Alcoholau
Mae’r alcoholau’n cyfres homologaiddTeulu o gyfansoddion organig sydd yn yr un grŵp gweithredol ac sydd â phriodweddau cemegol tebyg. o cyfansoddyn organigCyfansoddyn sy’n cynnwys atomau carbon, sydd wedi eu cysylltu gan fondiau cofalent ac atomau eraill (gan gynnwys atomau carbon eraill). â’r fformiwla gyffredinol:
CnH2n+1OH
Maen nhw i gyd yn cynnwys y grŵp gweithredolAtom, neu grŵp o atomau, sy’n pennu prif briodweddau cemegol cyfansoddyn organig. –O±á, a hwn sy’n gyfrifol am briodweddau alcoholau.
Mae enwau alcoholau’n diweddu ag ‘ol’, er enghraifft ethanol.
Y tri alcohol cyntaf yn y gyfres homologaidd yw methanol, ethanol a phropanol. Maen nhw’n fflamadwyGallu cynnau a llosgi. iawn, sy’n golygu eu bod nhw’n ddefnyddiol fel tanwyddau. Rydyn ni hefyd yn eu defnyddio nhw fel hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant. mewn marcwyr, meddyginiaethau, a chosmetigau (fel diaroglyddion a phersawrau).
Ethanol yw’r alcohol sydd mewn diodydd alcoholig fel gwin a chwrw. Rydyn ni’n cymysgu ethanol â phetrol i’w ddefnyddio fel tanwydd.
Dyma enwau ac adeileddau’r alcoholau symlaf: