Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Meddwl am Mike

Vaughan Roderick | 15:33, Dydd Iau, 14 Mehefin 2007

Wrth grwydro'r senedd heddiw roedd hi'n rhyfeddol gweld cymaint o'n gwleidyddion mewn hwyliau da. Efallai bod gwybod y bydd na derfyn ar yr holl helynt cyn gwyliau'r haf yn donic i bawb ond mae na resymau eraill i aelodau tair o'r pedair plaid fod yn llon eu byd.

O safbwynt Llafur mae'n ymddangos bod dihangfa wyrthiol yn bosib, gall aelodau Plaid Cymru fod yn sicr y byddant mewn llywodraeth o fewn ychydig wythnosau tra bod y Torïaid yn saff o fod yn rhan o lywodraeth neu'n brif wrthblaid.

Mae hynny'n gadael y Democratiaid Rhyddfrydol. Beth sy'n wynebu nhw fel Plaid? Blynyddoedd yn yr oerfel o bosib, gyda thair o'u pedair sedd o dan fygythiad yn yr etholiad cyffredinol. Mae ei seren ifanc Kirsty Williams wedi pechu rhannau helaeth o'r blaid ac yn annhebyg o esgyn i'r arweinyddiaeth a mae ei harweinydd presennol yn y penawdau yn gyson am y rhesymau anghywir.

Fe fydd na fawr ddim cydymdeimlad gan y pleidiau eraill sy'n beio'r Democratiaid Rhyddfrydol am wneud llanast o'r broses o ffurfio llywodraeth ond oes 'na unrhyw beth y gall y blaid ei hun wneud i osgoi pedai blynedd arall fel gwrthblaid ymylol?

Does bosib. Na. Dw i'n gwrthod hyd yn oed meddwl am y peth. Byse hynny byth yn digwydd.

Ond beth os oedd Mike German yn codi'r ffon i Rhodri?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:49 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd Gasyth:

    Dwi wedi bod yn meddwl ers dyddiau mai hwn fydd y twist ola yn y stori. Bydd Llafur wedi chwalu'r enfys drwy swyno Plaid a deffro cenfigen y Libs yn y broses. Byddai cytundeb efo'r Libs yn llawer 'rhatach' a haws ei lyncu i'r Blaid Lafur. Wedi'r cyfan, pa fantais sydd i German beidio codi'r ffon? Pa fantais i Rhodri beidio ei ateb?

  • 2. Am 16:24 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    'Dwi ddim yn meddwl rhywsut.

    Prif flaenoriaeth y Lib Dems yn y tymor canolig fydd amddiffyn eu safle mewn llywodraeth leol - yn arbennig felly yng Nghaerdydd ac Abertawe.

    I gadw eu lled reolaeth ar gynghorau fel hyn mae'n bwysig iddynt gael ei gweld fel plaid wrth Lafur.

  • 3. Am 17:18 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi pleidleisio yn erbyn y syniad, ac nid oes amser ganddyn nhw rhwng heddiw a dydd Sadwrn i newid dim

  • 4. Am 17:21 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    ti'n iawn Vaughan - 'dihangfa wyrthiol' yn wir i Lafur. Pam fod gan asgell chwith PC cymaint o ddiffyg hyder yn eu plaid eu hunain. fydd Llafur methu credu eu lwc ac yn chwerthin am ben y Blaid 'fach' am flynyddoedd i ddod.

    Plaid Cymru yn rhoi 'get out of jail card' i Rhodri Morgan eto fel gafwyd gydag Alun Michael.

    Os ddaw clymblaid Coch-Gwyrdd nid IWJ a Phlaid caiff ei diolch am ddod a Senedd go iawn i gymru ond Llafur am ei ddelifro.

    Da iawn Plaid. Dwi'n synnu fod y Libs a'r Toriaid heb pwdu gyda'r Blaid dros hyn. Gall fod yn own goal arall i Blaid Cymru wrth chwarae'r gem o fod yn gwn bach i Llafur?

  • 5. Am 04:57 ar 15 Mehefin 2007, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Ers i Charles Kennedy taro botel a colli arweiniaeth y blaid. A oes rhywun wedi cymeryd sylw difrifol ohonyn nhw.
    Mae nhw wedi colli ffordd a efallai gwaed newydd sydd eu angen ar y brig yn mhob gornel o Brydain!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.