Â鶹ԼÅÄ

Defnyddio tablau

Mae’n bosibl defnyddio tablau i gyflwyno data rhifiadol.

Mae tablau yn gallu bod yn effeithiol wrth ddangos sut mae un math o wybodaeth yn amrywio mewn gwahanol gyd-destunau, ee mewn gwahanol wledydd, mewn gwahanol flynyddoedd neu mewn gwahanol ysgolion ac yn y blaen.

Mae’r tabl hwn yn dangos y cyfraddau gordewdra uchaf mewn gwahanol wledydd.

Tabl yn dangos % y boblogaeth sy'n ordew mewn gwahanol wledydd: Mecsico, Y Deyrnas Unedig, Slofacia, Groeg, Awstralia, Seland Newydd, Hwngari, Lwcsembwrg, Y Weriniaeth Tsiec.

Mae tablau hefyd yn gallu bod yn effeithiol pan nad oes llawer o ddata i’w dangos, neu os wyt ti am dynnu sylw at werth penodol.

Mae’r tabl hwn yn dangos cyfraddau diweithdra y Deyrnas Unedig dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Tabl yn dangos canran cyfradd diweithdra yn ôl blwyddyn: 2006: 4.7%. 2016: 4.8%.

Mae’r tabl yn dangos mai 0.1 y cant yw’r newid yn y gyfradd ddiweithdra, er gwaetha’r bwlch o ddeng mlynedd.

Yn ogystal, mae’n bosibl defnyddio gwybodaeth berthnasol o dabl neu graff mawr i greu tabl neu graff llai sy’n dangos y data sy’n berthynol i dy bwnc di.

Dyma graff sy’n dangos cyfraddau diweithdra ymhlith pobl ifanc mewn gwahanol wledydd.

Siart bar yn dangos canran cyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc yng ngwledydd Ewrop.

Byddai’n bosibl i ti godi’r wybodaeth allweddol o’r graff hwn a chreu tabl i ddangos hyn yn gliriach. Yma mae’r tabl wedi cael ei greu i ddangos y wlad sydd â’r gyfradd isaf a’r gyfradd uchaf o’i chymharu â’r Deyrnas Unedig.

Tabl yn dangos canran cyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl gwlad: Lwcsembwrg: 1%. Y Deyrnas Unedig: 21%. Groeg: 59%.

Neu, byddai’n bosibl i ti roi’r data hyn mewn graff llai neu symlach er mwyn tynnu sylw at y gwahaniaeth.

Siart bar yn dangos canran cyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl gwlad: Lwcsembwrg: 1%. Y Deyrnas Unedig: 21%. Groeg: 59%.

Mae’n haws gweld nawr bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn isel iawn yn Lwcsembwrg ond yn uchel iawn yng ngwlad Groeg, a bod y Deyrnas Unedig rywle yn y canol.