鶹Լ

Cyfyngu ar fynediad fewnfudwyr i America

Yn ystod 1907 cafodd 1.25 miliwn o bobl eu prosesu ar Ynys Ellis. Wrth i nifer y mewnfudwyr godi, dechreuodd rhai Americanwyr amau polisi Drws Agored y llywodraeth.

Roedd y mewnfudwyr yn draddodiadol wedi tueddu i ddod o ogledd a gorllewin Ewrop – Prydain, Iwerddon, Yr Almaen - a oedden nhw. Rhwng 1900 a 1914 cyrhaeddodd 13 miliwn, yn bennaf o dde a dwyrain Ewrop – Yr Eidal, Awstria-Hwngari, Rwsia, Gorllewin Gwlad Pwyl a Groeg.

Dechreuodd pobl ddigio wrth y mewnfudwyr 'newydd' hyn oherwydd:

  • roedden nhw'n aml yn dlawd
  • roedd llawer yn anllythrennog ac yn methu siarad Saesneg
  • roedd llawer yn Babyddion neu'n Iddewon ac yn dod o gefndir diwylliannol a chrefyddol gwahanol
  • roedd ofn Comiwnyddiaeth wedi lledaenu’n dilyn y chwyldro Bolsieficiaid ym 1917, a thrawma'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dychryn llawer o Americanwyr a chyfrannodd at y
Ffotograff o bobl Iddewig yn ciwio mewn swyddfa ar Ynys Ellis
Image caption,
Iddewon yn aros i gael eu prosesu ar Ynys Ellis

O ganlyniad, pasiodd Cyngres UDA deddfau i gyfyngu ar y mewnfudo, a phob deddf yn ei thro'n fwy llym na'r un flaenorol.

Doedd y llywodraeth ddim yn credu bod y mewnfudwyr newydd yn cyfoethogi bywyd a diwylliant UDA, ac o ganlyniad dechreuodd y drws i gau a chynyddodd ofn tuag at fewnfudwyr/.

  1. Prawf Llythrennedd, 1917 - Roedd rhaid llwyddo mewn cyfres o brofion darllen ac ysgrifennu. Roedd llawer o'r mewnfudwyr tlotach, yn enwedig y rhai o ddwyrain Ewrop, heb gael addysg ac felly'n methu'r prawf ac yn cael eu gwrthod.
  2. Deddf Cwota Argyfwng, 1921 - Roedd y ddeddf hon yn pennu uchafswm o 357,000 o fewnfudwyr y flwyddyn, ac yn gosod cwota hefyd: 3 y cant yn unig o gyfanswm poblogaeth unrhyw grŵp tramor a oedd eisoes yn UDA ym 1910 fyddai'n cael dod i mewn ar ôl 1921.
  3. Deddf Tarddiad Cenedlaethol, 1924 - Torrodd y gyfraith hon gwota mewnfudwyr i 2 y cant o'i phoblogaeth yn UDA yn 1890. Bwriad y ddeddf oedd cosbi mewnfudwyr o dde a dwyrain Ewrop. Roedd y ddeddf hefyd yn gwahardd mewnfudo o Asia a digiodd hyn gymunedau Chineaidd a Japaneaidd a oedd yn UDA yn barod.
  4. Deddf Mewnfudo, 1929 - Fe wnaeth hwn weithredu cwotâu deddf 1924 yn barhaol a chyfyngu mewnfudo i 150,000 y flwyddyn.