Y triongl tân
Symbol yw’r triongl tân sy’n dangos y tri pheth sydd eu hangen er mwyn i dân losgi, sef:
- gwres
- ocsigen
- tanwydd
Mae cael gwared ag unrhyw un o’r rhain yn golygu nad yw’r tân yn gallu llosgi. Mae hyn yn golygu bod y triongl tân yn ddefnyddiol iawn wrth atal tân a diffodd tân.
Cael gwared ag ocsigen
Mae modd cael gwared ag ocsigen o’r ardal o gwmpas tân drwy ddefnyddio diffoddwr carbon deuocsid neu flanced dân. Mae’r diffoddwr carbon deuocsid yn gwthio ocsigen oddi wrth y tân ac yn rhoi carbon deuocsid yn ei le, sy’n anfflamadwy ac yn fwy dwys nag aer. Mae blancedi tân yn ffurfio sêl o gwmpas y tân ac yn atal mwy o ocsigen rhag cyrraedd y tân.
Enghraifft arall o gael gwared ag ocsigen yw cau drysau wrth adael adeilad er mwyn atal cyflenwadau ocsigen ffres rhag mynd i mewn i’r adeilad.
Cael gwared â gwres
Mae chwythu fflam cannwyll i’w diffodd hi’n enghraifft dda o hyn. Mae’r aer sy’n symud yn gyflym yn cael gwared â’r gwres o’r gannwyll, gan ei hatal hi rhag llosgi mwy.
Un dull defnyddiol o gael gwared o wres o dân yw drwy ddefnyddio dŵr, sy’n amsugno’r gwres o dân yn effeithiol iawn. Fodd bynnag, ddylet ti byth ddefnyddio dŵr ar danau trydanol - oherwydd y risg o sioc drydanol, nac ar danau olew - dydy olew a dŵr ddim yn cymysgu, felly yr unig beth mae’r dŵr yn ei wneud yw gwneud i’r olew ffurfio defnynnau llai, felly mae’n gwneud y tân yn waeth.
Cael gwared â thanwydd
Drwy ddefnyddio defnyddiau anhylosg ni fydd yr un ffynhonnell danwydd yn ddigonol i adael i dân barhau i losgi, felly mae hwn yn ddull effeithiol iawn o atal tân. Mae defnyddiau anhylosg yn cael eu defnyddio mewn dillad, dodrefn a defnyddiau adeiladu. Hefyd, mae modd rheoli tanau coedwigoedd yn fwy effeithiol drwy dorri coed o gwmpas y tân i atal y tân rhag lledaenu. Brêc rhag tân yw’r dull hwn.
Cael gwared | Dull | Math o Dân |
Ocsigen | Blanced dân, diffoddwr CO2 | Tanau olew, tanau mewn sosban sglodion, tanau trydanol |
Gwres | ŵ | Tanau mewn tai, tanau coed, tanau papur |
Tanwydd | Brêc rhag tân | Tanau coedwig |
Cael gwared | Ocsigen |
---|---|
Dull | Blanced dân, diffoddwr CO2 |
Math o Dân | Tanau olew, tanau mewn sosban sglodion, tanau trydanol |
Cael gwared | Gwres |
---|---|
Dull | ŵ |
Math o Dân | Tanau mewn tai, tanau coed, tanau papur |
Cael gwared | Tanwydd |
---|---|
Dull | Brêc rhag tân |
Math o Dân | Tanau coedwig |