鶹Լ

Deall amseroedd y ferf

Cofia fod modd defnyddio'r ferf yn y ffordd hir (cwmpasog) neu'r ffordd fer (cryno). Mae yna hefyd wahanol amseroedd i'r ferf – presennol/dyfodol, gorffennol ac amherffaith.

Mae'r ferf gryno yn fwy ffurfiol a fel arfer defnyddio'r ferf gwmpasog a wnawn ni pan yn siarad bob dydd.

Dyma enghraifft o ferf gwmpasog.

Presennol/DyfodolGorffennolAmherffaith
Rydw i'n...Rydw i wedi...Roeddwn i'n (arfer)...
Rwyt ti'n...Rwyt ti wedi...Roeddet ti'n...
Mae e/hi'n...Mae e/hi wedi...Roedd e/hi...
Rydyn ni'n...Rydyn ni wedi...Roedden ni'n...
Rydych chi'n...Rydych chi wedi...Roeddech chi'n...
Maen nhw...Maen nhw wedi...Roedden nhw'n...
Presennol/DyfodolRydw i'n...
GorffennolRydw i wedi...
AmherffaithRoeddwn i'n (arfer)...
Presennol/DyfodolRwyt ti'n...
GorffennolRwyt ti wedi...
AmherffaithRoeddet ti'n...
Presennol/DyfodolMae e/hi'n...
GorffennolMae e/hi wedi...
AmherffaithRoedd e/hi...
Presennol/DyfodolRydyn ni'n...
GorffennolRydyn ni wedi...
AmherffaithRoedden ni'n...
Presennol/DyfodolRydych chi'n...
GorffennolRydych chi wedi...
AmherffaithRoeddech chi'n...
Presennol/DyfodolMaen nhw...
GorffennolMaen nhw wedi...
AmherffaithRoedden nhw'n...

Dyma enghraifft o ferf gryno.

Presennol/DyfodolGorffennolAmherffaith
Prynaf iPrynais iPrynwn i
Pryni diPrynaist tiPrynet ti
Pryniff e/hi neu Prynith e/hiPrynodd e/hiPrynai e/hi
Prynwn niPrynasom niPrynem ni
Prynwch chiPrynasoch chiPrynech chi
Prynant hwyPrynasant hwyPrynent hwy
Presennol/DyfodolPrynaf i
GorffennolPrynais i
AmherffaithPrynwn i
Presennol/DyfodolPryni di
GorffennolPrynaist ti
AmherffaithPrynet ti
Presennol/DyfodolPryniff e/hi neu Prynith e/hi
GorffennolPrynodd e/hi
AmherffaithPrynai e/hi
Presennol/DyfodolPrynwn ni
GorffennolPrynasom ni
AmherffaithPrynem ni
Presennol/DyfodolPrynwch chi
GorffennolPrynasoch chi
AmherffaithPrynech chi
Presennol/DyfodolPrynant hwy
GorffennolPrynasant hwy
AmherffaithPrynent hwy

Mae'n ddigon cyffredin cael trafferth gyda'r ferf gryno – os wyt ti mewn penbleth ceisia feddwl am ffurf gwmpasog (hir) y ferf.

Question

Beth sydd o'i le yn yr enghraifft ganlynol?

Canodd fy chwaer mewn bandiau amrywiol ers talwm.

Ymarfer

Question

Ysgrifenna ffurf gwmpasog 'canu' yn y presennol a ffurf gryno'r ferf yn y gorffennol. Mae'r enghraifft gyntaf wedi'ei gwblhau i ti:

CwmpasogCryno
Rydw i'n canuCanais i
CwmpasogRydw i'n canu
CrynoCanais i