鶹Լ

Defnyddio berfau

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng berf, berfenw a rhagenw?

Mae berf yn dweud tri pheth sef beth, pryd a phwy.

Graffeg yn esbonio beth yw 'berf' ac yn dangos merch wedi dihuno

Mae berfenw yn dweud un peth yn unig sef enwi'r weithred, ee 'gwrando', 'cerdded', 'yfed', 'siarad', 'edrych', 'dawnsio'.

Graffeg yn esbonio beth yw 'berfenw' ac yn dangos merch yn cysgu

Rhagenw yw gair sy'n cael ei ddefnyddio yn lle enw wrth gyfeirio at berson, ee 'fi', 'chi', 'ti'.

Graffeg o ddyn yn dal cerdyn sy'n esbonio fod Fi, Chi, Nhw yn rhagenwau