鶹Լ

Y Braw Coch

Cafodd yr Americanwyr eu dychryn gan y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn Hydref 1917. Sefydlwyd y Blaid Sosialaidd Americanaidd a'r Blaid Gomiwnyddol Americanaidd yn ystod y cyfnod yma. Roedd llawer o Americanwyr yn ofni bod syniadau comiwnyddol ac anarchaidd yn cael eu lledaenu. Roedden nhw'n amheus iawn o fewnfudwyr a thyfodd teimladau senoffobig.

  • Roedd yna dros 3,000 achos o streiciau diwydiannol yn 1919, gan gynnwys Heddlu Boston.
  • Tyfodd casineb a gelyniaeth tuag at y comiwnyddion yn America. Credai nifer o Americanwyr fod rhai o ddigwyddiadau 1919 a 1920 yn gysylltiedig â chomiwnyddiaeth.
  • Ym mis Mehefin 1919, dinistriodd bom flaen tŷ'r Twrnai Cyffredinol, A Mitchell Palmer, ac ym mis Medi 1920, ffrwydrodd bom ar Wall Street gan ladd 38 o bobl.

Arweiniodd y digwyddiadau hyn at y Braw Coch a'r ofn bod comiwnyddiaeth yn berygl gwirioneddol allai fygwth y ffordd o fyw yn America.

Cyrchoedd Palmer

Trefnodd Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, A Mitchell Palmer ymosodiadau yn erbyn mudiadau asgell chwith. Lledaenodd Palmer straeon am y a dywedodd fod yna gyfanswm o 150,000 o gomiwnyddion yn y wlad (0.1 y cant o'r boblogaeth).

Cafodd 6,000 eu harestio a'u cadw yn y ddalfa heb achos llys, ac alltudiwyd cannoedd ohonyn nhw. Ymateb i fygythiad dychmygol oedd cyrchoedd Palmer. Pobl heddychlon oedd mwyafrif y mewnfudwyr. Yn y pen draw cawson nhw eu rhyddhau a chiliodd y Braw Coch.