Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

AAAGGGHHH!

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Llun, 25 Mehefin 2007

Mae aelodau grŵp Plaid Cymru wedi gohirio eu cyfarfod allweddol i drafod clymblaid tan Ddydd Mercher. Y rheswm fwyaf tebygol am hynny yw eu bod am sicrhâi addewidion pellach gan gyfarfod pwyllgor gwaith Llafur nos yfory.

O edrych ar y fathemateg mae'n ymddangos i mi fod saith o aelodau'r Blaid yn gadarn o blaid coch/gwyrdd sef Helen Mary Jones, Bethan Jenkins, Nerys Evans, Leanne Wood, Dafydd Elis Thomas, Rhodri Glyn Thomas a Jocelyn Davies . Mae 'na bedwar o enfyswyr pybyr sef Gareth Jones, Chris Franks, Dai Lloyd, Janet Ryder.

Mae'r cyfan felly yn dibynnu ar Mohammed Ashgar, Alun Ffred Jones, Elin Jones ac wrth gwrs y dyn ei hun Ieuan Wyn Jones.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:13 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Diolch am y brêc down yna o pwy sy'n pledio be yn grŵp Plaid. Oes gen ti unrhyw syniad i ba garfan ma big hitters (nad sy'n AC's) eraill yn perthyn iddynt? Dy ni'n gwbod lle ma Jill Evans yn sefydd ond be am...

    Yr Aelodau Seneddol? Dafydd Iwan? Dafydd Wigely? John Dixon? Dafydd Trystan? Owen John Thomas?

    Fyny yma yn y 'fro' mae'r aelodau Iau (Cymru X, sydd os y tro pob cynrychiolydd lan a sawl pleidlais yn y Cyngor Cenedlaethol) dal yn rhoi ffydd i'r Enfys - ond amwni fod hwna yn cael ei balansio off gan aelodau Cymru X yn y de sy'n deyrngar i Bethan Jenkins.

    Diddorol...

  • 2. Am 17:48 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bwbach:

    Sut all gwr ar yr asgell dde fel Dai Lloyd ddewis clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.