Hylosgi tanwyddau
Hylosgi cyflawn
Sylweddau sy’n adweithio ag ocsigen i ryddhau egni defnyddiol (ecsothermig) yw tanwyddau. Mae’r rhan fwyaf o’r egni’n cael ei ryddhau ar ffurf gwres, ond mae egni golau hefyd yn cael ei ryddhau.
Ocsigen yw tua 21 y cant o’r aer. Pan mae tanwydd yn llosgi mewn digonedd o aer, mae’n cael digon o ocsigen i hylosgi’n gyflawn.
Ar gyfer hylosgiad cyflawn, mae angen digonedd o aer fel bod yr elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yn y tanwydd yn adweithio’n llawn ag ocsigen.
Mae tanwyddau fel nwy naturiol a phetrol yn cynnwys hydrocarbonau. Dim ond hydrogen a charbon sydd yn y cyfansoddion hyn. Pan maen nhw’n llosgi’n gyflawn:
- mae’r carbon yn ocsidiadAdwaith lle mae sylwedd yn ennill ocsigen neu’n colli electronau. i ffurfio carbon deuocsid
- mae’r hydrogen yn ocsidio i gynhyrchu dŵr (cofia fod dŵr, H2O, yn ocsid hydrogen)
Yn gyffredinol, ar gyfer hylosgiad cyflawn:
hydrocarbon + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr
Dyma’r hafaliad ar gyfer hylosgiad cyflawn methan, sy’n cael ei ddefnyddio mewn llosgyddion Bunsen:
methan + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr
CH4 + 2O2 → CO2 + 2H2O
Dyma’r hafaliad ar gyfer hylosgiad cyflawn propan, sy’n cael ei ddefnyddio mewn poteli nwy:
propan + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr
C3H8 + 5O2 → 3CO2 + 4H2O
Mae ethanol, alcohol syml, hefyd yn hylosgi i ffurfio carbon deuocsid a dŵr:
ethanol + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr
C2H5OH + 3O2 → 2CO2 + 3H2O