鶹Լ

Tawddlestr

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd Unol Daleithiau America yn annog mewnfudo gyda . Roedden nhw'n gobeithio y byddai America'n ac y byddai'r mewnfudwyr yn weithwyr a fyddai'n gwneud y wlad yn gyfoethocach. Erbyn 1919, roedd dros 40 miliwn o bobl wedi cyrraedd. O ganlyniad, cafwyd cymysgedd o bobl o wahanol hiliau, diwylliannau a chrefyddau yn byw yn America ac yn siarad amrywiaeth o ieithoedd gwahanol.

Serch hynny, cyfrannodd mewnfudo ar raddfa fawr at rai problemau yng nghymdeithas America.

Y Drws Agored

Bwriad polisi'r Drws Agored oedd gwneud mewnfudo mor hawdd â phosibl. Roedd yna gymysgedd o bobl yn byw yn America yn ystod y cyfnod yma:

  • Yr hen fewnfudwyr
  • Yr Americanwyr Brodorol
  • Americanwyr duon
  • Ewropeaid dwyreiniol a deheuol
  • Hispaniaid
  • Pobl Asiaidd

Pam roedd pobl eisiau dod?

Roedd cyfuniad o ffactorau gwthio a thynnu yn achosi i bobl ymfudo. Roedd y ffactorau gwthio yn gwneud i bobl fod eisiau gadael eu gwlad eu hunain, a'r ffactorau tynnu yn eu denu nhw i UDA. Er enghraifft:

  • dianc o'r tlodi yn eu gwlad eu hunain
  • dianc o erledigaeth wleidyddol ac economaidd
  • addewid o oddefgarwch crefyddol a chyfle i arfer eu ffydd yn ddiogel
  • apêl digonedd o dir a'r gobaith o fod yn berchen ar eiddo
  • creu bywyd gwell
  • ymdeimlad o antur mewn gwlad oedd yn cynnig cyfle
  • cyfle cyfartal

Mewnfudwyr yn cyrraedd Ynys Ellis ger Efrog Newydd

Roedd y rhan fwyaf o'r mewnfudwyr yn cyrraedd ar longau, a mwy na 70 y cant yn glanio ar Ynys Ellis ger Efrog Newydd. Yn ystod y cyfnodau prysuraf, byddai cymaint â 5,000 person y dydd yn glanio yno. Roedd y rhan fwyaf yn ifanc - ym 1900 yr oedran cyfartalog oedd 24. Golygfa gyntaf y mewnfudwyr wrth iddyn nhw gyrraedd America ar eu ffordd i Ynys Ellis oedd y Cerflun Rhyddid/Statue of Liberty.