni am ei fywyd gymaint nad oedd bellach yn gallu treulio ei amser yn dilyn ei hobi sef " relaxing on the beach in Welshpool."

Byth ers hynny mae 'na wedi bod mwy o obaith canfod traeth yn y Trallwng nac ethol Ceidwadwr ym Maldwyn!

Fe fydd pethau'n wahanol iawn wrth i Glyn sefyll. Mae Lembit yn un sylweddol ond mae poblogrwydd Glyn, cyhoeddusrwydd diweddar Lembit a'r posibilrwydd o lif cyffredinol i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad nesaf yn gwneud hon yn ras i wylio.

Mae Glyn yn hoff o'n hatgoffa bod y Ceidwadwyr wedi ennill y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn ym Mis Mai. Mae'r un peth yn wir drws nesa ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'n bwysig felly nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd seddi Powys yn ganiataol y tro nesaf ond fe fydd ymgyrchu'n galed yn y ddwy sedd hynny yn creu problem arall i'r blaid.

Yn 2005 roedd y blaid yn gallu gorffwys ar eu rhwyfau ym Mhowys gan ganolbwyntio ei hadnoddau ariannol a dynol ar ddwy etholaeth sef Canol Caerdydd a Cheredigion. Enillwyd y ddwy ond mae'n bosib bod 2005 yn benllanw i'r blaid. Fe ddylai sedd Jenny Willott fod yn ddiogel y tro nesa ond, heb help llaw o Bowys, ai deiliad un tymor fydd Mark Williams?

Dyw e hi ddim yn amhosib rhagweld sefyllfa lle fyddai na ond un aelod seneddol Cymreig gan y blaid. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd iddi ond y tro hwn nid Maldwyn neu Geredigion fyddai'r cadarnle ond Canol Caerdydd. Gallai'r sefyllfa honno ail-danio hen ddadleuon o fewn y blaid rhwng yr asgell wledig draddodiadol a gwleidyddion cymunedol y dinasoedd a'r trefi.

Ffactorau fel hyn, dw i'n meddwl oedd yn dylanwadu ar rheiny fel oedd yn dymuno gweld y blaid yn cymryd hoe ar feinciau'r gwrthbleidiau yn y cynulliad i ystyried ei strategaeth a'i chyfeiriad. Go brin fod 'na amser i wneud hynny. Dw i'n synhwyro bod na tsunami arall o daflenni Rhyddfrydol ar y ffordd!

Lincs

Vaughan Roderick | 16:25, Dydd Sul, 10 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Mae Mam yn dathlu ei phenblwydd yn wythdeg y penwythnos 'ma. Dim llawer o flogio gen i felly- ond mae na ddigon i ddarllen o gwmpas y we.

Mae yn sbort. Blog yw hwn sy'n canmol yr Unol Daleithiau ac yn myfyrio am y posibilrwydd o "Batagonia newydd" yn yr haul. Mae un Patagonia yn hen ddigon i rai ohonom! Mae yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yn blogio ynghylch gwleidyddiaeth a chrefydd y wlad honno yn ogystal a Chymru fach.

Blog cymharol newydd arall yw sydd wedi cychwyn yn arbennig o dda er cymaint trafferthion cyfrifiadurol yr awdur. Mae ei ddisgrifiad o'r problemau hynny yn sicr yn taro deuddeg i bobol fel fi sy'n byw ar drugaredd NTL!

Mae yn flog eclectig sydd yn sicr werth ei ddarllen. Felly hefyd wrth gwrs. Mae ei bost diweddara yn cynnwys dychan llawer rhu agos i adref ynghylch y frwydr iaith yng Ngwlad y Basg.

Fe ddylech chi wybod erbyn hyn mai'r lle i weld y blogs Cymraeg i gyd yw'r .

Syr Eric sydd sur

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Sadwrn, 9 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Un o broblemau'r dechnoleg newydd yw bod hi'n llawer anoddach i wleidyddion neu newyddiadurwyr gael "get-away" a rhywbeth. Yn yr hen ddyddiau os oedd rhyw un yn dweud rhywbeth twp neu fyrbwyll ar y radio neu'r teledu roedd 'na siawns go dda na fyddai unrhyw un yn sylwi. Fe fyddai ambell i wrand盲wr neu wyliwr yn gofyn i'w hun "beth ddwedodd e? ...wnaeth e ddweud hynny mewn gwirionedd?" ond doedd dim modd checio ac fe fyddai'r holl beth yn mynd yn angof.

Nawr trwy garedigrwydd gwasanaethau "gwrando eto", Sky+, YouTube ac eraill mae pob camgymeriad ar gof a chadw, yn rhydd i bawb ei weld a'i ail-gyhoeddi.

Fe ddysgodd y George Allen, seneddwr o Virginia a'r ffefryn ar y pryd i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwr, bod un gair allan o le o flaen camera yn gallu arwain at ddinistr. Cewch ddarllen ei hanes yn. Fe ddysgodd trigolion t欧 Big Brother wers debyg yr wythnos hon.

Ers talwm roedd gan siaradwyr Cymraeg fantais ychwanegol. Ar 么l dweud rhywbeth hurt yn Gymraeg roedd 'na wastad obaith y byddai'r peth yn cael ei gadw o "fewn y teulu" ac yn cael ei anwybyddu y tu allan i'r Gymru Gymraeg.

Os oedd y stori yn croesi'r ffin ieithyddol roedd hi wastad yn bosib hawlio "nad yw'r cyfieithiad yn adlewyrchiad teg o'r hyn ddwedais" neu " dyw'n Cymraeg i ddim yn sbeshial, doeddwn i ddim yn golygu hynny..."

Un a lwyddodd i fod yn "off-message" am ddegawdau heb fawr o drafferth oedd Syr Eric Howells. Yn y dyddiau pan oedd hi'n bosib cyfri Ceidwadwyr Cymraeg eu hiaith ar fysedd un llaw, Syr Eric, yn amlach na pheidio, oedd llefarydd Cymraeg ei blaid.

Yn amlach na pheidio hefyd fe fyddai sbin-ddoctoriaid y Blaid wedi bod yn eu dagrau pe bai nhw'n gwybod beth yn union oedd yr oedd y ffermwr di flewyn ar dafod yn dweud. Os oedd Eric yn meddwl bod araith yn s芒l neu bolisi yn anghywir roedd yn dweud hynny cyn troi n么l wrth weni at swyddogion uniaith y Blaid.

"What did you tell Radio Cymru Eric?"

"Oh, just the usual..."

Yn y diwedd cafodd Syr Eric ei ddal allan. Fe ddylai fe wedi sticio at y Gymraeg yn hytrach na datgan yn Saesneg ar Dragon's Eye ei yng Ngorllewin Caerfyrddin.

Deuddydd ar 么l yr etholiad cafodd ei ddiarddel o'r Blaid a heddiw mewn llythyr yn y mae'n cwyno am y ffordd mae wedi ei drin.. Mae'n dweud hyn.

"Big Brother has taken over from central office. The party chairman Theresa May, when addressing the party conference a few years ago, referred to the Conservative Party as the nasty party. My experience confirms that as a very true statement.鈥

Mae'n anodd peidio teimlo dros Eric. Do fe gafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaeth gwleidyddol ond fe dderbyniodd e'r un geiniog am filoedd o oriau o wasanaeth i'r blaid. Oedd, roedd e'n gallu dweud pethau hurt oedd yn achosi embaras weithiau. Ond p鈥檜n sydd orau i wleidyddiaeth- y gwirfoddolwyr gonest di-sglein neu'r siwtiau sgleiniog proffesiynol sydd mor amlwg yn y pleidiau i gyd y dyddiau hyn?

Sibrydion

Vaughan Roderick | 11:31, Dydd Gwener, 8 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Mae Jonathan Morgan AC newydd ryddhau datganiad yn cyhoeddi nad yw'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae hwnnw yn benderfyniad dioddorol o gofio y byddai ganddo siawns go dda o gipio Gogledd Caerdydd i'w blaid.

Beth sy'n darbwyllo g诺r ifanc uchelgeisiol i hepgor ar y fath gyfle? Go brin ei fod yn cefnu ar San Steffan er mwyn treulio'i amser yn y cynulliad ar feinciau'r gwrthbleidiau.

Yn y cyfamser mae Peter Black yn dweud hyn ar ei;

"Judging by the activity going on behind the scenes, some of which is making the news, the rainbow coalition remains the favourite but a number of other runners are catching up fast on its blind side."

Beth yw'r "other runners" tybed? Ydy peter yn awgrymu bod rhywbeth ar y gweill rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol?

Coch a Gwyrdd?

Vaughan Roderick | 17:16, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (4)

O'r diwedd dw i'n cael sgwennu'n fanwl am yr hyn dw i wedi bod yn ensynio yn ystod y dydd.

Mae dyfodol llywodraeth y cynulliad yn 么l yn y fantol. Am y tro cyntaf mae aelod Llafur blaenllaw wedi awgrymu'n gyhoeddus y gallai Llafur ffurfio clymblaid a Phlaid Cymru.

Mewn cyfweliad a rhaglen Dragon's Eye dywedodd y gweinidog iechyd Edwina Hart y byddai hi'n ddigon hapus i eistedd wrth y bwrdd cabinet gyda Ieuan Wyn Jones.

Ymateb oedd Edwina i alwad Adam Price am glymblaid rhwng ei blaid e a Llafur. Mae llefarydd Rhodri Morgan yn fwy pwyllog gan ddweud ei fod o hyd yn disgwyl am ymateb gan Ieuan Wyn Jones i'w lythyr yn gwahodd trafodaethau pellach.

Beth yw goblygiadau'r stranciau diweddara? Wel dw i'n amau bod Adam yn ceisio gwneud dau beth. Yn gyntaf roedd am weld a oedd y safbwynt Llafur yngl欧n 芒 chlymblaid ffurfiol wedi newid. Dw i hefyd yn amau ei fod yn disgwyl i'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod yn negyddol - ateb a fyddai'n cryfhau dadl cefnogwyr yr Enfys.

Beth felly oedd cymhelliad Edwina wrth roi ei hateb cadarnhaol ? Ymdrech oedd hi dw i'n amau i wneud hi'n eglur nad yw pawb o fewn Llafur yn ymwrthod yn llwyr a'r syniad o glymblaid coch-gwyrdd. Gallai hynny demtio Ieuan yn 么l i'r bwrdd ac os nad yw hynny'n digwydd fe fydd llaw gwrthwynebwyr yr enfys o fewn Plaid Cymru wedi ei gryfhau.

Croeso i ail hanner y g锚m!

Bant a ni!

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Yn gynharach fe wnes i flogio ynglyn ac amharodrwydd Edwina Hart i wneud cyfweliadau. Wel heddiw mae Edwina wedi gwneud cyfweliad i "Dragons Eye". Mae pethau MAWR ganddi ddweud. Gwyliwch!

Yn y cyfamser mae ffynonellau Llafur wedi bod yn ymateb i sylwadau ar yn datgan cefnogaeth i glymblaid ffurfiol rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Mae Llafur yn mynnu bod y "drws yn agored" i drafodaethau pellach a Phlaid Cymru. Ond ydy clymblaid coch-gwyrdd yn bosibilrwydd go iawn? A fyddai Llafur yn fodlon ystyried hynny er mwyn aros mewn grym neu ydy Adam Price yn disgwyl y bydd gwrthodiad gan Lafur yn cryfhau llaw cefnogwyr yr enfys?

Mae'n bosib bod 'na atebion annisgwyl i un o'r cwestiynau hynny.

Beth yw'r haf i mi?

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Dyw'r dyddiad erioed wedi bod yn swyddogol ond y disgwyl oedd y byddai gwyliau haf y cynulliad yn cychwyn ar y trydydd ar ddeg o Orffennaf. Nawr mae 'na sibrydion ar led bod y gwrthbleidiau am ymestyn eisteddiadau'r cynulliad am wythnos arall.

O gofio bod Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn debyg o gwrdd yn ystod penwythnos cyntaf y mis beth fyddai arwyddoc芒d gofyn am estyniad? Efallai bod angen fwy nac wythnos i ddymchwel un llywodraeth a gosod un arall yn ei lle.

Rhybudd o Gasnewydd

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Wrth i Lafur baratoi i geisio hollti'r enfys trwy gyflwyno mesur i gyfyngu ar hawl tenantiaid i brynu tai cyngor mae 'na lais annisgwyl wedi mynegi gwrthwynebiad chwyrn i'r syniad.

Go brin y byddai unrhyw un yn ystyried Paul Flynn yn Thatcherwr ond ar eimae Paul yn dadlau'n gryf bod gorfodi i deuluoedd llai cefnog rhentu yn hytrach na phrynu eu tai yn gosb ariannol arnynt ac yn cynyddu'r gagendor rhwng y mwyaf anghenus a gweddill cymdeithas. Yr hyn a ddylai pery pryder mawr i Lafur y cynulliad yw'r rhybudd yma.

"There is likely to be a major rift between politicians in parliament and in the assembly if any proposal to drop the 鈥榬ight to buy鈥 is pushed.
Because there is no immediate solution at hand, it鈥檚 foolish to choose an easy but damaging one."

A allai mesur a gynlluniwyd yn rannol i achosi rhaniadau rhwng y gwrthbleidiau arwain at hollt o fewn Llafur? Mae'n ymddangos bod hynny'n bosib.

Claude Rains y Cyfryngau

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Wrth gyflwyno ei raglen ddeddfwriaethol ddoe cyfaddefodd Rhodri Morgan fod y llywodraeth wedi methu argyhoeddi'r etholwyr o rinweddau'r cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty Cymru. Roedd pawb yn derbyn meddai bod yn rhaid i'r gwasanaeth newid y dasg oedd darbwyllo'r cyhoedd bod y newid hwnnw yn newid er gwell. A phwy mae Rhodri wedi penodi i ddarbwyllo pobol Cymru o hynny? Wel, gweinidog sy'n ddiharebol o amharod i ymddangos ar y cyfryngau neu siarad 芒 newyddiadurwyr!

Nawr yn 么l pob son gan weision sifil a 'i chyd-wleidyddion mae Edwina Hart yn weinidog hynod effeithiol a gweithgar gan dorri trwy fiwrocratiaeth a sicrh芒i bod cynlluniau yn cael eu gwireddu. Digon teg. Ond mae perswadio Edwina i ymddangos gerbron camera neu mewn cynhadledd newyddion fel tynnu gwaed o garreg. Haws, dybiwn i, fyddai perswadio Peter Doherty i droi'n efengylwr na darbwyllo Edwina i ymddangos mewn stiwdio!

Sut felly y bydd Edwina yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd o werth unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth iechyd? Trwy lythyr? Trwy gnocio ar eu drysau...neu trwy ddibynnu ar ei dirprwy, Gwenda Thomas?

Llanast llythyrau

Vaughan Roderick | 16:10, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Am y tro cyntaf fe ddyfynnwyd o'r blog yma ar lawr y cynulliad heddiw! Dyfynnodd Ieuan Wyn Jones o'r post blaenorol (Rhaglen Rhodri) i geisio profi bod y llywodraeth wedi rhyddhau cynnwys llythyrau Rhodri Morgan iddo ef a Mike German i'r wasg cyn i arweinwyr y gwrthbleidiau eu derbyn. Dw i'n dweud dim ond gan fod y post hwnnw wedi sgwennu am ddau o'r gloch dwy awr ar ol i'r ddadl gychwyn dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth wedi ei brofi!

Serch hynny mae cynnwys y llythyrau yn ddiddorol.

Yn ei lythyr i Mike German mae Rhodri Morgan yn cynnig cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid i'r Democratiaid Rhyddfrydol gan awgrymu y gallai'r pwyllgor hwnnw gynnal ymchwiliad i fformiwla Barnett.

Yn ei lythyr i Ieuan Wyn Jones mae Rhodri yn awgrymu sefydlu pwyllgor o bedwar aelod seneddol a chynulliad o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru i baratoi ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad. Mae e hefyd yn cynnig cynnal cyfarfod wythnosol ffurfiol ac arweinydd y Blaid i drafod busnes y cynulliad.

Mae'r ddau lythyr hefyd yn cynnwys addewid i rewi, i bob pwrpas, y broses o adrefnu ysbytai Cymru ac i ail-feddwl yngl欧n 芒'r cynlluniau.

Mae llythyrau Mike ac Ieuan yn dri thudalen o hyd. Fe dderbyniodd Nick Bourne lythyr hefyd. Llythyr deg llinell oedd honno yn addo llais iddo mewn penodiadau cyhoeddus.

Rhaglen Rhodri

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Fe fydd manylion rhaglen ddeddfwriaethol Rhodri Morgan yn ymddangos ar dudalennau newyddion "Cymru'r Byd". Gwn芒i ddim eu hail-adrodd yn fan hyn felly ond mae'n amlwg bod y datganiad wedi ei lunio yn unswydd i geisio sicrh芒i parhad y llywodraeth leiafrifol.

Efallai mai'r cyhoeddiad pwysicaf oedd un a gafwyd mewn llythyrau a ddanfonwyd gan y llywodraeth at Ieuan Wyn Jones a Mike German. I bob pwrpas mae'r llywodraeth wedi rhewi'r cynlluniau i ad-drefnu ysbytai Cymru, y cynllun wnaeth cymaint o niwed i Lafur yn yr etholiadau. Roedd hynny i'w ddisgwyl. Fe fyddai bwrw ymlaen a'r cynllun yn cyfateb i hunanladdiad gwleidyddol gan roi rheswm amlwg a phoblogaidd i'r gwrthbleidiau ddymchwel y llywodraeth.

Mae'r materion deddfwriaethol fydd yn cael eu trafod cyn yr haf yn rhai lle mae 'na gryn dipyn o gonsensws yn barod. Mae mesurau mwy dadleuol fel mesur iaith yn annhebyg o gyrraedd y siambr cyn yr hydref.

Er bod y datganiad yn amlwg wedi ei lunio i geisio plesio Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol does 'na ddim arwydd bod brwdfrydedd y pleidiau hynny tuag at y syniad o lywodraeth enfys yn pylu. Roedd hi'n gwbwl amlwg yn ddadl bod arweinwyr y gwrthbleidiau yn cydlynu eu tactegau. Fe fydd yr wythnosau o hyn tan wyliau'r haf yn wythnosau hir a pheryglus i Lafur

Cyfle i'r Gymraeg

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Mae hi wedi bod yn ddeufis hir! Heddiw mewn gwirionedd yw'r diwrnod cyntaf i ni ddychwelyd at y drefn waith arferol yn y bai ond rhiw sesiwn fach gwta fydd eisteddiad y cynulliad heddiw gyda'r aelodau yn cael clywed pa fesurau deddfwriaethol y mae llywodraeth Rhodri Morgan yn gobeithio eu cyflwyno. Fe fyddwn yn gwybod y cyfan ymhen ychydig oriau does dim lawer o bwrpas felly mewn ceisio proffwydo'r cynnwys yn fan hyn.

Serch hynny mae un peth yn werth ei nodi dw i'n meddwl sef bod canlyniadau'r etholiad a'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi creu deinamig gwleidyddol hynod o ffafriol o safbwynt y Gymraeg. Gyda'r llywodraeth Lafur yn byw ar gardod Plaid Cymru dw i'n disgwyl addewidion mawr gan Lafur yn ystod y dyddiau ac wythnosau nesaf ynghylch addysg Gymraeg, tai fforddiadwy yn yr ardaloedd gwledig ac o bosib rhiw fath o fesur iaith.

Dw 'n synhwyro bod y drws bellach yn agored i grwpiau ymgyrchu a fu'n curo eu pennau yn erbyn muriau ers blynyddoedd. O weithredu'n gyflym ac yn gall mae 'na gyfle euraidd yn fan hyn.

Diwrnod mawr Dafydd El

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Mawrth, 5 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Dw i ddim yn un am seremon茂au na defodau. Mae pabell y cymdeithasau yn llawer mwy difyr na chylch yr orsedd. Fe wn芒i adael y disgrifiadau o ddefodau heddiw i eraill ac os ydych chi eisiau manylion gwisgoedd y Frenhines, y Dduges neu'r Llywydd nid fan hyn yw'r lle i edrych.

O son am Dafydd El roedd aelod Dwyfor Meirionnydd ar ben ei ddigon yn crwydro o un cyfweliad i'r nesafl yn y senedd y bore 'ma er ei fod yn poeni ei fod wedi bod "braidd yn nashi" ar y Post Cyntaf wrth gymharu鈥檙 cynulliad a llysoedd tywysogion Gwynedd.

Mewn sawl ffordd diwrnod Dafydd yn hytrach na diwrnod y Frenhines yw heddiw. O'r cychwyn mae'r Llywydd wedi ceisio sicrh芒i cymaint o rwysg ac urddas a phosib i'r cynulliad.

Mae 'na rai sy'n feirniadol o hynny gan amau mae hunan bwysigrwydd a hoffter o hob-nobio sydd wrth wraidd yr hyn y mae'n ceisio gwneud. Mae hynny'n annheg. Beth bynnag yw'ch barn chi ohono fe mae Dafydd yn wleidydd craff a hynod brofiadol. O'r cychwyn mae wedi bwrw ati yn gwbwl fwriadol i wisgo cynulliad mewn dillad senedd, i guddio gwendid setliad 1999 o dan fantell o ddefod.

Ei obaith oedd y byddai gwneud hynny yn creu disgwyliadau yng Nghymru a fyddai yn eu tro yn arwain at gynyddu pwerau'r cynulliad ac y byddai corff sy'n cwrdd mewn adeilad a elwir yn senedd yn hawlio pwerau seneddol.

Fe ddaw'r diwrnod hwnnw gam yn nes heddiw. Does dim rhyfedd bod Dafydd El yn gwenu.

Gwylio'r Agoriad

Vaughan Roderick | 17:11, Dydd Llun, 4 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

I bobol sy'n dymuno gwylio a gwrando ar yr agoriad brenhinol dyma amseroedd rhaglenni arbennig 麻豆约拍 Cymru yfory.

S4C/S4C2 10.30-12.00
Radio Cymru 10.30-12.00
麻豆约拍1 10.30-12.15
Radio Wales 10.00-12.00

Hyd y gwn i does na ddim darllediad byw o brotest y ddwy aelod sy'n cadw draw o'r agoriad ond mae 'na gefnogaeth iddyn nhw gyda Claire Rayner a Benjamin Zephaniah ymhlith y rhai sydd wedi danfon negeseuon yn eu cyfarch.

Geiriau o'r Gadeirlan

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Llun, 4 Mehefin 2007

Sylwadau (4)

Mae'n harchesgobion wedi bod wrthi eto. Dyma Barry Morgan heddiw yntra roeddwrthi dros y Sul yn mynnu na ddylai gwleidyddion sy'n cefnogi erthylu gymryd cymun yn yr Eglwys Gatholig.

Nawr mae rhai, fel , yn gweld gwahaniaeth rhwng y ddau ddatganiad gyda'r Archesgob Anglicanaidd ond yn datgan barn wrth i'r un Catholig ddefnyddio rhiw fath o flacmel ysbrydol yn erbyn gwleidyddion.

Efallai bod 'na elfen o wirionedd yn hynny ond dim ond elfen. Mae鈥檙 "hawl i fywyd" yn rhan ganolog o'r ffydd Gatholig. Onid yw hi'n ddigon rhesymol i Archesgob ofyn i aelodau'r Eglwys ystyried ei sefyllfa os na fedrant gytuno ac un o bileri ei chred? Ac onid am bynciau moesol mawr y dydd, fel erthylu, y dylai'r Eglwys fod yn siarad yn hytrach nac am fanylion cyfundrefn ddeddfwriaethol Bae Caerdydd?

Mae'r rhain yn gwestiynau dyrys a dwi ddim yn gwybod yr atebion. Pan benodwyd Ruth Kelly yn weinidog cyfartaledd roedd hi'n ddigon teg gofyn a oedd hi, fel aelod ffyddlon o Eglwys sy'n condemnio gweithredoedd hoyw, a'r gallu neu'r awydd i sicrh芒i cyfartaledd yn y maes hwnnw. Ar y llaw arall pa fath o ffydd sydd yn cael ei gadel wrth ddrws yr eglwys? Beth yw pwrpas ffydd os nad yw hi'n dylanwadu ar fywyd a dewisiadau pob dydd y bobol sy'n ei harddel?

Am wn i, fe fyddai gwleidydd o Gristion oedd yn gwrthod gadael i'w ffydd ddylanwadu ar ei wleidyddiaeth yn agored i'r cyhuddiad y taflodd Williams Pantycelyn at Williams Llwynrhidyll;

"Mae'n rhaid bod ei gredo'n ofnadwy o s芒l,
Os oes ganddo fe gredo o gwbwl i g芒l"

Cwato rhag y Cwin

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Sadwrn, 2 Mehefin 2007

Sylwadau (13)

Fe fydd na dri pheth yn digwydd ddydd Mawrth. Fe fydd y Frenhines yn agor y cynulliad, fe fydd dwy o wleidyddion Plaid Cymru yn cynnal st峄硁t yn Abertawe ac fe fyddai i yn dathlu(?) fy mhen-blwydd yn hanner cant.

Do, ces i fy ngeni yn 1957 yn aelod o genhedlaeth oedd, ac sydd, 芒 diddordeb ysol mewn gwleidyddiaeth. Roedd hynny yn gwbwl naturiol. Wedi'r cyfan roeddwn yn tyfu i fynnu yn negawd Kennedy a Luther King, Fietnam a Phrague, Tryweryn a Chaerfyrddin. Pan oeddwn yn tancio dan oedran yn y saithdegau gwleidyddiaeth yn amlach na pheidio oedd testun y sgwrs.

Fel sy'n digwydd, chwythwyd ffrindiau llencyndod i'r pedwar gwynt. Mae'r ddau Chris (Schoen a Jones) yng Ngwynedd. Diflannodd Mike Hobbs oddi ar wyneb ddaear ac mae Jon Huggett yn filiwnydd yn yr Unol Daleithiau. Wnaeth Peter Davies ddiweddu yn Awstralia gan weithio i blaid fechan o'r enw'r Democratiaid, plaid a allai ddysgu gwers neu ddwy i rai o'n gwleidyddion yng Nghymru.

Ffurfiwyd y Democratiaid yn y saithdegau, cyfnod o lygredd yng ngwleidyddiaeth Awstralia. Ei slogan oedd "Keep the bastards honest". Doedd hi ddim yn chwennych grym yn ei rhinwedd ei hun. Y nod oedd dal y fantol rhwng y pleidiau mwy gan eu gorfodi i gadw at eu gair a gweithredu yn erbyn llygredd.

Yn hynny o beth roedd y blaid yn hynod lwyddiannus. Oherwydd y gyfundrefn etholiadol yn amlach na pheidio roedd y Democratiaid yn dal y fantol yn y Senedd (siambr uchaf Awstralia) ac yn defnyddio'i dylanwad i gymedroli rhwng chwith a de.

Cwympodd y cyfan yn ddarnau oherwydd ffrae wleidyddol a phersonol rhwng dwy seneddwraig y blaid o Dde Awstralia Meg Lees a Natasha Stott Despoja. Pan oedd Meg yn arweinydd y blaid fe'i tanseiliwyd gan Natasha. Pan ddyrchafwyd Natasha i'r arweinyddiaeth fe wnaeth Meg ei dinistrio.

Nawr, dwi i'n nabod Meg yn dda ac wedi cwrdd 芒 Natasha ambell i waith felly fe wn芒i ddim dweud gormod am y frwydr bersonol dim ond nodi ei bod yn brawf pendant nad yw cael rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn arwain yn anorfod at fath newydd o wleidydda cynhwysol. Y ffrae wleidyddol sy'n ddiddorol. Roedd Meg yn mynnu bod yn rhaid i'r Blaid bod yr un mor barod i ddelio a phleidiau'r dde ac oedd hi a phleidiau'r chwith. Roedd Natasha yn ffafrio Llafur a'r Gwyrddion- pleidiau oedd "yn rhannu'r un gwerthoedd sylfaenol".

Roedd Natasha wedi ei hethol i'r senedd yn 24 oed ac yn 么l Meg doedd hi ddim wedi dysgu gwersi bywyd. Gwleidyddiaeth myfyrwyr oedd ei gwleidyddiaeth hi lle'r oedd profi pwynt i'w ffrindiau yn bwysicach na sicrh芒i鈥檙 dylanwad i newid bywydau er gwell.

Ddydd Mawrth fe fydd 58 o aelodau'r cynulliad yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer agoriad brenhinol y cynulliad. Mae Bethan Jenkins a Leanne Wood wedi gwahodd y camer芒u i'w ffilmio yn ymweld 芒'r digartref yn Abertawe. Pwy, yn eich barn chi, sy'n gwneud y peth iawn?

Tesco a'r Taliban

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Sadwrn, 2 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Y tro diwethaf yr oeddwn draw yn ymweld 芒 theulu fy mhartner ym Malaysia roedd pawb wedi eu cyffroi'n lan.

Hen le digon bach yw Batu Laut, y pentref lle maen nhw'n byw. Mae yno riw gant o dai a thyddynnod, mosg, ysgol, hanner dwsin o siopau a chaffi. Does dim byd byth yn digwydd yn Batu Laut (wel, ac eithrio un tro pan lwyddodd python i lyncu hwch feichiog... fe aeth y lluniau yna o gwmpas y byd) ond y tro hwn roedd rhywbeth mawr wedi digwydd yn Banting, y dref agosaf. Cyn cael gwneud dim byd arall rhaid oedd mynd i weld y rhyfeddod newydd.

Rhyfeddod oedd hi hefyd, reit wrth ymyl y farchnad, mor annisgwyl i'w gweld, ond eto mor gyfarwydd. Y streipiau glas, y llythrennau coch a'r croeso ". Doeddwn i ddim yn gwybod p鈥檜n ai chwerthin ai llefain oedd orau. Ydy, mae cwmni Tesco wedi cyrraedd pellafion y dwyrain pell gan ddod a'r "value range" a "Tesco Finest" i ganol y jyngl. Mae 'na wahaniaethau wrth gwrs. Dyw siopau Tesco Cymru ddim yn gwerthu pysgod a chrancod byw a does dim rhaid mynd trwy ddrws bach yr "European Delicatessen" i brynu cig moch a chwrw.

Nawr mae'n hawdd iawn bod yn snobyddlyd a nawddoglyd am y globaleiddio yma. Mae'n ffasiynol bron i gredu na ddylai pobol eraill fwynhau'r un cyfleustra a ni. Gwell yw cadw'r diwylliant brodorol pur er mwyn i ni, yn ein tro, fynd i syllu ar y diwylliant hwnnw fel twristiaid.

Yn bersonol does gen i ddim byd yn erbyn Tesco Banting er fy mod yn amau am faint y bydd yr hanner dwsin o siopau yn Batu Laut yn para yng nghysgod eu cymydog newydd.

Ac efallai bod Tesco yn fath ar genhadwr mewn gwlad sydd, yn fy nhyb i yn allweddol i ddyfodol y berthynas rhwng y byd gorllewinol a'r byd Mwslimaidd. Mae cyfansoddiad Malaysia yn gwarantu rhyddid crefyddol ac mae Eglwysi Cristnogol a Themlau Hindiwiaeth a Bwdistiaeth yn olygfeydd cyffredin. Ond Islam yw crefydd y mwyafrif (o drwch blewyn) a hi yw'r grefydd swyddogol. Mae'r cerdyn adnabod mae pawb yn gorfod cario (yr IDC) yn nodi p鈥檜n ai ydy rhyw un yn Fwslim ai peidio.

Mae beth sydd ar eich cerdyn chi yn allweddol i fywyd pob dydd. Dyw'r Mwslimiaid, er enghraifft, ddim yn cael mynediad i'r "European Delicatessen" a llysoedd sharia sy'n delio a'u materion teuluol a sifil nhw tra bod llysoedd y wladwriaeth yn delio a phawb arall. Does 'na ddim hawl gadael y ffydd chwaith. Yr wythnos hon yr hawl i wraig oedd wedi ymuno ag Eglwys Gristnogol i newid y disgrifiad ar ei cherdyn. Penderfyniad ei rhieni adeg ei gennu a'i chofrestri oedd yn cyfri nid ei safbwyntiau hi.

Fel ym mhob man arall mae arian a chenhadon ceidwadol yr Arabiaid wedi dylanwadu ar y ffydd ym Malaysia. Ugain mlynedd yn 么l roedd hi'n anarferol iawn i ferched a gwragedd Mwslimaidd orchuddio eu gwallt- nawr mae bron pob un ohonynt yn gwneud. Does neb yn eu gorfodi ond dyna yw'r ffasiwn bellach, ffasiwn sydd wedi cyrraedd o wledydd llawer mwy ceidwadol eu ffydd.

A dyma'r eironi efallai. Ar yr union adeg y mae pobol Batu Laut yn dechrau prynu eu bwyd yn Tesco mae rhai o'u harweinwyr crefyddol yn dechrau pregethu diwinyddiaeth geidwadol hen-ffasiwn sy'n estron i draddodiadau cymhedrol y wlad. Mae'n frwydr rhwng moderniaeth a'r rheini sydd am ddychwelyd i ryw rith-fyd canoloesol. Am unwaith mae hon yn frwydr dw i eisiau i Tesco ei hennill.

Byddwch barod i wylltio (2)

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 1 Mehefin 2007

Sylwadau (3)


Nid Mr. Parris yw'r unig ddyn anhapus. Mae Simon Jenkins am hefyd.

"Wales's Labour administration under Rhodri Morgan has been much the same. It is proto-nationalist in all but name, denying affinity to its London parent and buying the Plaid Cymru ticket on everything from broadcasting to bloated public payrolls. It has backed Welsh language and culture, but neither Morgan nor his nationalist rivals have shown concern for such emblems of Welsh nationhood as its landscape and coastline or its historic houses towns and villages, or even its chapels... I have no doubt that if Birmingham and Liverpool proposed to flood Welsh valleys for cash today, as they did in the 19th and early 20th centuries, the Welsh assembly would ask simply, how much?"

Tactegau Rhodri

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Gwener, 1 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Roeddwn yn hanner cellwair ddoe pan ddisgrifiais swydd newydd Carwyn Jones fel "gweinidog plesio Plaid Cymru" ond mae 'na elfen o wirionedd yn y peth. Wrth graffu'n fwy manwl ar benodiadau Rhodri a'r hyn sydd i'w glywed o gwmpas y senedd mae'n bosib synhwyro'r strategaeth wleidyddol y mae Llafur yn ei dilyn i geisio aros mewn grym.

Er bod Rhodri wedi datgan ei fod yn bwriadu ceisio estyn allan i bobol flaengar o fewn Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'n amlwg mae o rengoedd y Cenedlaetholwyr y mae'n gobeithio cael ei gynhaliaeth am y misoedd cyntaf o leiaf.

Gadewch i ni edrych ar y tymor byr i ddechrau. Wrth i'r i'r gwrthbleidiau chwilio am reswm/esgus i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder mae 'na dri phwnc amlwg yn cynnig eu hun sef mesur iaith, ad-drefnu gwasanaethau ysbyty a llunio cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae'r tri gweinidog fydd yn gofalu am y pynciau hynny Carwyn Jones, Edwina Hart a Jane Hutt i gyd yn weinidogion sydd ar delerau da a Phlaid Cymru ac ymhlith yr aelodau Llafur oedd yn fwyaf agored i ddelio a 'r Blaid yn hytrach na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil yr etholiad.

Fe fydd mesur iaith, yn enwedig un sy'n ymwneud a'r sector breifat yn peri problemau i Lafur. Does 'na ddim sicrwydd y byddai'r adran diwydiant yn Llundain yn cyd-synio a mesur o'r fath. Y broblem yw hyn. Tra bod yr Iaith fel pwnc yn ddatganoledig dyw'r rhan fwyaf o reoliadau busnes ddim. Mae'n gwestiwn cyfansoddiadol a chyfreithiol agored p鈥檜n ai oes gan San Steffan yr hawl i drosglwyddo pwerau yn y maes o dan Fesur Llywodraeth Cymru.

Ond beth pe bai Carwyn wrth wisgo ei het ddiwylliant yn cynnig mesur iaith cyfyngedig ond hefyd yn cynnig strategaeth addysg Cymraeg cenedlaethol wrth wisgo ei het addysg? A fyddai hynny'n prynu amser i'r llywodraeth?

Fe fydd Edwina a Jane hefyd yn ceisio cyrraedd consensws a Phlaid Cymru. Ac eithrio mewn ambell ardal megis Gwent dw i'n rhagweld y bydd y llywodraeth yn cychwyn o'r cychwyn cyn belled ac mae'r ysbytai yn y cwestiwn ac fe ddylai cytundeb ar y gyllideb fod yn bosib os (ac mae'n "os" fawr) ydy Plaid Cymru'n dymuno hynny.

Byw o law i geg ac o ddydd i ddydd fydd y llywodraeth wrth ddelio a Phlaid Cymru. Yn y tymor hir fe fydd Llafur yn gobeithio adfywio'r syniad o glymblaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y seddi gweigion wrth fwrdd y cabinet. Ond fe fydd hi'n flwyddyn o leiaf cyn i'r posibilrwydd hwnnw ail-ymddangos.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.