鶹Լ

Defnyddio iaith - berfau ac arddodiaidDefnyddio arddodiaid wrth ysgrifennu

Heb ferfau ni fyddai modd i ni ysgrifennu brawddegau synhwyrol gan mai berf sy'n dynodi gweithred, amser a pherson. Ond wyt ti'n deall y gwahaniaeth rhwng berf orchmynnol a berf gryno?

Part of CymraegGramadeg

Defnyddio arddodiaid wrth ysgrifennu

Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair ac enw/rhagenw.

Dyma'r arddodiaid mwyaf cyffredin:

am, ar, at, gan, dros, drwy, wrth, dan, heb, hyd, i, o.

Edrycha ar sut mae arddodiaid yn cael eu defnyddio yn y brawddegau isod.

  • Es i i'r dre ar fws wyth o'r gloch.
  • Ymddiheuriodd am beidio â dweud y gwir wrth ei gyfaill
  • Ei breuddwyd hi yw i chwarae dros Gymru.

Noda fod treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid uchod hefyd.

Os yw'r arddodiaid yn rhedadwy gallant roi gwybodaeth am y person neu'r peth maen nhw'n cyfeirio atyn nhw, ee yr arddodiad 'amdanaf fi' – gwyddwn ei fod yn cyfeirio at y person cyntaf sef 'fi'. Mae'n bwysig cofio defnyddio'r ffurfiau cywir ar gyfer arddodiaid rhedadwy.

Arnaf iArnom ni
Arnat tiArnoch chi
Arno e/Arni hiArnynt hwy/Arnyn nhw
Arnaf i
Arnom ni
Arnat ti
Arnoch chi
Arno e/Arni hi
Arnynt hwy/Arnyn nhw

Pan mae rhagenw megis 'fi', 'ti', 'ni' ayyb yn dilyn arddodiad mae angen rhedeg yr arddodiad hwnnw.

Gennyf i/gen iGennym ni
Gennyt tiGennych chi
Ganddo e/Ganddi hiGanddyn nhw
Gennyf i/gen i
Gennym ni
Gennyt ti
Gennych chi
Ganddo e/Ganddi hi
Ganddyn nhw

Ymarfer

Question

Rheda'r arddodiad 'wrth'. Dechreua gydag 'wrthof i'.