鶹Լ

Sacco a Vanzetti

Roedd Nicola Sacco a Bartolomeo Vanzetti yn fewnfudwyr o'r Eidal. Roedd y ddau ddyn yn cydnabod eu bod yn radicaliaid a'u bod wedi osgoi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffotograff o Bartolomeo Vanzetti a Nicola Sacco wedi'u clymu â gefynnau yn y carchar
Image caption,
Bartolomeo Vanzetti a Nicola Sacco yn y carchar

Ym mis Mai 1920, cafodd Sacco a Vanzetti eu harestio a'u cyhuddo o ladrad arfog mewn ffatri esgidiau, pan gafodd swm mawr o arian ei ddwyn a lladdwyd dau berson. Roedd ganddynt bamffledi gwrth-lywodraethol radicaidd yn y car pan gawsant eu harestio a roedd y ddau yn berchen ar ynnau. Methon nhw brofi lle'r oedden nhw wedi bod ar ddiwrnod y llofruddiaethau. Roedd barn y cyhoedd yn eu herbyn o’r dechrau oherwydd eu syniadau gwleidyddol ac oherwydd eu bod nhw’n fewnfudwyr. Roedd gan y ddau ohonyn nhw ynnau pan gawson nhw eu harestio.

Er i 61 tyst ddweud iddyn nhw eu gweld, roedd gan yr amddiffyniad 107 tyst yn honni iddyn nhw eu gweld nhw yn rhywle arall ar adeg y drosedd. Yn ystod yr achos llys ym mis Mai 1921 dangosodd y Barnwr Webster Thayer ragfarn yn erbyn y ddau. Er i ddyn o'r enw Celestino Madeiros gyfaddef yn ddiweddarach mai ef gyflawnodd y drosedd, colli eu hapêl wnaeth Sacco a Vanzetti. Ym mis Awst 1927 cafodd y ddau eu lladd gan drydan yng ngharchar Charlestown.

Amlygodd yr achos hwn yr agweddau a gwahaniaethu a brofwyd gan fewnfudwyr.