鶹Լ

Pryd mae berfau'n treiglo?

Cofia fod gwrthrych berf yn treiglo'n feddal.

BrawddegGwrthrych
Ysgrifennodd y doctor lythyr.llythyr
Cafodd y fenyw ddamwain.damwain
Gwelodd Huw ddrama dda.drama
Coginiodd fy mam ginio blasus.cinio
Planais flodau yn yr arddblodau
BrawddegYsgrifennodd y doctor lythyr.
Gwrthrychllythyr
BrawddegCafodd y fenyw ddamwain.
Gwrthrychdamwain
BrawddegGwelodd Huw ddrama dda.
Gwrthrychdrama
BrawddegCoginiodd fy mam ginio blasus.
Gwrthrychcinio
BrawddegPlanais flodau yn yr ardd
Gwrthrychblodau

Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.

  • Gwelwyd damwain ar y stryd.
  • Ysgrifennwyd llyfr gan y fenyw.
  • Plannwyd blodau gan yr ysgol.
  • Coginiwyd cinio blasus gan fy nhad.
  • Gwelwyd drama yn y theatr.
  • Cafwyd parti da neithiwr.

Question

Noda'r goddrych a'r gwrthrych yn y brawddegau canlynol. Does dim goddrych ym mhob brawddeg.

  • Cafodd y bachgen gar fel anrheg pen-blwydd.
  • Canwyd sawl â boblogaidd yn y gig neithiwr.
  • Gwelodd Tomos fwnci yn y sŵ.
  • Darganfuwyd corff marchog o'r Canol Oesoedd yn y bedd.