鶹Լ

Ai gwlad o anoddefgarwch crefyddol a hiliol oedd America?

Pwysigrwydd crefydd yn America

Yn ôl y Cyfansoddiad, mae rhyddid i Americanwyr gredu ym mha bynnag grefydd y maen nhw'n ei dewis. Daeth llawer o bobl i fyw i America am eu bod yn cael eu herlid oherwydd eu crefydd.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ceisiodd nifer o Americanwyr ceidwadol ailgydio mewn hen werthoedd. O ganlyniad, datblygodd math newydd o Gristnogaeth, sef Ffwndamentaliaeth.

Arweiniodd newidiadau cymdeithasol y 1920au at adfywiad crefyddol mawr ymysg Cristnogion ceidwadol. Nid oedden nhw'n hoffi dylanwad y sinema na jazz, na'r ffordd roedd menywod yn gwisgo ac yn ymddwyn. Roedd y gwahaniaeth rhwng diwylliant modern y ddinas a'r ardaloedd gwledig mwy traddodiadol ar gynnydd.

Roedd y Ffwndamentalwyr yn credu'n gryf ac yn llythrennol ym mhob gair yn y Beibl, ac yn roedden nhw'n ymosod ar unrhyw gred arall.

Pasiwyd deddfau yn yr ardaloedd hyn i wahardd dillad nofio byr, a gamblo ar ddydd Sul.

Americanwyr Brodorol

Roedd agweddau Americanwyr Brodorol ynglŷn â thir a pherchnogaeth yn gwbl wahanol i ddefnyddiaeth 1920au yr Unol Daleithiau.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedden nhw wedi eu gorfodi i fyw ar dir o ansawdd gwael mewn tiriogaethau penodol, a’u hannog i wrthod eu diwylliant eu hunain ac integreiddio i ddiwylliant Cristnogol gwyn y mwyafrif.

Anfonwyd plant i ysgolion preswyl i gael eu troi’n fwy gorllewinol. Cafwyd rhywfaint o gynnydd gyda Deddf Dinasyddiaeth yr India yn 1924 wrth iddyn nhw gael eu cydnabod fel dinasyddion yr Unol Daleithiau a’r hawl i bleidleisio.

Serch hynny, roedd bywyd yn parhau'n anodd gan eu bod yn aml yn:

  • un o'r grwpiau tlotaf yn y wlad
  • cael eu trin fel dinasyddion eilradd
  • dioddef anoddefgarwch hiliol
  • cael eu gwahardd yn aml iawn rhag pleidleisio, oherwydd materion fel profion llythrennedd