鶹Լ

Deall cenedl enwau

Graffeg o ddyn a menyw yn dal cardiau sy'n dangos geiriau Benywaidd a Gwrywaidd

Os wyt ti'n cael trafferth penderfynu os yw gair yn wrywaidd neu'n fenywaidd, cofia fod enw benywaidd fel arfer (ag eithrio geiriau sy'n dechrau gyda 'll' neu 'rh') yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod:

  • y
  • yr
  • 'r

Nid yw enw gwrywaidd yn treiglo ar ôl y fannod:

BenywaiddGwrywaidd
y goedeny car
y ddynesy dyn
y fraichy bachgen
y ferchy map
Benywaiddy goeden
Gwrywaiddy car
Benywaiddy ddynes
Gwrywaiddy dyn
Benywaiddy fraich
Gwrywaiddy bachgen
Benywaiddy ferch
Gwrywaiddy map

Mae modd hefyd ddyfalu cenedl enw trwy edrych ar derfyniad gair, er enghraifft, mae enw benywaidd yn aml iawn yn gorffen gydag 'ach'.

TerfyniadEnghraifft
-achCyfrinach
-aethTystiolaeth
-asCymwynas
-ebTaleb
-egDameg
-ellLlinell
-enCoeden
-esYsgrifenyddes
-faDerbynfa
-aethTystiolaeth
Terfyniad-ach
EnghraifftCyfrinach
Terfyniad-aeth
EnghraifftTystiolaeth
Terfyniad-as
EnghraifftCymwynas
Terfyniad-eb
EnghraifftTaleb
Terfyniad-eg
EnghraifftDameg
Terfyniad-ell
EnghraifftLlinell
Terfyniad-en
EnghraifftCoeden
Terfyniad-es
EnghraifftYsgrifenyddes
Terfyniad-fa
EnghraifftDerbynfa
Terfyniad-aeth
EnghraifftTystiolaeth

Cofia fod:

  • yna eithriadau, ee bachgen, gwasanaeth, hiraeth, pennaeth
  • ambell enw yn wrywaidd ac yn fenywaidd, ee amrywiaeth
  • cenedl enwau'n gallu amrywio rhwng de Cymru a gogledd Cymru, ee cwpan, munud

Mae yna enwau gwrywaidd sydd â therfyniadau amlwg hefyd fel y gwelir yn y tabl hwn.

TerfyniadEnghraifft
-adurCyfrifiadur
-debUndeb
-dodUndod
-derDewrder
-hadBoddhad
-iadDymuniad
-iantLlwyddiant
-rwyddEuogrwydd
-ynPlentyn
Terfyniad-adur
EnghraifftCyfrifiadur
Terfyniad-deb
EnghraifftUndeb
Terfyniad-dod
EnghraifftUndod
Terfyniad-der
EnghraifftDewrder
Terfyniad-had
EnghraifftBoddhad
Terfyniad-iad
EnghraifftDymuniad
Terfyniad-iant
EnghraifftLlwyddiant
Terfyniad-rwydd
EnghraifftEuogrwydd
Terfyniad-yn
EnghraifftPlentyn

Ymarfer

Question

Dewisa genedl enw'r geiriau canlynol:

GairCenedl
Holiadur
Deiseb
Anhawster
Eglurhad
Esblygiad
Senstifrwydd
Cymwynas
Llythyr
Llwy
Campfa
Amrywiaeth
GairHoliadur
Cenedl
GairDeiseb
Cenedl
GairAnhawster
Cenedl
GairEglurhad
Cenedl
GairEsblygiad
Cenedl
GairSenstifrwydd
Cenedl
GairCymwynas
Cenedl
GairLlythyr
Cenedl
GairLlwy
Cenedl
GairCampfa
Cenedl
GairAmrywiaeth
Cenedl