Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfle i'r Gymraeg

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2007

Mae hi wedi bod yn ddeufis hir! Heddiw mewn gwirionedd yw'r diwrnod cyntaf i ni ddychwelyd at y drefn waith arferol yn y bai ond rhiw sesiwn fach gwta fydd eisteddiad y cynulliad heddiw gyda'r aelodau yn cael clywed pa fesurau deddfwriaethol y mae llywodraeth Rhodri Morgan yn gobeithio eu cyflwyno. Fe fyddwn yn gwybod y cyfan ymhen ychydig oriau does dim lawer o bwrpas felly mewn ceisio proffwydo'r cynnwys yn fan hyn.

Serch hynny mae un peth yn werth ei nodi dw i'n meddwl sef bod canlyniadau'r etholiad a'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi creu deinamig gwleidyddol hynod o ffafriol o safbwynt y Gymraeg. Gyda'r llywodraeth Lafur yn byw ar gardod Plaid Cymru dw i'n disgwyl addewidion mawr gan Lafur yn ystod y dyddiau ac wythnosau nesaf ynghylch addysg Gymraeg, tai fforddiadwy yn yr ardaloedd gwledig ac o bosib rhiw fath o fesur iaith.

Dw 'n synhwyro bod y drws bellach yn agored i grwpiau ymgyrchu a fu'n curo eu pennau yn erbyn muriau ers blynyddoedd. O weithredu'n gyflym ac yn gall mae 'na gyfle euraidd yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:22 ar 6 Mehefin 2007, ysgrifennodd Daran:

    "Dw 'n synhwyro bod y drws bellach yn agored i grwpiau ymgyrchu a fu'n curo eu pennau yn erbyn muriau ers blynyddoedd. O weithredu'n gyflym ac yn gall mae 'na gyfle euraidd yn fan hyn."

    Ti'n swnio fel lobiydd nawr, ond mae'r pwynt yn un dda ac un sydd heb ei anwybyddu gan gymdeithas sifig Cymru.

    Dim siawns fynd nol at yr "oversized crab claws" nawr. Mae'r deu fis diwethaf ond yn gosod patrwm o "high stakes" yng nghasino'r Cynulliad o hyn ymlaen.

    Penblwydd hapus (hwyr) gyda llaw.

  • 2. Am 12:59 ar 6 Mehefin 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Ar ol i Ruth Kelly ddeud fod angen diwrnod i ddathlu Prydeindod, dwi'n meddwl ei bod hi'n amser da i bwsio i gael Dydd Gwyl Dewi fel gwyliau yng Nghymru. Ond ar ol deud hynny ges ddim ryw ymateb ffafriol iawn gan Rhif 10 i'r ddeiseb i'r Prif Weinidog i gael gwyliau ar y 1af o Fawrth.

  • 3. Am 13:24 ar 6 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Efallai - Mae rhaid i Rhodri rheoli rhaniadau ei Blaid ei hun wrth gwrs hefyd. Beth buasai'n dda buasai deddf iaith yn gorfodi dwyieithrwydd ar y sector breifat, labeli ar gynnyrch ee - ceisio normaleiddio cymdeithas ddwyieithog...........Agenda yn ddidorol ar fformiwla Barnett - rwy'n cofio gwrando ar Phil Williams am ddwy awr yn ceisio egluro imi sut mae'n gweithio...cofio'r achlysur ond dim y cynnwys...oes yna wefan sy'n rhoi eglurhad ?

    A Vaughan, ti'n cael gwneud un cwis yr wythnos !!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.