Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wyn yn ymddeol

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Mae'n ddiwrnod o ymadawiadau!

Mae'r Arglwydd (Wyn) Roberts o Gonwy wedi cyhoeddi ei fod am roi'r gorau i wasanaethu fel llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi. Fe fu Wyn yn llefarydd Cymreig i'w blaid am dros ddeng mlynedd ar hugain sy'n record seneddol. Ef oedd yr unig weinidog i wasanaethu yn yr un adran trwy gydol llywodraethau Margaret Thatcher a John Major.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:11 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Daran:

    Dim cweit trwy llywodraeth Major i gyd. Rwy'n credu ymddiswyddodd tua 1994.

    Ond mae ei gyfnod o wasanaeth cyhoeddus yn anhygoel.

  • 2. Am 19:53 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand:

    Bechod fod o wedi penderfynu mynd heddiw gan y bydd yr holl firi yn Llundain ac yng Nghaerdydd yn golygu na chaiff ei gyfraniad ei bwyso a mesur i'r graddau y mae'n ei haeddu. Ffigwr cymhleth, diddorol a gwirioneddol ddylanwadol.

  • 3. Am 20:36 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Richard,

    Fe wnaeth Wyn ddewis ei ddiwrnod yn fwriadol. Doedd e ddim eisiau unrhyw ffwdan mae'n debyg. Gobeithio y bydd S4C yn ail-ddarlledu y gyfres hynod amdano yn y dyfodol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.