鶹Լ

Meintiau a phellteroedd yn y gofod

Rydyn ni’n mesur diamedrau planedau mewn metrau a chilometrau.

Rydyn ni’n mesur pellteroedd rhwng y planedau a’r Haul mewn US (Unedau Seryddol).

1 US yw’r pellter cyfartalog rhwng y Ddaear a’r Haul ac mae oddeutu 150,000,000 km (neu 1.5 × 1011 m).

Edrych ar y diagram hwn. Os wyt ti’n cynnau’r tortsh, bydd y golau ohono’n teithio 9,460,730,472,580,800 metr (naw mil pedwar cant chwe deg triliwn, saith cant tri deg biliwn, pedwar cant saith deg dau miliwn, pum cant wyth deg mil, wyth cant) mewn blwyddyn. Rydyn ni’n galw’r pellter hwn yn .

Mae tortsh yn taflu pelydr o olau. Mae pen y pelydr wedi’i labelu ag ‘Ar ôl un flwyddyn’. Y pellter mae’r pelydr wedi’i deithio ar ôl un flwyddyn yw 9,460,730,472,580,800 metr neu un flwyddyn golau.
  • Un flwyddyn golau yw’r pellter mae golau’n ei deithio mewn un flwyddyn.
  • Mae buanedd golau, a phob ton electromagnetig arall, yn 300,000,000 m/s (neu 3 × 108 m/s) mewn gofod. Dyma fuanedd golau.

I gyfrifo pellter un flwyddyn golau mewn metrau mae angen lluosi:

365 diwrnod (un flwyddyn) ×

24 awr (un diwrnod) ×

60 munud (un awr) ×

60 eiliad (un munud) ×

300,000,000 m/s (buanedd golau yn y gofod).

Mae hyn i gyd yn rhoi 9.46 × 1015 m.

O’r Ddaear i -Pellter
Y Lleuad1.3 eiliad golau
Yr Haul8.3 munud golau
Alpha Centauri4.4 blwyddyn golau
Hercules Globular (M 13)25,000 blwyddyn golau
Galaeth Andromeda2.5 miliwn blwyddyn golau
O’r Ddaear i -Y Lleuad
Pellter1.3 eiliad golau
O’r Ddaear i -Yr Haul
Pellter8.3 munud golau
O’r Ddaear i -Alpha Centauri
Pellter4.4 blwyddyn golau
O’r Ddaear i -Hercules Globular (M 13)
Pellter25,000 blwyddyn golau
O’r Ddaear i -Galaeth Andromeda
Pellter2.5 miliwn blwyddyn golau

Question

Mae Alpha Centauri 4.4 blwyddyn golau oddi wrthyn ni. Alli di gyfrifo’r pellter hwn mewn metrau?

Question

Mae Galaeth Andromeda 2.5 miliwn blwyddyn golau oddi wrth y Ddaear. Pa mor hir mae’n ei gymryd i olau o’r alaeth hon gyrraedd y Ddaear?

Question

Mae’n cymryd 1.3 eiliad i olau laser sydd wedi’i danio o’r Ddaear i daro’r Lleuad. Pa mor bell i ffwrdd yw’r Lleuad?