Distyllu ffracsiynol olew crai
Mae olew craiCymysgedd o hydrocarbonau, alcanau yn bennaf, sydd wedi eu ffurfio dros filiynau o flynyddoedd o weddillion organebau morol o’r oes a fu. yn gymysgedd o hydrocarbonCyfansoddyn sy’n cynnwys hydrogen a charbon yn unig. sydd wedi ffurfio o weddillion organebau morol syml dros filiynau o flynyddoedd.
Mae distyllu ffracsiynol yn gwahanu cymysgedd yn nifer o wahanol rannau, sef ffracsiynau. Ffracsiwn o olew crai yw cymysgedd o gemegion yn yr olew crai sydd â berwbwyntY tymheredd y mae sylwedd yn newid o fod yn hylif i fod yn nwy. tebyg.
Rydyn ni’n gosod colofn ffracsiynu uchel uwchben y cymysgedd, ac mae llawer o gyddwysyddion yn dod oddi arno ar wahanol uchderau. Mae’r golofn yn boeth yn y gwaelod ac yn oerach yn y top. Mae sylweddau â berwbwyntiau uchel yn cyddwysoNewid mewn cyflwr yw cyddwysiad lle mae nwy yn troi’n hylif wrth oeri. yn y gwaelod, ac mae sylweddau â berwbwyntiau is yn cyddwyso ar y ffordd i’r top.
Mae'r olew crai yn cael ei anwedduY broses o droi o hylif i nwy neu anwedd. mewn ffwrnais cyn mynd i’r golofn ffracsiynu, lle bydd anweddau’r olew crai yn cyddwyso ar wahanol dymereddau. Mae pob ffracsiwn yn cynnwys moleciwlau hydrocarbon â nifer tebyg o atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. carbon ac amrediad tebyg o ferwbwyntiau (er enghraifft, mae gan y cemegion yn ffracsiwn y nwyon petroliwm i gyd ferwbwyntiau o dan 25°C).
Ffracsiynau olew
Mae’r diagram isod yn crynhoi prif ffracsiynau olew crai a sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw, a’r tueddiadau yn eu priodweddau. Cofia, mae’r nwyon yn gadael o dop y golofn, ac mae pob ffracsiwn arall o olew crai’n cael ei echdynnu fel hylif.
Wrth i ti fynd i fyny’r golofn ffracsiynu, mae gan yr hydrocarbonau:
- hyd cadwyn byrrach
- berwbwyntiau is
- llai o ludedd (maen nhw’n llifo’n rhwyddach)
- mwy o anweddolrwydd (maen nhw'n hawdd i'w hanweddu)
- mwy o fflamadwyedd (maen nhw’n tanioMynd ar dân.'n rhwyddach ac yn llosgi’n lanach)
- lliw goleuach (mae’r ffracsiwn isaf yn ddu, mae’r ffracsiynau canol yn amrywio o frown i felyn ac mae’r ffracsiwn uchaf yn ddi-liw)
Tanwyddau ffosil eraill
Nid olew crai yw’r unig tanwydd ffosilTanwydd sydd wedi'i wneud o weddillion planhigion ac anifeiliaid hynafol, ee glo, olew a nwy naturiol..
Mae nwy naturiol wedi’i wneud o nwy methan yn bennaf. Rydyn ni’n ei ddefnyddio mewn boeleri domestig, mewn poptai ac mewn llosgyddion Bunsen, yn ogystal ag mewn rhai gorsafoedd trydan.
Cafodd glo ei ffurfio o weddillion coedwigoedd hynafol. Gallwn ni ei losgi mewn gorsafoedd trydan. Carbon yw glo gan fwyaf, ond mae hefyd yn gallu cynnwys cyfansoddion sylffwr, sy’n cynhyrchu sylffwr deuocsid pan gaiff y glo ei losgi. Mae’r nwy hwn yn achosi glaw asidGlaw sy’n cynnwys nwyon asidig hydoddedig megis nitrogen ocsid a sylffwr deuocsid.. Hefyd, gan fod pob tanwydd ffosil yn cynnwys carbon, bydd llosgi unrhyw danwydd ffosil yn cyfrannu at cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear. am ei fod yn cynhyrchu carbon deuocsid.