Olew crai, tanwyddau a chemeg organig
Olew a chracio
Mae’r rhan fwyaf o'n tanwyddau a'n plastigion yn deillio o olew. Gallwn ni ddefnyddio distyllu ffracsiynol i wahanu olew crai yn wahanol ffracsiynau.
Hylosgi tanwyddau a’r triongl tân
Mae amryw o danwyddau yn hylosgi, ac mae hi'n bosibl adnabod y cynhyrchion. Mae'r triongl tân yn dangos y tri pheth sydd eu hangen er mwyn i dân losgi. Mae modd defnyddio amryw o ffyrdd i ddiffodd tân. Mae calorimedreg yn cael ei defnyddio i fesur egni.
Alcanau, alcenau a phlastigion
Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.
Ethanol a sbectrosgopeg [TGAU Cemeg yn unig]
Mae ethanol, methanol a phropanol yn fathau o alcohol. Rydyn ni’n eu defnyddio nhw fel tanwyddau a hydoddyddion, ac mae ethanol hefyd i’w gael mewn diodydd alcoholig. Byddwn ni hefyd yn sôn am sbectrosgopeg isgoch ar gyfer disgyblion haen uwch.