ΒιΆΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Yr ornest nesaf

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Sadwrn, 30 Mehefin 2007


Dyw is-etholiadau seneddol ddim yr hyn oedden nhw. Roedd na gyfnod pan oedd y digwyddiadau rhyfedd yma'n cael eu trin a'r pwys mwyaf. Fe fyddai na erthyglau ac eitemau teledu dirifedi yn croniclo'r ymgyrchoedd a β€œNewsnight Special” yn darlledu am oriau lawer nes cael y canlyniad.

Roedd teledu Cymraeg yr un fath. Roedd hyd yn oed yr is-etholiad mwyaf dibwys Gwyr, dyweder, neu Castell Nedd yn haeddu ei adroddiadau dyddiol a'i raglen ganlyniadau.

Dw i ddim yn cofio faint o is-etholiadau dw i wedi gohebu arnyn nhw ar hyd y blynyddoedd ond mae rhai yn aros yn y cof yn fwy na'i gilydd. Roedd Govan (ddwy waith) , Newbury a Christchurch yn lot o sbort. Dw i'n cofio fawr ddim am Langbaurgh, Epping na Walton.

Dyw is-etholiadau ddim yn cael yr un sylw heddiw. Ar y cyfan mae'r arolygon yn rhoi gwell pictiwr o'r hyn sy'n digwydd. Yn aml iawn mae is-etholiadau yn eithriad yn hytrach nac enghraifft.

Cymerwch fel esiampl y ddau is etholiad a gynhaliwyd ym Mehefin y llynedd. Doedd saga ryfedd Blaenau Gwent yn dweud fawr ddim am y sefyllfa wleidyddol fwy eang ac yn Bromley a Chiselhurst fe ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o fewn y dim i gipio sedd geidwadol yn gwbwl groes i'r patrwm a gafwyd mewn etholiadau eraill y flwyddyn honno.

Roedd y rheswm am ganlyniad Bromley yn ddigon amlwg. Fe heidiodd cannoedd o Ddemocratiaid Rhyddfrydol o bedwar ban byd i'r etholaeth gan ddosbarthu dros filiwn o daflenni yn y mis cyn y bleidlais.

Mae is-etholiadau llawer yn bwysicach i'r Democratiaid Rhyddfrydol na'r pleidiau eraill. Mae nifer o'u cadarnleoedd yn seddi a enillwyd yn gyntaf mewn is-etholiadau ac mae buddugoliaethau o'r fath yn fodd i'r Blaid ennill cyhoeddusrwydd a momentwm gwerthfawr.

Mae Llafur wedi symud yn rhyfeddol o gyflym wrth alw'r ddau is etholiad yn Ealing Southall a Sedgefield. Gyda llai na thair wythnos i fynd dyw Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim hyn yn oed wedi dewis ymgeiswyr eto. Yn wir y TorΓ―aid, o bawb, oedd y cyntaf i adael y marc yn Southall trwy ddewis (nad oedd hyd yn oed yn aelod o'r blaid) fel ymgeisydd.

Mewn cyfnod anodd a stormus i'r blaid mae'n hynod bwysig i'r Democratiaid Rhyddfrydol llwyddo yn o leiaf un o'r ddwy ornest. Eisoes mae eu peiriant etholiadol wedi dechrau tanio.

Southall dybiwn i yw'r gobaith gorau. Trwy gyd-ddigwyddiad roeddwn yno ychydig wythnosau yn Γ΄l ac mae'n etholaeth unigryw.

Mae dros hanner yr etholwyr yn aelodau o leiafrifoedd ethnig. Dyw hynny ddim mor anarferol a hynny. Yr hyn sydd yn anarferol yw bod y mwyafrif llethol yn perthyn i'r un lleiafrif ethnig sef pobol o dras De Asiaidd. Mae'r canran uchel o drigolion Southall yn a'u gwreiddiau yn y Punjab ac mae'n anodd proffwydo cyfeiriad eu pleidlais.

Gallai Kashmir, er engraifft, brofi'n bwysicach na Rhyfel Irac yn Southall ac fe fydd dewis ymgeisydd addas yn hynod bwysig.

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²΅΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

ΒιΆΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r ΒιΆΉΤΌΕΔ

ΒιΆΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.